Syniadau chwarae ar gyfer rhieni babanod a phlant ifanc
I fabanod, plant bach a phlant ifanc, mae chwarae’n cynnig mwy na dim ond hwyl, mae hefyd yn bwysig iawn ar gyfer eu datblygiad. Drwy chwarae, mae plant yn dysgu, yn archwilio ac yn gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Mae’n cyfrannu at eu lles, eu hiechyd corfforol a’u gwydnwch meddyliol. Mae ymchwil i fanteision chwarae wedi canfod ei fod yn cefnogi:
- ddysgu a datblygiad yr ymennydd
- gweithgaredd a datblygiad corfforol
- sgiliau cymdeithasol a pherthnasoedd
- lles emosiynol.
Yn anffodus, nid yw bob amser yn hawdd i blant gael digon o gyfleoedd i chwarae. Dyna pam mae’n bwysig sicrhau ein bod ni’n blaenoriaethu cyfleoedd chwarae i’n plant.
Gwneud amser i chwarae
Mae plant yn gwybod yn naturiol sut i chwarae. Fel rhieni a gofalwyr, ein gwaith ni yw sicrhau bod ganddyn nhw amser, lle a rhyddid i wneud hynny. Mae’n bwysig cynnwys amser i chwarae ym mywyd bob dydd y teulu, ac nid oes rhaid iddo gostio dim. Mae ‘na lawer o ffyrdd bach i wneud amser i chwarae, hyd yn oed ar y dyddiau prysuraf. Gallet ti:
- Cynllunio amser i chwarae bob dydd. Gall hyd yn oed pum munud o chwarae gyda dy blentyn fod yn werth chweil. Gorwedda ar y llawr gyda babanod neu blant bach a gad iddyn nhw gopïo dy symudiadau, gwneud wynebau neu synau gwirion i wneud iddyn nhw chwerthin. Gyda phlant ifanc, gelli di drefnu parti dawns 30 eiliad, rasio i dacluso ystafell neu chwarae gêm guddio gyflym.
- Troi tasgau a gweithgareddau bob dydd yn bethau chwareus. Gad i blant bach ‘helpu’ drwy basio sanau i ti pan fyddi di’n golchi dillad, neu gallet ti droi amser bath yn ‘antur sblasio’ i blant iau. Drwy droi tasgau a gweithgareddau bob dydd yn bethau chwareus, gall dy blentyn gael hwyl a mwynhau amser gwerthfawr gyda thi. Yn fwy na hynny, gall dy blentyn gael hwyl o wneud gweithgareddau bob dydd, bod yn greadigol a dysgu sut i ddod o hyd i gyfleoedd i chwarae yn eu bywyd bob dydd.
- Gwneud dy gartref yn lle gwych i chwarae. Os oes gan dy blentyn y rhyddid i chwarae, mi fydd yn defnyddio hyd yn oed le bach fel cornel ystafell mewn ffordd greadigol. Gelli di ddefnyddio pethau cyffredin o amgylch dy gartref ar gyfer chwarae: mae clustogau yn gwneud cerrig camu gwych, mae rhoi blanced dros fwrdd yn creu cuddfan, gellir troi bocsys cardbord gwag yn geir, yn gestyll neu hyd yn oed yn llongau gofod.
Syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer chwarae
Yn aml, mae chwarae’n digwydd heb lawer o gynllunio, ond weithiau mae’n ddefnyddiol cael ambell syniad wrth law – rydyn ni i gyd yn brin o syniadau weithiau. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth i dy helpu i wneud y gorau o amser chwarae, boed gartref, ar dy ffordd i rywle, yn ymweld â ffrindiau neu deulu, neu ar wyliau.
Chwarae yn y cartref
- Chwarae pi-po, canu, a rhoi pethau i fabanod eu dal a'u gafael.
- Cyflwyno chwarae synhwyraidd, gan ddefnyddio pethau fel poteli synhwyraidd a matiau amser bol.
- Annog chwarae gyda deunyddiau naturiol, fel ffyn, dail, mwd a dŵr.
- Gadael i’r plant falansio, dringo a chuddio, gan ymyrryd dim ond os ydyn nhw mewn perygl.
- Darparu pethau i adeiladu â nhw, fel blociau, darnau o ddefnydd a bocsys cardbord.
Teithiau chwareus
- Canu caneuon yn y car neu ar y bws neu'r trên.
- Gadael i dy blentyn deimlo gwahanol bethau ar daith gerdded.
- Cael gêm o ‘Mi wela i gyda’m llygaid bach i...' gyda lliwiau neu gael helfa lliwiau.
- Gadael i dy blentyn greu stori tra byddwch chi’n cerdded neu yrru.
- Annog teithio llesol ar sgwteri, esgidiau rholio neu fyrddau sgrialu.
Chwarae pan fyddwch chi ar wyliau
- Mynd i barciau a mannau gwyrdd i archwilio a chwarae ym myd natur.
- Adeiladu cestyll tywod ar y traeth neu badlo a sblasio yn yr afon gyfagos.
- Mynd â theganau fel cylchoedd hwla, rhaffau sgipio a ‘space hoppers’ ar wyliau.
- Pan fyddwch yn ymweld â neiniau a theidiau neu berthnasau eraill, gofyn iddyn nhw rannu'r gemau yr oedden nhw’n arfer eu chwarae.
- Chwilio am gynlluniau chwarae haf – gellir gwneud hyn gartref hefyd.
Gwybodaeth bellach
Dysga fwy am fanteision chwarae i blant ifanc, a chael mwy o syniadau ar gyfer chwarae gartref ac awgrymiadau anhygoel ar gyfer magu plant yn chwareus.
Os wyt ti’n gweithio gyda phlant ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr, darllena daflen wybodaeth Chwarae Cymru Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf.