25 syniad chwarae gorau ar gyfer gwyliau’r haf

Yr haf hwn, rydym yn annog teuluoedd i helpu eu plant fwynhau haf o chwarae drwy gydol gwyliau’r haf.

Er mwyn helpu oedolion i roi haf llawn hwyl a chwarae i blant, dyma ein 25 syniad chwarae gorau sy’n syml a ddim yn costio rhyw lawer:

  1. Chwarae gêm o tic
  2. Chwarae cuddio
  3. Chwarae ‘sgots
  4. Creu cuddfan
  5. Dringo coeden
  6. Rolio lawr ochr bryn
  7. Cael ras berfa
  8. Rhedeg ar ôl swigod
  9. Creu cacen fwd
  10. Cael brwydr gyda d?r
  11. Creu car, castell neu long gofod gyda bocsys cardbord
  12. Chwarae mae’r llawr yn lafa
  13. Gwisgo i fyny
  14. Cynnal picnic tedi bêrs
  15. Cael hwyl gyda sialc
  16. Chwarae delwau cerddorol
  17. Gwersylla yn yr ardd
  18. Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r t?
  19. Creu g?yl gerddorol
  20. Cael hwyl gyda balwnau – cadw’r bal?n oddi ar lawr a rasys gyda balwnau rhwng eich coesau
  21. Creu llun argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo
  22. Creu pypedau sanau
  23. Mynd ar helfa pryfetach
  24. Creu cwrs rhwystrau
  25. Mynd ar helfa drysor.

Cymryd rhan

Rydym am glywed am hoff syniadau chwarae eich plant ar gyfer yr haf – rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #HafOChwarae.

Gemau hwyliog a syniadau chwareus i roi tro arnynt

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae

Erthygl nesaf
English