Pam fod chwarae’n bwysig

Am chwarae

Pam fod chwarae’n bwysig

Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd. Bydd plant yn elwa fwyaf pan maen nhw yn rheoli eu chware eu hunain – pan maen nhw’n dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae a sut maen nhw am drefnu eu chwarae.

Mae chwarae’n hwyl – ac mae hynny’n bwysig hefyd. Mae cael hwyl, chwerthin a mwynhau amser gyda ffrindiau a’r teulu i gyd yn rhan o blentyndod hapus. Mae hwyl yn ychwanegu at iechyd a datblygiad dy blentyn.

Mae chwarae’n hawl i bob plentyn

Mae pwysigrwydd chwarae plant yn cael ei gydnabod trwy’r byd i gyd. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn egluro hawliau plant ac arddegwyr.  Mae’n dweud bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae – waeth pwy ydyn nhw, waeth ble maen nhw’n byw a waeth beth maen nhw’n ei gredu.

Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn waeth ble maen nhw – adref, yn y gymuned, mewn gofal plant ac yn yr ysgol.

Dysga fwy am hawl plant i chwarae

Chwarae’r tu allan

Mae chwarae’r tu allan ym mhob tywydd a phob tymor yn hwyl ac mae’n dda i blant. Fe allan nhw ddarganfod y byd naturiol trwy chwarae mewn natur – chwarae gyda phethau fel pyllau, tywod, rhisgl a brigau.

Mae chwarae’r tu allan yn helpu plant i ddysgu am ofalu am eu hunain. Pan fyddan nhw’n llithro ar rew, yn gwisgo het haul neu’n gwneud pethau i gadw’n ddiogel tra eu bod allan, maen nhw’n datblygu sgiliau bywyd.

Mae rhai pethau’n well y tu allan! Rhedeg o gwmpas, seiclo, palu tyllau, adeiladu cuddfannau mawr, gwneud cacennau mwd. Ac mae oedolion, fel arfer, yn ei chael yn haws pan fydd plant yn gwneud sŵn y tu allan yn hytrach na’r tu mewn.

Mae chwarae’n helpu dy blentyn i ddatblygu

Mae chwarae’n gwneud cyfraniad hanfodol i bob rhan o ddatblygiad dy blentyn – yn gorfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol. Dyma rai enghreifftiau:

Chwarae a gweithgarwch corfforol
Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn aml yn gorfforol egnïol – wrth redeg, neidio, dawnsio, dringo, codi, gwthio a thynnu. Mae gweithgarwch corfforol yn eu cadw’n heini ac yn eu helpu i ddatblygu hyder a hunan-barch.

Chwarae a dysgu

Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn datrys problemau, dysgu geiriau newydd, ymarfer sgiliau,  darganfod syniadau ac archwilio sut mae pethau’n gweithio. Mae plant yn dysgu trwy’r amser wrth chwarae.

Chwarae a chymdeithasu

Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn gwneud ffrindiau. Fe fyddan nhw hefyd yn dadlau weithiau ac yn dysgu am ddisgwyliadau cymdeithasol fel rhannu a chymryd rhan. Mae dweud jôcs, sgwrsio a dyfeisio gemau i gyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu.

Chwarae a chreadigedd

Pan maen nhw’n chwarae, bydd plant yn profi pethau, creu pethau, defnyddio eu dychymyg ac yn mynegi eu hunain. Mae chwarae’n caniatáu i blant roi tro ar syniadau, gwneud camgymeriadau a darganfod y pleser o fod yn greadigol.

Chwarae a theimladau

Pan maen nhw’n chwarae, mae plant yn mynegi eu hunain. Yn aml, maen nhw’n teimlo’n hapus yn chwarae, cael hwyl a gollwng stêm. Mae chwarae hefyd yn ffordd i ddeall teimladau fel rhwystredigaeth, anfodlonrwydd, tristwch a bodlonrwydd.

Lawrlwytha ein poster buddiannau chwarae

English