Syniadau hawdd, di-straen ar gyfer chwarae yn yr awyr agored

Fel rhiant, gofalwr, nain neu daid, efallai y byddet yn cofio bod chwarae yn yr awyr agored ar dy ben dy hun neu gyda ffrindiau a theulu yn arfer bod mor syml a didrafferth â gwisgo dy dreinyrs ac i ffwrdd â thi.

Y dyddiau hyn, a ninnau'n cael ein hatgoffa'n rheolaidd am beryglon traffig yn ein cymunedau, gall chwarae yn yr awyr agored deimlo'n fwy fel trip y mae'n rhaid ei chynllunio. Gall hyn wneud i rieni a gofalwyr deimlo dan bwysau i sicrhau bod y trip yn un cyffrous a gwerth chweil.

Fodd bynnag, nid oes angen i chwarae yn yr awyr agored deimlo fel digwyddiad mawr. Hefyd nid oes angen iddo fod yn ddrud ac nid oes angen teithio ymhell. Mae yna lawer o ffyrdd i chwarae yn yr awyr agored yn nes at adref, yn rhad ac am ddim, y bydd plant yn eu mwynhau ac yn cael llawer o hwyl. Y cyfan sydd ei angen ar blant yw’r amser, y lle a’r rhyddid i chwarae yn yr awyr agored a gadael i’w dychymyg redeg yn wyllt.

Yma mae'r teulu Musinguzi yn rhannu eu syniadau am wneud chwarae yn yr awyr agored yn hwyl:

 

… Felly gadewch i ni gadw pethau'n syml – cydia yn dy gôt, gwisga dy dreinyrs, a cher allan i'r awyr agored i gael hwyl heb ei gynllunio, fel yr hen ddyddiau!

I gael mwy o ysbrydoliaeth am ffyrdd syml o chwarae yn yr awyr agored yn rhad ac am ddim, darllena ein herthyglau blog eraill:

Syniadau chwarae yn yr awyr agored

Awgrymiadau anhygoel i chwarae ym myd natur a’i fwynhau gyda phlant o bob oedran

Beth am i ni fynd allan i chwarae?!

Anturiaethau chwarae bob dydd

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae ar ddiwrnod gwlyb

 

Yn ôl i’r holl erthyglau

Ffyrdd syml o chwarae gartref

Erthygl nesaf
English