25 syniad chwarae gorau ar gyfer gwyliau’r haf
Yr haf hwn, rydym yn annog teuluoedd i helpu eu plant fwynhau haf o chwarae drwy gydol gwyliau’r haf.
Er mwyn helpu oedolion i roi haf llawn hwyl a chwarae i blant, dyma ein 25 syniad chwarae gorau sy’n syml a ddim yn costio rhyw lawer:
- Chwarae gêm o tic
- Chwarae cuddio
- Chwarae ‘sgots
- Creu cuddfan
- Dringo coeden
- Rolio lawr ochr bryn
- Cael ras berfa
- Rhedeg ar ôl swigod
- Creu cacen fwd
- Cael brwydr gyda d?r
- Creu car, castell neu long gofod gyda bocsys cardbord
- Chwarae mae’r llawr yn lafa
- Gwisgo i fyny
- Cynnal picnic tedi bêrs
- Cael hwyl gyda sialc
- Chwarae delwau cerddorol
- Gwersylla yn yr ardd
- Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r t?
- Creu g?yl gerddorol
- Cael hwyl gyda balwnau – cadw’r bal?n oddi ar lawr a rasys gyda balwnau rhwng eich coesau
- Creu llun argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo
- Creu pypedau sanau
- Mynd ar helfa pryfetach
- Creu cwrs rhwystrau
- Mynd ar helfa drysor.
Cymryd rhan
Rydym am glywed am hoff syniadau chwarae eich plant ar gyfer yr haf – rhannwch gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #HafOChwarae.