Chwarae, sgriniau ac ymlacio
Safbwynt rhiant ar helpu plant i daro cydbwysedd rhwng y tri yn ystod y gwyliau
Yma mae Rachel, sy’n rhiant, yn rhannu’r pethau pwysig y mae wedi eu dysgu am daro cydbwysedd rhwng amser chwarae, amser segur ac amser sgrîn ei phlant.
Fel mam i ddau sy’n gweithio (un penderfynol iawn yn ei arddegau ac un bywiog sy’n oedran ysgol gynradd), mae’r cyfnod cyn gwyliau’r haf wastad yn teimlo fel cyfuniad o gyffro a’r bygythiad o anhrefn llwyr. Ar un llaw, ry’n ni’n edrych ymlaen at hoe a chyfleoedd i gael anturiau chwareus… ar y llaw arall, mae meddwl am daro cydbwysedd rhwng gweithgareddau fforddiadwy, sy’n hwyl, cyfyngu ar y defnydd o sgriniau a lleihau diflastod a checru yn gallu achosi chwys oer.
Dros amser, rwyf wedi sylweddoli bod y pethau hyn i gyd yn anochel. Mae’r hwyl, yr anghytuno, y diffyg amynedd i gyd yn gwbl normal! Yr hyn sy’n allweddol yw canfod cydbwysedd. Fel yng ngwers Elen Benfelen a’r Tair Arth – dim gormod o un peth ar draul y llall, ond cael pethau’n ‘berffaith’ ar gyfer ein teulu ni.
Cael pawb i gyfranogi
Un peth sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni yw cael y plant i helpu i gynllunio gweithgareddau. Yn hytrach na fy mod i’n teimlo’n gyfrifol am lanw pob diwrnod, fe fyddwn ni’n eistedd i lawr ar ddechrau’r gwyliau a chreu rhestr dymuniadau syml o bethau i’w gwneud.
Fyddwn ni ddim yn anelu am bethau ffansi – jest gweithgareddau yr hoffen nhw eu gwneud dros yr wythnosau nesaf. Fe allai’r rhain gynnwys mynd i’r traeth, celf a chrefft, cael diwrnod pyjamas-a-ffilm, taith natur, pobi, neu bicnic yn y parc. Mae’n helpu hefyd i osod cwpwl o reolau sylfaenol er mwyn cadw disgwyliadau’n realistig.
I’r un yn ei arddegau, mae cael dweud ei ddweud yn creu annibyniaeth ac yn helpu i daro cydbwysedd rhwng gweithgareddau ac amser segur. I’r ieuengaf, mae’n creu cyffro a pherchenogaeth. Fydd popeth ddim yn cael ei wneud, ac mae hynny’n iawn – mae’n cynnig rhywfaint o strwythur heb deimlo’n gaeth.
Gadael i chwarae fod yn syml
Un o’r gwersi pennaf imi eu dysgu yw nad yw plant angen cynlluniau cymhleth i gael hwyl. Yn y gorffennol, rwyf wedi teimlo dan bwysau i drefnu gwibdeithiau neu wario arian i’w diddanu, ond mae rhai o’u hoff adegau wedi codi o weithgareddau syml, rhad.
I fy mhlentyn ieuengaf, mae hyn yn golygu chwarae dychmygus, fel adeiladu cuddfannau, creu perfformiadau dawns neu gymnasteg, neu wneud celf a chrefft gyda’r hyn sydd gyda ni yn y tŷ’n barod. Efallai bod fy mhlentyn yn ei arddegau’n ‘rhy hen’ i rai o’r rhain ond mae’n dal i fwynhau coginio, chwarae gemau, a chwrdd â’i ffrindiau yn y parc.
Dyma rai o’n hoff syniadau:
- Helfeydd sborion
- Ymweld â’r llyfrgell (rhad ac am ddim, a gwych ar ddiwrnodau gwlyb)
- Gwneud toes chwarae neu bobi
- Ymladdfeydd dŵr yn yr ardd.
Mae bod â rhywfaint o syniadau’n barod yn helpu i osgoi troi’n syth at sgriniau.
Sicrhau cydbwysedd sgriniau iach
’Dyw sgriniau ddim yn elynion yn ein tŷ ni, ond mae angen ffiniau pendant. Ry’n ni’n ceisio pennu ffiniau eglur, realistig a bod yn gyson. Fel arfer, bydd sgriniau’n aros wedi’u diffodd yn y bore tan fod pawb wedi eu gwisgo a’u bwydo, ac fe fyddwn ni’n cadw rhannau o’r dydd yn weddol ddi-sgrîn, yn cynnwys adegau bwyd a chyn gwely.
Byddwn hefyd yn annog defnydd mwy bwriadol o sgriniau, fel:
- gwylio ffilm gyda’n gilydd
- chwarae gemau ar-lein gyda ffrindiau
- tynnu lluniau gyda’r ffôn wrth fynd am dro
- apiau creadigol ar gyfer chwarae cerddoriaeth, tynnu lluniau neu greu dawnsiau.
Dy’n ni ddim yn anelu i waredu sgriniau ond yn hytrach wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cymryd lle popeth arall.
Mae rhywfaint o strwythur yn gwneud gwahaniaeth mawr – a chofio pwysigrwydd amser segur
Gwers allweddol arall imi ei dysgu yw nad oes rhaid llanw pob eiliad. Gall y gwyliau deimlo’n llafurus os byddwn ni’n ceisio cadw ein plant yn brysur trwy’r amser.
Mae amser segur yr un cyn bwysiced â gweithgarwch. Mae fy nau blentyn angen llonydd i orffwys, synfyfyrio neu wneud dim byd. Yn aml, bydd yr hyn sy’n edrych fel diflastod yn troi’n greadigedd o roi amser iddyn nhw.
Er hynny, fe fyddwn ni’n ceisio cadw rhyw fath o batrwm cyson. ’Dyw’r plant ddim angen inni eu goruchwylio trwy’r amser, ond gall gormod o amser digynllun arwain at rwystredigaeth, felly fe fyddwn ni’n cadw at batrwm llac:
- Bore – codi, bwyta, gwisgo (sgriniau’n hwyrach)
- Canol dydd – gweithgareddau chwarae, y tu allan fel arfer
- Prynhawn – mwy hamddenol (yn cynnwys sgriniau).
Canfod eich cydbwysedd eich hun
Yn olaf, fydd cydbwysedd ddim yn edrych yr un fath bob dydd. Bydd rhai dyddiau’n llawn o chwarae’r tu allan, bydd eraill yn pwyso mwy ar sgriniau – yn enwedig pan fydd ein tywydd yma yng Nghymru’n troi, ac mae hynny’n iawn.
Nid perffeithrwydd yw’r nod, ond patrwm sy’n cynnwys amser chwarae, symud, gorffwys, cysylltu a rhywfaint o amser sgrîn. Trwy gadw pethau’n syml a chaniatáu lle ar gyfer amser segur, bydd y gwyliau’n teimlo’n llai fel jyglo a mwy fel yr hyn ddylen nhw fod: cyfle i chwarae, ymlacio ac adfywio, gyda’n gilydd.