Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2026

Digwyddiadau Diwrnod Chwarae 2026

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Eleni, mae Diwrnod Chwarae’n digwydd Ddydd Mercher 6 Awst 2025. Mae’n gyfle i ddathlu hawl plant i chwarae ac i atgoffa pawb am bwysigrwydd chwarae ar Ddiwrrnod Chwarae, a phob dydd.

Ar Ddiwrnod Chwarae, bydd mudiadau ledled Cymru a gweddill y DU yn trefnu digwyddiadau i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae’r digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i blant a theuluoedd fynd allan i chwarae. Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn amrywio o bicnic tedi bêrs yn y parc i ddathliadau tref-gyfan – a phopeth yn y canol!

Digwyddiadau yn dy ardal di

I dy helpu di i gynllunio ar gyfer Diwrnod Chwarae, rydym yn rhannu gwybodaeth am rai digwyddiadau sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu. Wrth i Diwrnod Chwarae agosáu byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda digwyddiadau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi, felly cofia ddod yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Os wyt ti'n gwybod am ddigwyddiad sy'n digwydd yn dy ardal, rhowch wybod drwy gysylltu â ni drwy e-bost.

Caerdydd

Digwyddiad: Dathliad Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd
Lleoliad: Parc Trelái, Trelai, CF5 5AQ
Dyddiad: 29 Gorffennaf 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 1:00pm tan 4:00pm
Manylion cyswllt: Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd

Dathlwch Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad llawn hwyl i bob oedran! Mwynhewch brofiadau chwarae blêr, creadigol ac egnïol.

Rhagor o wybodaeth

Sir Gâr

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Gâr
Lleoliad: Ammanford Park
Dyddiad: 3 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 1:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Gâr

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol! Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd a mwynhewch ddiwrnod o chwarae gyda’ch gilydd. Bydd amrywiaeth eang o sefydliadau partner yno, yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau a phob un yn cynnig gweithgareddau chwarae rhyngweithiol hwyliog i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae
Trefnydd: Tîm Chwarae Sir Gâr
Lleoliad: Carmarthen Park
Dyddiad: 5 Awst 2026

Lleoliad: Parc Howard, Llanelli
Dyddiad: 7 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 10:00am – 1:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Sir Gâr

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol! Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd a mwynhewch ddiwrnod o chwarae gyda’ch gilydd. Bydd amrywiaeth eang o sefydliadau partner yno, yn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau a phob un yn cynnig gweithgareddau chwarae rhyngweithiol hwyliog i blant a theuluoedd eu mwynhau.

Ceredigion

Digwyddiad: Dydd Chwarae RAY
Trefnydd: RAY Ceredigion
Lleoliad: Cae Sgwâr Aberaeron
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 11:30am – 3:30pm
Manylion cyswllt: RAY Ceredigion

Mae Diwrnod Chwarae RAY yn ddigwyddiad blynyddol. Mae mynediad i’r digwyddiad a’r holl weithgareddau am ddim gyda chwarae rhydd, chwarae blêr, celf, crefftau, Ardal Ieuenctid gyda band arddegwyr Celf Aeron Arts a sioe ffasiwn ailgylchu gyda thema carnifal eleni. Dewch draw ac aroshwch drwy'r dydd.

Wrecsam

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Wrecsam
Trefnydd: Cyngor Wrecsam/Rhwydwaith Chwarae Wrecsam
Lleoliad: Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf, Wrecsam
Dyddiad: 5 Awst 2026
Amseroedd dechrau a gorffen: 12:00pm - 4:00pm
Manylion cyswllt: Tîm Chwarae Wrecsam 

Prynhawn rhad ac am ddim o lithriadau dŵr, paent, pwll tywod anferth, drysfa (maze), crefftau, chwaraeon, rhannau rhydd a digon o hwyl. Mae croeso i bob oed ymuno â ni. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwisgo eich dillad chwarae allan gan fod siawns dda o wlychu a mynd yn flêr!

Dathlu gyda theulu a ffrindiau

Hefyd, os nad oes digwyddiad cyhoeddus yn digwydd yn dy ardal di, beth am ddathlu gyda dy deulu gartref, neu gwrdd â ffrindiau yn y parc, maes chwarae neu’r traeth, i gael diwrnod yn llawn chwarae. Os wyt ti'n edrych am awgrymiadau chwareus, cymer gip olwg ar yr adran Syniadau chwarae.

Am y wybodaeth ddiweddaraf – ac i rannu sut wyt ti'n dathlu – defnyddia'r hashnod #DiwrnodChwarae2026 ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Diwrnod Chwarae

Yn ôl i’r holl erthyglau

Archwilio natur drwy chwarae yn y gwanwyn

Erthygl nesaf
English