Chwarae’r tu allan – beth bynnag fo’r tywydd

Syniadau chwarae

Chwarae’r tu allan – beth bynnag fo’r tywydd

Mae chwarae’r tu allan ym mhob tywydd yn ffordd wych i gadw’n fywiog a dysgu am y byd. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud yn siŵr y gall plant ddal i chwarae trwy gydol y flwyddyn. Mae gwneud pethau fel sblasio mewn pyllau dŵr, chwilio am enfys neu grensian trwy ddail yr hydref i gyd yn lot fawr o hwyl.

Dyma rywfaint o bethau ymarferol y galli eu gwneud i’w gwneud hi’n haws i ti a dy blentyn chwarae’r tu allan, waeth beth fo’r tywydd.

Gwisgo ar gyfer y tywydd

  • Cofia gadw rhywfaint o hen ddillad y gall dy blentyn eu gwisgo’r tu allan fel bod dim ots os ydyn nhw’n cael eu baeddu.
  • Gwna’n siŵr bod gennyt welis yn barod ar gyfer diwrnodau gwlyb neu deithiau i archwilio nentydd a phyllau trai.
  • Cadwch yn sych drwy wisgo cot a throwsus sy’n dal dŵr.
  • Cadwch yn gynnes ar ddiwrnodau oer gyda hetiau, sgarffiau a menig.
  • Cofiwch het ac eli haul ar ddiwrnodau poeth, a gwisgo crys gyda llewys er mwyn gorchuddio ysgwyddau a breichiau.

Casglu dillad ac offer ar gyfer mynd allan

  • Cadw lygad ar y cyfryngau cymdeithasol – yn aml, bydd pobl am gael gwared ag eitemau y mae eu plant wedi tyfu allan ohonyn nhw am ddim.
  • Ymwela â’r siop elusen leol – yn aml, mae eitemau plant wedi’u prisio’n rhad iawn.
  • Cadw lygad am sesiynau cyfnewid dillad a banciau dillad gaiff eu rhedeg gan ysgolion neu grwpiau cymunedol.
  • Cadw lygad am sêl mewn siopau gweithgareddau awyr agored a gwersylla.
  • Cadw lygad am ymbaréls a photeli dŵr am byth.

Mynd allan gyda phobl eraill

  • Trefna bicnic a gofyn i bawb ddod â’u bwyd a’u danteithion eu hunain.
  • Cadw lygad am weithgareddau awyr agored am ddim a drefnir gan grwpiau chwarae, natur a chefn gwlad.
  • Trefna i gwrdd gyda ffrindiau i fynd am dro.
  • Teithiwch ychydig yn bellach ar drafnidiaeth gyhoeddus neu trwy rannu car.

Chwilio am gysgod

  • Dewisa rywle gyda chysgod ar ddyddiau heulog, poeth – er enghraifft, mae coed yn darparu cysgod naturiol sy’n wych ar gyfer chwarae.
  • Cer â phabell fechan, ymbarél fawr neu hyd yn oed gynfas fawr gyda chi y galli ei gosod i greu cysgod.
  • Gallwch gysgodi rhag tywydd gwlyb ac oer gan wneud y gorau o gysgod naturiol coed a choedwigoedd.
  • Adeiladwch eich cuddfannau eich hunain i gysgodi rhag y gwynt, y glaw, yr eira neu’r haul.

Delio gyda chwynion

  • Dangos i dy blentyn dy fod yn teimlo’n bositif ac yn gyffrous am fod y tu allan.
  • Gofynna rywfaint o gwestiynau. Pa ran ohonot ti sy’n teimlo’n oer? Ai dy ddillad di yw’r broblem? Wyt ti’n
  • Rho dro ar weithgaredd gwahanol i weld os wnaiff hynny wahaniaeth.
  • Cynheswch o’r tu mewn gyda diod cynnes neu fwyd blasus ar ddyddiau oer.
  • Oerwch gyda diod oer neu lolipop ar ddyddiau poeth.
  • Gorffwyswch am ychydig.
  • Bydd yn barod i fynd yn ôl i’r tŷ a rhoi tro arni eto ryw ddiwrnod arall.
English