Ffyrdd syml o chwarae gartref
Mae yna lawer o ffyrdd syml, hawdd i dy blentyn chwarae a chael hwyl gartref. Gall plant wneud defnydd creadigol o unrhyw ofod sydd ar gael – hyd yn oed gornel mewn ystafell – os ydynt yn cael rhyddid i chwarae a rhywfaint o deganau neu bethau eraill i helpu eu dychymyg.
Yn aml, y pethau symlaf rydyn ni'n eu gwneud sy'n gallu troi'n fwyaf o hwyl a sbri!
Dyma rai syniadau gan y teulu Hamilton ar gyfer ffyrdd syml o chwarae ac annog dychymyg dy blentyn o gwmpas y cartref.
Chwilio am ysbrydoliaeth i gefnogi chwarae dy blentyn gartref? Rhowch gynnig ar rhain:
- Rasys “ŵy” ar lwy (dim angen wyau go iawn - bydd pêl ping-pong yn gweithio’n iawn)
- Actio stori allan o lyfr
- Brwydr glustogau dan fwgwd (blindfold) – gwisgo hwdis y tu ôl ymlaen
- Addurno canhwyllau
- Chwarae llif draws (Cat’s cradle)
- Dal y dylwythen deg (gan ddefnyddio tortsh a’i goleuo mewn ystafell dywyll)
- Gemau clapio
- Brwydr cyrc … tebyg i frwydr fwyd ond gyda llai o lanast!
- Tynnu lluniau a lliwio i mewn
- Gwisgo i fyny
- Mae’r llawr yn lafa
- Mi welaf i, â’m llygad bach i…
- Sioe ffasiynau
- Chwarae cuddio
- Chwarae Sgots (Hopscotch) – creu’r grid gyda thâp ar lawr
- Modelu jync gydag eitemau tŷ heb fod yn rhy fawr
- Disgo yn y gegin
- Creu ceir, cestyll neu longau gofod gyda bocsys cardboard
- Creu cuddfannau
- Creu awyrennau papur
- Creu bydoedd bychain gyda dinosoriaid, ceir bach, anifeiliaid bach
- Cadeiriau cerddorol
- Cwrs rhwystrau – gan ddefnyddio clustogau’r soffa, cadeiriau
- Ping-pong neu bêl foli gyda pêl chwyddadwy
- Chwarae ysgol, caffi, swyddfa, siop, trin gwallt
- Creu perfformiad
- Carreg / papur / siswrn
- Drymiau sosbannau
- ‘Simon says’
- Sgipio neu Sgipio Ffrengig (gydag elastig)
- Pypedau sanau
- Sledio lawr grisiau mewn bocsys cardbord a chasys gobenyddion
- Cerrig sarn gyda chlustogau
- Te parti / picnic dan do
- Helfa drysor
Sawl un all dy deulu di ei wneud?
Gall ein rhestr 35 syniad chwarae dan do cael eu hargraffu a'u rhannu.