Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2024

Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2024

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Eleni, mae Diwrnod Chwarae’n digwydd Ddydd Mercher 7 Awst. Mae’n gyfle i ddathlu hawl plant i chwarae ac i atgoffa pawb am bwysigrwydd chwarae ar Ddiwrrnod Chwarae, a phob dydd.

Ar Ddiwrnod Chwarae, bydd mudiadau ledled Cymru a gweddill y DU yn trefnu digwyddiadau i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae’r digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i blant a theuluoedd fynd allan i chwarae. Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn amrywio o bicnic tedi bêrs yn y parc i ddathliadau tref-gyfan – a phopeth yn y canol!

Digwyddiadau yn dy ardal di

I dy helpu di i gynllunio ar gyfer Diwrnod Chwarae, rydym yn rhannu gwybodaeth am rai digwyddiadau sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu:

Sir Benfro

Diwgyddiad: Playday 2024
Trefnydd:
Cyngor Sir Benfro
Lleoliad: Llys Y Fran, Clarbeston Road, Sir Benfro, SA63 4RR
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 10:00am tan 3:00pm
Cyswllt: Alys Lewis, Cyngor Sir Benfro

Diwrnod i ddathlu chwarae – rydym wedi cynllunio diwrnod cyffrous, gyda gweithgareddau am ddim ar gyfer y teulu cyfan. Gyda peintio wynebau, helfa chwilog, cestyll neidio a mwy! Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Dysgwch fwy

Blaenau Gwent

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
Lleoliad: Tŷ a pharc Bedwellty, Tredegar, NP22 3XN
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 11:00am tan 3:00pm
Cyswllt:
Sharon Cargill, Tîm Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Bydd Blaenau Gwent yn dod yn fyw gyda sŵn plant yn chwarae i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Mynediad am ddim a gweithgareddau am ddim – hwyl i bawb yn y teulu ac i bob oedran!

Dysgwch fwy

Bro Morgannwg

Digwyddiad: Vale Play Team and Partners Celebrate National Play Day 2024
Trefnydd:
Tîm Chwarae'r Fro
Lleoliad: Gladstone Gardens, Gladstone Rd, y Bari, CF62 8DD
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 11:00am tan 3:00pm
Cyswllt: Tîm Datblygu Chwarae'r Fro

Ymunwch â Thîm Chwarae’r Fro a phartneriaid i ddathlu Diwrnod Chwarae 2024 gyda adeiladu cuddfannau, modelu jync, dinas cardbord, a llawer mwy o hwyl ar gyfer y teulu cyfan. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni – edrychwn ymlaen i’ch croesawu i’n digwyddiad llawn hwyl, rhad ac am ddim, i’r teulu cyfan!

Dysgwch fwy

Caerdydd

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaethau Chwarae Plant, Cyngor Caerdydd
Lleoliad: Parc y Mynydd Bychan, CF14 4EN (ymunwch â ni yn y cae ger y rheilffordd fach)
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 1:00pm tan 4:00pm
Cyswllt: Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd

Galwch draw i fwynhau gweithgareddau fel gemau, adrodd straeon, chwaraeon, celf a chrefft a mwy.

Dysgwch fwy

Ceredigion

Digwyddiad: RAY Playday
Trefnydd: RAY Ceredigion
Lleoliad: Cae Sgŵar Alban, Aberaeron, Ceredigion
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 11:30am tan 3:30pm
Cyswllt:
RAY Ceredigion

Mae Diwrnod Chwarae RAY yn ddigwyddiad blynyddol i ddathlu Diwrnod Chwarae’r DU. Mae mynediad am ddim i’r digwyddiad ac mae pob gweithgaredd yn rhad ac am ddim.

Mae dros 30 o fudiadau lleol sy’n cefnogi plant a theuluoedd yn y sîr yn mynychu, ac mae pob mudiad yn dod a gweithgaredd rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc.

Dysgwch fwy

Castell-nedd Port Tablot

Digwyddiad: NPT Family Fun Day
Trefnydd:
 Tîm Teulu Castell-nedd Port Talbot
Lleoliad: Cwrt Herbert Leisure Centre, Neath Abbey Road, Castell Nedd SA10 7BR
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 10:30am tan 3:30pm
Cyswllt: Teulu CNPT

Diwrnod allan rhad ac am ddim i’r teulu gyda amrywiaeth o weithgareddau, crefftau, castell neidio, peintio wynebau a llawer mwy! Newydd y flwyddyn yma – ystafell synhwyraidd tawel ar gyfer rheini ble mae’r sŵn a phrysurdeb y brif neuadd yn ormod.

Dysgwch fwy

Sir Gâr

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae, Cyngor Sir Gâr
Lleoliad: Maes Y Gors, Llanelli, SA15 2SB
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 1:00pm tan 4:00pm
Cyswllt:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gâr

Dewch â'ch teulu ac ymunwch â'r dathliadau rhad ac am ddim, gyda gweithgareddau sy’n addas i bob oedran.

Dysgwch fwy

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae, Cyngor Sir Gâr
Lleoliad: Parc Rhydaman, SA18 3AN
Dyddiad: 9 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 1:00pm - 4:00pm
Cyswllt:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gâr

Dewch â'ch teulu ac ymunwch â'r dathliadau rhad ac am ddim, gyda gweithgareddau sy’n addas i bob oedran.

Dysgwch fwy

Merthyr Tudful

Digwyddiad: National Playday – Family Event 
Trefnydd: Canolfan Llesiant Gellideg
Lleoliad: Canol-y-Bryn, Heol Tai Mawr, Gellideg, Merthyr Tudful, CF48 1ND
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 12:00pm tan 4:00pm
Cyswllt: Grŵp Sefydliad Gellideg

Paratowch ar gyfer prynhawn o weithgareddau llawn hwyl, gan gynnwys sioeau hud gyda Magic Stu, sgiliau syrcas gyda Tom, gemau pêl-droed, hwyl castell neidio, celf a chrefft a llawer mwy.

Dysgwch fwy

Digwyddiad: Family Playfest 
Trefnydd: Hwb Gymunedol y Twyn
Lleoliad: Twyn Community Hub, The Hall, Glasier Road, Merthyr Tudful, CF470TD
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 11:00am tan 4:00pm
Cyswllt: Hwb Gymunedol y Twyn

Gweithgareddau am ddim dan do ac awyr agored drwy'r dydd i blant a theuluoedd o bob oed. Dim angen archebu.

Dysgwch fwy

Ynys Môn

Digwyddiad: Diwrnod Cendlaethol Chwarae Ynys Môn
Trefnydd:
Tîm Gofal Plant a Chwarae Cyngor Sir Ynys Môn
Lleoliad: Clwb Rygbi Llangefni Rugby Club, Cae Smyrna, Glanhwfa Road, Llangefni, Ynys Môn LL77 7EU
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 10:00am tan 2:00pm
Cyswllt: Kimberley Coll a Anne Williams, Cyngor Sir Ynys Môn

Mae gan pob plentyn ar hawl i chwarae – ar Ddiwrnod Chwarae a phob dydd. Yma ar Ynys Môn rydym yn dathlu 'Diwylliant Plentyndod' drwy gydweithio â sawl asiantaeth a gwneud Diwrnod Chwarae mor gynhwysol â phosibl i bawb fynychu, dathlu amrywiaeth ac adeiladu perthnasoedd. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ar fynediad

Dysgwch fwy

Wrecsam

Digwyddiad: Diwrnod  Chwarae Wrecsam 2024
Trefnydd:
Wrexham Play Network
Lleoliad: Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf. Canol dinas Wrecsam
Dyddiad: 7 Awst 2024
Amser dechrau a gorffen: 12:00pm tan 4:00pm
Cyswllt: Wrexham Play Network

Ymunwch â ni am brynhawn rhad ac am ddim yn llawn hwyr i bawb o bob oed. Dewch a dillad i newid iddynt a rhowch dro ar y llithren ddŵr, prosiectau celf, gweithgareddau blynyddoedd cynnar a’r go-certi.

Dysgwch fwy

Nodyn: wrth i Diwrnod Chwarae agosáu byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda digwyddiadau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi, felly cofia ddod yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Dathlu gyda theulu a ffrindiau

Hefyd, os nad oes digwyddiad cyhoeddus yn digwydd yn dy ardal di, beth am ddathlu gyda dy deulu gartref, neu gwrdd â ffrindiau yn y parc, maes chwarae neu’r traeth, i gael diwrnod yn llawn chwarae. Os wyt ti'n edrych am awgrymiadau chwareus, cymer gip olwg ar yr adran Syniadau chwarae.

Am y wybodaeth ddiweddaraf – ac i rannu sut wyt ti'n dathlu – defnyddia'r hashnod #DiwrnodChwarae2024 ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Diwrnod Chwarae

Teithiau cerdded chwareus

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

Erthygl nesaf
English