Gwneud chwarae’r tu allan yn ystod y gaeaf yn hawdd
Mae llawer o fanteision i chwarae’r tu allan. Yn ogystal â bod yn hwyl, mae'n helpu plant i ddysgu am y byd o'u cwmpas, ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer bywyd, a chadw'n heini ac yn iach. Yn aml, rydym yn aros i mewn pan fydd hi’n tywyllu’n gynnar a'r tywydd yn troi’n oerach, ond mae'n bwysig i blant (ac i ni fel oedolion) dreulio amser y tu allan ym mhob tymor.
Gall y tywydd gwlyb, oer a gwyntog wneud chwarae’r tu allan ychydig yn fwy heriol, ond gydag ychydig o baratoi a thipyn o ysbrydoliaeth, gall fod yr un mor hwyliog a hawdd ag yn ystod misoedd yr haf. Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer gwneud chwarae yn ystod y gaeaf yn hawdd.
Paratoi ar gyfer chwarae yn ystod y gaeaf
Bydd gwisgo plant yn briodol ar gyfer chwarae’r tu allan yn ei gwneud yr holl brofiad yn fwy pleserus ac yn golygu llai o gwyno. Dyma ein prif awgrymiadau:
- Defnyddio hen ddillad fel nad oes ots os ydyn nhw'n mynd yn fudr neu'n cael eu difrodi.
- Rhoi haenau o ddillad ar y plant er mwyn gallu eu tynnu a’u rhoi yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod pâr o welingtons ar gael ar gyfer diwrnodau gwlyb a sanau hir i’w gwisgo gyda nhw pan fydd hi’n oer.
- Cadw’n sych gyda dillad gwrth-ddŵr fel siacedi, trowsus a ‘onesies’.
- Cadw’n gynnes ar ddiwrnodau oer gyda hetiau, sgarffiau a menig.
Does dim rhaid i wisgo ar gyfer chwarae yn ystod y gaeaf fod yn ddrud. Edrycha am ddillad:
- ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol – mae pobl yn aml yn cynnig eitemau am ddim y mae eu plant wedi tyfu allan ohonyn nhw
- mewn siopau elusen lleol – mae dillad plant yn aml ar gael yn rhad iawn
- ar wefannau dillad ail-law – digonedd o ddewis am brisiau isel
- mewn cynlluniau cyfnewid dillad a banciau dillad sy’n cael eu rhedeg gan ysgolion neu grwpiau cymunedol
- mewn sêls yn y siopau.
A chofia ofalu amdanat ti dy hun hefyd tra byddi di y tu allan. Gallet ti:
- ddod â fflasg o siocled poeth neu ddiodydd poeth eraill
- dod â rhywbeth i’w roi ar feinciau gwlyb er mwyn i ti allu eistedd
- mynd i lefydd lle mae ‘na lloches, fel coetir neu barc gyda bandstand
- gwahodd ffrindiau a'u plant i'w wneud yn fwy o hwyl.
Deg syniad ar gyfer chwarae’r tu allan yn ystod y gaeaf
Nawr eich bod yn barod i chwarae’r tu allan yn ystod y gaeaf, dyma 10 peth y gall dy blant eu gwneud:
- Adeiladu cuddfan yn y coed neu yn dy ardd
- Mynd am dro gyda thortsys o amgylch y gymdogaeth
- Eistedd o amgylch tân yn yr ardd
- Cael ras ciwbiau iâ – ychwanegu lliw bwyd er mwyn gallu dweud pa giwb sy’n perthyn i bwy
- Trefnu helfa’r gaeaf (rhybuddia’r plant am y celyn pigog!)
- Gwisgo welingtons a neidio mewn pyllau dŵr
- Casglu pethau naturiol i greu crefftau tymhorol
- Mynd ar helfa synau i wrando am dylluanod ac adar eraill
- Mynd am dro yn eich man gwyrdd lleol
- Os gawn ni eira … creu cerfluniau eira a thaflu peli eira!
Ei gwneud yn hawdd mynd yn ôl i'r tŷ
Gall paratoi dy gartref i roi pethau fel cotiau gwlyb ac esgidiau glaw mwdlyd i'w cadw sicrhau bod dod yn ôl i’r tŷ ar ôl chwarae yn y gaeaf yn llawer haws. Dyma rai syniadau:
- Er mwyn cadw mwd allan o'r tŷ, cael lle penodol i dynnu welingtons. Rho bapur newydd ar y llawr a defnyddia rac esgidiau er mwyn lleihau’r llanast.
- Mae rac cotiau ger rheiddiadur yn ffordd dda o sychu cotiau gwlyb, a gall hors dillad dros reiddiadur fod yn dda ar gyfer sychu trowsusau, hetiau a menig.
- Cael cwpl o boteli dŵr poeth wrth law y gellir eu llenwi i helpu’r plant i gynhesu'n gyflym pan fydd hi wedi bod yn arbennig o oer.
- Cadw hen ddillad sbâr fel y gall plant chwarae allan bob dydd, hyd yn oed os yw dillad ddoe yn dal i sychu.
Mwy o ysbrydoliaeth
Cymer gip ar ein blogiau eraill i gael mwy o syniadau am bethau fel chwarae’r tu allan – beth bynnag fo’r tywydd a pharatoi plant i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus.