Archwilio natur drwy chwarae yn y gwanwyn

Archwilio natur drwy chwarae yn y gwanwyn

Gall y gwanwyn fod yn amser hudolus i blant chwarae’r tu allan. Wrth i fyd natur ddeffro ar ôl y gaeaf, mae planhigion yn dechrau tyfu, mae anifeiliaid a phryfed yn dechrau dod i'r amlwg, ac mae'r dyddiau'n ymestyn. Mae natur yn dod yn fwy lliwgar, mae cân yr adar i’w chlywed eto yn y boreau, ac mae'r olygfa o dy ddrws yn dechrau newid.

Mae chwarae ym myd natur yn cynnig llawer o fanteision i blant (ac oedolion) hefyd. Gall cysylltu â byd natur drwy chwarae gefnogi iechyd a lles plant. Mae ymchwil wedi dangos bod treulio amser ym myd natur yn gallu gwella ein hwyliau, gwneud i ni ganolbwyntio'n well, a hyd yn oed wella ein creadigrwydd. Gall chwarae ym myd natur hefyd helpu plant i ddysgu am y byd naturiol, gan eu hannog i ofalu am natur wrth iddyn nhw dyfu i fyny.

Gwisgo ar gyfer y gwanwyn

Os wyt ti wedi bod yn chwarae’r tu allan drwy'r gaeaf (a gobeithio dy fod wedi!), gall y gwanwyn deimlo fel seibiant hyfryd o'r nosweithiau rhewllyd a thywyll. Mae'n amser gwych i syrthio nôl mewn cariad â bod y tu allan ac i barhau i chwarae allan bob dydd. Er hyn, gall tywydd y gwanwyn fod yn ansefydlog, felly paid â rhoi’r welingtons a’r cotiau glaw i’w cadw am y tro! Gall dillad chwarae yn y gwanwyn gynnwys:

  • Welingtons a chotiau glaw ar gyfer cawodydd y gwanwyn.
  • Hetiau, sgarffiau a menig ar gyfer cyfnodau oer.
  • Hwdis a siwmperi pan fydd y tywydd yn newid.
  • Esgidiau ymarfer er mwyn rhedeg o gwmpas ar ddiwrnodau sychach.
  • Hen ddillad ar gyfer archwilio byd natur.

Deg syniad ar gyfer chwarae ym myd natur yn y gwanwyn

Mae yna lawer o ffyrdd hwyliog y gallet ti helpu dy blant i gysylltu â natur yn y gwanwyn.

  1. Mynd i’r parc lleol am bicnic a bwyta brechdanau yng nghanol byd natur.
  2. Mynd â phapur a phensiliau allan gyda chi a gwneud lluniau a phatrymau o fyd natur.
  3. Mynd am dro a sylwi ar y newidiadau ym myd natur.
  4. Trefnu helfa ar thema natur gyda theuluoedd eraill.
  5. Archwilio pyllau ar lan y môr neu chwilio am fywyd gwyllt mewn pyllau ac afonydd.
  6. Chwarae cuddio mewn coedwig neu yn y parc lleol.
  7. Mynd ar drip gwersylla, neu wersylla yn yr ardd.
  8. Defnyddio natur, er enghraifft dail neu gerrig mân, i greu celf.
  9. Mynd ar helfa lliwiau – pwy all ddod o hyd i rywbeth gwyrdd, melyn neu borffor?
  10. Gwylio adar.

Mae chwarae ym myd natur yn addas i blant o bob oed

Mae byd natur yn llawn profiadau hwyliog i bawb, felly waeth pa mor hen yw dy blentyn, bydd yn dod o hyd i rywbeth i'w wneud. Bydd rhai plant wrth eu bodd yn gwneud llanast ac yn chwarae yn y mwd, ond efallai y bydd yn well gan eraill ddefnyddio eu dychymyg i chwarae’n dawel y tu allan. Efallai y bydd plant hŷn yn mwynhau mathau mwy corfforol o chwarae ym myd natur, fel dringo coed neu adeiladu cuddfan. Mae mwy o awgrymiadau a chyngor allai fod yn ddefnyddiol i ti ar gael yn ein blog ar chwarae ym myd natur a’i fwynhau gyda phlant o bob oedran.

Mwy o ysbrydoliaeth

Cymer gip ar ein blogiau eraill i gael mwy o syniadau am bethau fel paratoi ar gyfer chwarae ar ddiwrnod gwlyb a chwarae gyda phridd, dŵr, tân ac awyr.

Yn ôl i’r holl erthyglau

Her 365 Diwrnod o Chwarae ym Myd Natur

Erthygl nesaf
English