Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2026

Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2026

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Eleni, mae Diwrnod Chwarae’n digwydd Ddydd Mercher 6 Awst 2025. Mae’n gyfle i ddathlu hawl plant i chwarae ac i atgoffa pawb am bwysigrwydd chwarae ar Ddiwrrnod Chwarae, a phob dydd.

Ar Ddiwrnod Chwarae, bydd mudiadau ledled Cymru a gweddill y DU yn trefnu digwyddiadau i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae’r digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i blant a theuluoedd fynd allan i chwarae. Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn amrywio o bicnic tedi bêrs yn y parc i ddathliadau tref-gyfan – a phopeth yn y canol!

Digwyddiadau yn dy ardal di

I dy helpu di i gynllunio ar gyfer Diwrnod Chwarae, rydym yn rhannu gwybodaeth am rai digwyddiadau sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu. Wrth i Diwrnod Chwarae agosáu byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda digwyddiadau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi, felly cofia ddod yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Os wyt ti'n gwybod am ddigwyddiad sy'n digwydd yn dy ardal, rhowch wybod drwy gysylltu â ni drwy e-bost.

Abertawe

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Trefnydd: Cyngor Abertawe
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ffordd Ystumllwynarth, Ardal Forwrol, Abertawe SA1 3RD
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 11:00am awr dawel / 11:00am – 2:00pm
Manylion cyswllt: Garry Taylor

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth i ni ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda'n Partneriaid Chwarae anhygoel ledled Abertawe.

Blaenau Gwent

Digwyddiad: Mae angen pentref cyfan ... Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2026
Trefnydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Lleoliad: Tŷ a Pharc Bedwellty, Tredegar NP22 3XN
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am - 3:00pm
Manylion cyswllt: Anna Pryce

Mwynhewch ddiwrnod gwych o weithgareddau am ddim sydd wedi'u cynllunio i ddod â theuluoedd ynghyd, annog chwarae a chreu atgofion parhaol. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys: celf a chrefft, castell neidio, paentio wynebau, chwarae dŵr, chwarae synhwyraidd, tostio malws melys a chwarae blêr.

Rhagor o wybodaeth

Bro Morgannwg

Digwyddiad: Tîm Chwarae’r Fro – Diwrnod Chwarae 2026
Trefnydd: Tîm Chwarae Bro Morgannwg
Lleoliad: Gerddi Gladstone, Y Barri, CF62 8DD
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00pm - 3:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Bro Morgannwg

Ymunwch â Thîm Chwarae’r Fro a’i bartneriaid i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2026 gyda digwyddiad cymunedol llawn hwyl a chynhwysol i deuluoedd o bob oed!

Mwynhewch ystod eang o weithgareddau creadigol a chwarae rhad ac am ddim sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli dychymyg, annog chwarae yn yr awyr agored, a dod â’r gymuned at ei gilydd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys: adeiladu Dinas Gardbord, adeiladu cuddfannau, ceginau mwdlyd, celf a chrefft, modelu gyda deunyddiau wedi’u hailddefnyddio.

Mae hwn yn ddigwyddiad croesawgar a chynhwysol lle gall pawb ddod draw, cymryd rhan, a dathlu grym chwarae.

Caerdydd

Digwyddiad: Dathliad Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd
Lleoliad: Parc Trelái, Trelai, CF5 5AQ
Dyddiad: 29 Gorffennaf 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm tan 4:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd

Dathlwch Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad llawn hwyl i bob oedran! Mwynhewch brofiadau chwarae blêr, creadigol ac egnïol.

Rhagor o wybodaeth

Caerffili

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Caerffili
Trefnydd: Chwarae Caerffili a Gwasnaeth Blynyddoedd Cynna a Gofal Plant
Lleoliad: Parc Morgan Jones CF83 1AB
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am – 2:00pm
Manylion cyswllt: Laura Thomas - 01443 863412

Dewch draw i ddigwyddiad chwarae yn y parc sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, lle gall rhieni a phlant chwarae gyda'i gilydd. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys celf a chrefft, chwarae poitshlyd, gemau awyr agored, a bydd ardal i blant bach a babanod chwarae ynddi. Bydd y gweithgareddau yn anelu i bod yn gynhwysol ar gyfer pob angen.

Wedi'u hysbrydoli gan thema Playday eleni, Chwarae – yma, acw a phobman, mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal ledled Caerffili dros yr haf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan.

Sir Gâr

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Gâr
Lleoliad: Ammanford Park
Dyddiad: 3 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 1:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Gâr

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol! Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd a mwynhewch ddiwrnod o chwarae gyda’ch gilydd. Bydd amrywiaeth eang o sefydliadau partner yno, yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau a phob un yn cynnig gweithgareddau chwarae rhyngweithiol hwyliog i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Gâr
Lleoliad: Carmarthen Park
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 1:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Gâr

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol! Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd a mwynhewch ddiwrnod o chwarae gyda’ch gilydd. Bydd amrywiaeth eang o sefydliadau partner yno, yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau a phob un yn cynnig gweithgareddau chwarae rhyngweithiol hwyliog i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Gâr
Lleoliad: Parc Howard, Llanelli
Dyddiad: 7 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 1:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Gâr

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol! Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd a mwynhewch ddiwrnod o chwarae gyda’ch gilydd. Bydd amrywiaeth eang o sefydliadau partner yno, yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau a phob un yn cynnig gweithgareddau chwarae rhyngweithiol hwyliog i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Ceredigion

Digwyddiad: Dydd Chwarae RAY
Trefnydd: RAY Ceredigion
Lleoliad: Cae Sgwâr Aberaeron
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:30am – 3:30pm
Manylion cyswllt: RAY Ceredigion

Mae Diwrnod Chwarae RAY yn ddigwyddiad blynyddol. Mae mynediad i’r digwyddiad a’r holl weithgareddau am ddim gyda chwarae rhydd, chwarae blêr, celf, crefftau, Ardal Ieuenctid gyda band arddegwyr Celf Aeron Arts a sioe ffasiwn ailgylchu gyda thema carnifal eleni. Dewch draw ac aroshwch drwy'r dydd.

Rhondda Cynon Taf

Digwyddiad: GGCA National Play DayTrefnydd:
Lleoliad: Gilfach Goch Community Assoication
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:30am - 2:30pm
Manylion cyswllt:
Debbie Page Evans, 01443 675004

I ddathlu, byddwn yn agor ein drysau i'r teulu cyfan, gan wahodd pawb i ymuno â ni i gydnabod a chefnogi pwysigrwydd a manteision chwarae.

Drwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a diddorol, bydd teuluoedd yn cael cyfle i weld drostynt eu hunain sut mae chwarae yn cefnogi dysgu, datblygiad, lles a chysylltiadau cymdeithasol plant.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu wrth i ni ddathlu llawenydd chwarae a'i effaith gadarnhaol ar blant a chymunedau.

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol i’r teulu cyfan
Trefnydd: Canolfan i Deuluoedd Cwmparc
Lleoliad: Canolfan i Deuluoedd Cwmparc, Parc Road, Cwm-parc CF42 6HY
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am - 1:00pm
Manylion cyswllt: Canolfan i Deuluoedd Cwmparc

Dewch â'r teulu cyfan gyda chi am ddiwrnod hwyliog ac am ddim wrth i ni ddathlu llawenydd chwarae yn ein Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Bydd digonedd o weithgareddau cyffrous, o gwrs rhwystrau i gelf a chrefft a gemau maes.

Mae'n ddiwrnod o hwyl i bawb, ac yn gyfle perffaith i dreulio amser gyda'n gilydd, cael hwyl a chreu atgofion. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu!

Rhagor o wybodaeth

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae LCDP 2026
Trefnydd: Llanharan Community Development Project
Lleoliad: Bryncae Comuunity Centre, Powell Drive, Bryncae, Llanharan, Pontyclun CF72 9UU
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 12:00pm - 2:00pm
Manylion cyswllt: Glyn Phillips / 01443 229723

Digwyddiad Diwrnod Chwarae mawr sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys dinas gardbord, chwarae poitshlyd, chwarae â dŵr, ardal chwarae i blant dan bump oed, celf a chrefft, gliter a tatŵs dros dro.

Rhagor o wybodaeth

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae YMCA Hirwaun
Trefnydd: YMCA Hirwaun
Lleoliad: Hirwaun YMCA, Manchester Place, CF44 9RB
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am - 2:00pm
Manylion cyswllt: 01685 811420

Dewch i ymuno â ni yn Diwrnod Chwarae YMCA Hirwaun ar gyfer digwyddiad teuluol llawn hwyl! Gall plant a theuluoedd fwynhau paentio wynebau, crefftau, gemau, gweithgareddau sy'n ymwneud â byd natur, a sioe deuluol ryngweithiol, fywiog a dwyieithog. Dewch ynghyd i chwarae, dysgu, cysylltu a dathlu diwrnod gwych o hwyl gymunedol i bawb.

Rhagor o wybodaeth

Digwyddiad: Play is everywhere Family Play Day
Trefnydd: tîm chwarae The Bryncynon Strategy
Lleoliad: Feel Good Factory, Main Road, Aberpennar, CF45 4XZ
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am - 2:00pm
Manylion cyswllt: 01443 475120

Diwrnod Chwarae i deuluoedd a'r gymuned, gyda'r nod o ddod â'r gymuned ynghyd. Bydd yn ddiwrnod cynhwysol, wedi'i gynllunio a'i addasu fel bod pob teulu yn gallu cymryd rhan, ac lle mae gan blant y rhyddid i archwilio.

Bydd y diwrnod yn rhoi cyfle i deuluoedd chwarae gyda'i gilydd a deall pwysigrwydd chwarae, yn ogystal â chael syniadau y gallant eu defnyddio gartref. Bydd y digwyddiad yn cynnwys: cyfranogiad teuluol, profiadau synhwyraidd, chwarae corfforol a gweithgareddau penagored.

Sir Benfro

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae 2026
Trefnydd: Cyngor Sir Penfro
Lleoliad: Parc Scolton, Hwlffordd
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:30am – 3:00pm
Manylion cyswllt: Alys Lewis

Mae Diwrnod Chwarae 2026 yn ddathliad chwarae rhad ac am ddim, sy'n addas i deuluoedd, gan gynnig ystod eang o weithgareddau hwyliog a chynhwysol i blant a phobl ifanc o bob oed. Ymunwch â ni am ddiwrnod fforddiadwy sy'n llawn chwarae, creadigrwydd, antur a hwyl gymunedol i bawb ei fwynhau.

Sir Ddinbych

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Y Rhyl
Trefnydd: Gwasanaeth Ceidwad Chwarae Sir Ddinbych
Lleoliad: Canolfan y Dderwen/cae Christ Church School, Ffordd Las, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 2DY
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:00am tan 3:00pm
Manylion cyswllt: Dawn Anderson neu Ruth Salisbury

Diwrnod llawn gweithgareddau chwareus am ddim i bob plentyn, person ifanc a theulu eu mwynhau. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys: sleid ddŵr, chwarae blêr, celf a chrefft, peintio, peintio wynebau, gweithgareddau natur, gweithgareddau gwneud bwyd, sgiliau syrcas, chwarae tywod a dŵr, dinas cardbord a mwy!

Torfaen

Digwyddiad: National Play Day – Play in the Park
Trefnydd: Gwasanaeth Chwarae Torfaen
Lleoliad: Fishponds Park, Griffithstown, Pont-y-pŵl NP4 5AH
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 1.00pm - 3.00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Dewch i ymuno â ni am Ddiwrnod Chwarae yn y parc. Bydd gweithwyr chwarae yn darparu amrywiaeth o brofiadau chwarae i blant o bob oed. Rhaid i blant dan wyth oed fod yng nghwmni oedolyn. Am ddim. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Wrecsam

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Wrecsam
Trefnydd: Cyngor Wrecsam/Rhwydwaith Chwarae Wrecsam
Lleoliad: Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf, Wrecsam
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 12:00pm - 4:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Wrecsam 

Prynhawn rhad ac am ddim o lithriadau dŵr, paent, pwll tywod anferth, drysfa (maze), crefftau, chwaraeon, rhannau rhydd a digon o hwyl. Mae croeso i bob oed ymuno â ni. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwisgo eich dillad chwarae allan gan fod siawns dda o wlychu a mynd yn flêr!

Dathlu gyda theulu a ffrindiau

Hefyd, os nad oes digwyddiad cyhoeddus yn digwydd yn dy ardal di, beth am ddathlu gyda dy deulu gartref, neu gwrdd â ffrindiau yn y parc, maes chwarae neu’r traeth, i gael diwrnod yn llawn chwarae. Os wyt ti'n edrych am awgrymiadau chwareus, cymer gip olwg ar yr adran Syniadau chwarae.

Am y wybodaeth ddiweddaraf – ac i rannu sut wyt ti'n dathlu – defnyddia'r hashnod #DiwrnodChwarae2026 ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Diwrnod Chwarae

Chwarae, sgriniau ac ymlacio

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Archwilio natur drwy chwarae yn y gwanwyn

Erthygl nesaf
English