Paratoi plant i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus
Wrth i blant fynd yn h?n, byddant eisiau mynd allan i chwarae a chymdeithas â ffrindiau heb eu rhieni. Yn naturiol fel rhiant, efallai y bydd gennyt ti bryderon am hyn. I helpu, dyma ambell syniad i baratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus:
Paratoi dy blentyn i fod yn ddiogel ar y ffyrdd
Galli baratoi dy blentyn i gerdded a beicio’n annibynnol trwy egluro a dangos iddyn nhw, o oedran ifanc, sut y gallan nhw gadw’u hunain yn ddiogel ar ac o amgylch ffyrdd.
Helpu dy blentyn i ddod i adnabod eich cymdogaeth
Galli gerdded a beicio gyda dy blentyn yn dy ardal leol. Dylet eu helpu i ddynodi llwybrau diogel i gyrraedd mannau chwarae a llefydd eraill y byddant angen mynd iddyn nhw.
Mabwysiadu agwedd gymunedol tuag at chwarae
Ceisia ddod i adnabod y bobl leol – cymdogion a theuluoedd eraill – a chytuno i gadw llygad ar y plant yn dy gymdogaeth. Bydd y plant yn fwy diogel os bydd mwy ohonyn nhw’n chwarae’r tu allan.
Am ragor o syniadau, cer i'n canllaw sut i baratoi dy blentyn i chwarae'r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus