Heriau chwarae hwyliog i’r haf

Heriau chwarae hwyliog i’r haf

Cadwch y wisg ysgol a’r esgidiau duon… Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd ac mae’n amser anghofio’r ystafell ddosbarth a pharatoi am antur, troi cefn ar drefn y tymor, a pharatoi i chwarae!

Mae’r haf yn llawn cyfleoedd i adael i ddychymyg y plant redeg yn rhydd a chael anturiau chwareus. Er na allwn ni addo chwe wythnos o heulwen, fe allwn ni gynnig digon o syniadau hwyliog, di-straen a rhad i ysbrydoli chwarae plant, boed law neu hindda.

Beth am greu her hwyliog i weld sawl un o’r syniadau hyn all eich teulu eu croesi oddi ar y rhestr yn ystod y gwyliau? Dewiswch ddau neu dri, ailddewiswch eich ffefrynnau neu dewiswch ddim ond un sy’n ffitio i mewn i’ch diwrnod. Mae’r rhain i gyd wedi eu dylunio i annog plant i ddefnyddio eu dychymyg, cael hwyl a bod yn fywiog – heb gostio ffortiwn!

Pethau y gallwch eu gwneud gartref neu yn yr ardd

  1. Dyfeisio archarwr newydd syfrdanol (neu archddihiryn!)
  2. Creu toes chwarae meddal
  3. Cynnal cystadleuaeth tyfu blodyn haul – blodyn pwy fydd dalaf erbyn diwedd y gwyliau!
  4. Creu a hedfan barcutiaid
  5. Creu collage natur lliwgar
  6. Dysgu rwtin dawns newydd ar gyfer eich hoff gân
  7. Creu a pherfformio eich sioe bypedau sanau eich hun
  8. Creu eich hudlath swigod anferth eich hun gyda brigau, cortyn a hylif swigod cartref (gan ddefnyddio dŵr, hylif golchi llestri a siwgr)

Pethau y gallwch eu gwneud allan ac o gwmpas

  1. Mynd ar helfa lliwiau’r enfys
  2. Mynd am dro yn y coed
  3. Chwarae ‘Mae’r glaswellt yn lafa’ (casglwch ddail i’w defnyddio fel cerrig sarn)
  4. Ymweld â’r traeth a chasglu cregyn, cerrig mân neu wydr môr
  5. Dringo coeden
  6. Troi eich maes chwarae neu barc lleol yn gwrs rhwystrau a gweld pa mor gyflym allwch chi ei gwblhau
  7. Mynd i ddigwyddiad am ddim yn eich ardal leol – fel un o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae
  8. Mynd ar helfa sborion o amgylch eich pentref, parc neu goedwig leol

Pethau y gallwch eu gwneud ar eich pen eich hun

  1. Dysgu sut i jyglo gyda sanau wedi eu rholio’n bêl
  2. Creu gardd tylwyth teg
  3. Adeiladu caer
  4. Paentio cerrig (ac yna eu cuddio ar eich taith gerdded nesaf)
  5. Creu parasiwtiau ar gyfer eich teganau a chwilio am rywle y gallwch eu taflu
  6. Gwylio’r machlud – sawl lliw allwch chi eu cyfrif yn yr awyr?
  7. Creu set ddrymiau allan o sosbannau
  8. Creu eich gêm OXO eich hun (mae cerrig wedi’u paentio’n ddefnyddiol)

Pethau y gallwch eu gwneud gyda phobl eraill

  1. Tynnu llun a chwarae gêm o Twister ar y llawr gyda sialc
  2. Dyfeisio gêm newydd
  3. Chwarae cuddio
  4. Tynnu llun map a mynd ar helfa drysor
  5. Creu antur rhwystrau bychan gyda chlustogau a chadeiriau
  6. Creu eich lolis rhew eich hun
  7. Cael picnic y tu allan (neu dan do os yw’r tywydd yn wael).

Felly, sawl un all eich teulu chi eu croesi oddi ar y rhestr?... Waeth os fyddwch chi’n adeiladu cuddfannau, yn chwilota am drysor cudd neu’n dyfeisio gêm hollol newydd, mae digonedd o ffyrdd i gadw diflastod draw yr haf hwn. Dim offer arbennig, dim pwrs dwfn – dim ond ychydig o ddychymyg a digon o hwyl.

Dewiswch her a rhoi tro arni!

Yn ôl i’r holl erthyglau

Chwarae, sgriniau ac ymlacio

Erthygl nesaf
English