Paratoi ein plant i chwarae’n ddiogel yn yr awyr agored heb oruchwyliaeth – safbwynt rhiant

Yn yr erthygl blog gwadd hon, mae Rachel Pitman o Gaerdydd, sy’n fam i ddwy ferch wyth a deuddeg oed, yn rhannu ei phrofiadau o baratoi ei phlentyn hynaf i chwarae’n annibynnol yn yr awyr agored.

Ers pan oeddwn i tua saith oed, rwy’n cofio mynd allan i chwarae yn aml gyda ffrindiau yn ein cymdogaeth. Roeddem yn chwarae gyda’n doliau Barbie ar y palmant, yn mynd i lawr y bryn ar ein sglefrfyrddau, yn curo ar ddrysau tai ein gilydd i ‘ddod allan i chwarae’ neu’n treulio amser gyda’n gilydd yn dilyn ein dychymyg. Ar wahân i ruthro gartref i gael tamaid i’w fwyta, doeddwn i ddim yn gweld llawer ar fy rhieni – roedden nhw wrthi’n brysur yn cyflawni’r tasgau diflas y mae oedolion yn eu gwneud.

Fe wnaeth fy annibyniaeth gynyddu’n naturiol – pan oeddwn i’n 10 oed, roeddwn i’n cerdded i’r parc ar fy mhen fy hun, ac o 12 oed ymlaen, roedd fy ffrindiau a fi yn mynd i’r pwll nofio lleol. Dyma oedd y norm i’r rhan fwyaf o blant yr oeddwn i’n eu hadnabod – roedd gennym hawl i chwarae yn yr awyr agored heb i’n rhieni fod yno yn gwylio pob symudiad. Rhaid i mi gyfaddef bod y gymdogaeth y cefais fy magu ynddi ychydig yn dawelach na ble rwy’n byw fel oedolyn, ond roedd ceir o gwmpas y lle ynghyd â risgiau eraill – fel cymdogion anfodlon, peryglon dieithriaid neu bethau eraill a allai achosi niwed corfforol i mi.

Fel rhiant, rwyf wedi’i chael hi’n anodd gadael i fy mhlant gael yr un annibyniaeth ag a gefais i pan oeddwn i’n ifanc. Er fy mod i am iddyn nhw gael rhyddid, datblygu eu gwytnwch a dod i adnabod eu cymdogaeth, mae’r normau cymdeithasol wedi newid. Mae’n teimlo fel ein bod ni’n poeni mwy am y risgiau ac yn ymddiried llai yn ein cymunedau. Mae’r mannau chwarae yn yr awyr agored yn ymddangos fel pe baent wedi’u cyfyngedig i fannau penodol fel gerddi, parciau a chaeau chwarae – ac yn aml gyferbyn â ffordd brysur, gyda’r traffig yn teimlo’n fwy o fygythiad oherwydd nifer y ceir.

Serch hynny, mae fy mhlant yn cyrraedd yr oedran ble y mae angen mwy o annibyniaeth arnyn nhw. Yn ddealladwy, maen nhw am dreulio mwy o amser gyda’u ffrindiau, heb oruchwyliaeth. Fe ddechreuodd hyn pan oedd fy mhlentyn hynaf, a oedd yn naw ar y pryd hynny, eisiau mynd allan i’r parc mawr ar bwys ein cartref gyda’i ffrindiau, ac allan o fy ngolwg. Yna, pan oedd yn 10 oed, roedd hi eisiau cerdded i’r ysgol gynradd ac yn ôl gyda’i ffrindiau bob dydd. Ar ôl cymryd y camau cyntaf hyn tuag at annibyniaeth, roedd hi eisiau treulio amser yn y parc lleol neu fynd i wario ei harian poced mewn caffis a siopau elusen lleol … Pan oedd hi bron yn 12 oed, aeth ar ei thrip cyntaf ar drafnidiaeth gyhoeddus i’r ddinas gyda’i ffrindiau – profiad brawychus i mi, ond un pleserus a hyderus iddi hi.

Er bod rhoi mwy o annibyniaeth i fy mhlentyn hynaf fynd allan i chwarae a threulio amser gyda ffrindiau, a bod yn gyfrifol am ei diogelwch personol yn dal i deimlo ychydig yn frawychus, mae ambell beth wedi ein helpu ni fel teulu i ymdopi â hyn:

  • Gwybod yn union ble mae fy mhlentyn yn mynd, gyda phwy, a phryd mae angen iddi ddod gartref.
  • Dysgu fy mhlentyn am ddiogelwch y ffordd a thalu sylw i’r pethau o’i hamgylch.
  • Sicrhau bod fy mhlentyn yn gwybod am berygl dieithriaid ac yn gwybod i bwy i ofyn am help, fel yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, swyddogion diogelwch, gweithwyr siopau.
  • Ffôn symudol – er mai dewis personol iawn oedd penderfynu pryd roedd ein plentyn yn barod i gael ffôn, mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i ni gan ein bod ni’n gallu cadw mewn cysylltiad pan na fydd hi gartref.
  • Gwybod pwy yw’r rhai y mae fy mhlentyn yn treulio amser gyda nhw – eu henwau, oedran, ble maen nhw’n a sut maen nhw’n adnabod ei gilydd.
  • Bod yn agored ac yn onest am ein teimladau, a gwneud yr hyn sy’n gyfforddus i ni – sydd weithiau’n golygu dweud ‘Na’.

Yn y fideo hwn, gallwch wylio ein teulu ar ddechrau’r daith o adael i fy mhlant chwarae’n annibynnol, a sut y gwnaethom ymdopi â hyn:

Yn y pen draw, mae profiad pob rhiant yn wahanol ac mae’n golygu gwybod pryd fydd eich plentyn yn barod i fod yn fwy annibynnol. O ran ein teulu ni, mae hyn yn parhau i fod yn broses raddol ac rydym yn ei datrys gyda’n gilydd, gam wrth gam.

I gael cymorth, darllenwch y blog Plentyndod Chwareus, Paratoi eich plentyn i chwarae y tu allan yn ddiogel ac yn hyderus.

 

Yn ôl i’r holl erthyglau

Syniadau hawdd, di-straen ar gyfer chwarae yn yr awyr agored

Erthygl nesaf
English