Heriau chwarae hwyliog i’r haf
Cadwch y wisg ysgol a’r esgidiau duon… Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd ac mae’n amser anghofio’r ystafell ddosbarth a pharatoi am antur, troi cefn ar drefn y tymor, a pharatoi i chwarae!
Mae’r haf yn llawn cyfleoedd i adael i ddychymyg y plant redeg yn rhydd a chael anturiau chwareus. Er na allwn ni addo chwe wythnos o heulwen, fe allwn ni gynnig digon o syniadau hwyliog, di-straen a rhad i ysbrydoli chwarae plant, boed law neu hindda.
Beth am greu her hwyliog i weld sawl un o’r syniadau hyn all eich teulu eu croesi oddi ar y rhestr yn ystod y gwyliau? Dewiswch ddau neu dri, ailddewiswch eich ffefrynnau neu dewiswch ddim ond un sy’n ffitio i mewn i’ch diwrnod. Mae’r rhain i gyd wedi eu dylunio i annog plant i ddefnyddio eu dychymyg, cael hwyl a bod yn fywiog – heb gostio ffortiwn!
Pethau y gallwch eu gwneud gartref neu yn yr ardd
- Dyfeisio archarwr newydd syfrdanol (neu archddihiryn!)
- Creu toes chwarae meddal
- Cynnal cystadleuaeth tyfu blodyn haul – blodyn pwy fydd dalaf erbyn diwedd y gwyliau!
- Creu a hedfan barcutiaid
- Creu collage natur lliwgar
- Dysgu rwtin dawns newydd ar gyfer eich hoff gân
- Creu a pherfformio eich sioe bypedau sanau eich hun
- Creu eich hudlath swigod anferth eich hun gyda brigau, cortyn a hylif swigod cartref (gan ddefnyddio dŵr, hylif golchi llestri a siwgr)
Pethau y gallwch eu gwneud allan ac o gwmpas
- Mynd ar helfa lliwiau’r enfys
- Mynd am dro yn y coed
- Chwarae ‘Mae’r glaswellt yn lafa’ (casglwch ddail i’w defnyddio fel cerrig sarn)
- Ymweld â’r traeth a chasglu cregyn, cerrig mân neu wydr môr
- Dringo coeden
- Troi eich maes chwarae neu barc lleol yn gwrs rhwystrau a gweld pa mor gyflym allwch chi ei gwblhau
- Mynd i ddigwyddiad am ddim yn eich ardal leol – fel un o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae
- Mynd ar helfa sborion o amgylch eich pentref, parc neu goedwig leol
Pethau y gallwch eu gwneud ar eich pen eich hun
- Dysgu sut i jyglo gyda sanau wedi eu rholio’n bêl
- Creu gardd tylwyth teg
- Adeiladu caer
- Paentio cerrig (ac yna eu cuddio ar eich taith gerdded nesaf)
- Creu parasiwtiau ar gyfer eich teganau a chwilio am rywle y gallwch eu taflu
- Gwylio’r machlud – sawl lliw allwch chi eu cyfrif yn yr awyr?
- Creu set ddrymiau allan o sosbannau
- Creu eich gêm OXO eich hun (mae cerrig wedi’u paentio’n ddefnyddiol)
Pethau y gallwch eu gwneud gyda phobl eraill
- Tynnu llun a chwarae gêm o Twister ar y llawr gyda sialc
- Dyfeisio gêm newydd
- Chwarae cuddio
- Tynnu llun map a mynd ar helfa drysor
- Creu antur rhwystrau bychan gyda chlustogau a chadeiriau
- Creu eich lolis rhew eich hun
- Cael picnic y tu allan (neu dan do os yw’r tywydd yn wael).
Felly, sawl un all eich teulu chi eu croesi oddi ar y rhestr?... Waeth os fyddwch chi’n adeiladu cuddfannau, yn chwilota am drysor cudd neu’n dyfeisio gêm hollol newydd, mae digonedd o ffyrdd i gadw diflastod draw yr haf hwn. Dim offer arbennig, dim pwrs dwfn – dim ond ychydig o ddychymyg a digon o hwyl.
Dewiswch her a rhoi tro arni!