Sut i gynnal archwiliad chwarae cymunedol

Chwarae yn y gymuned

Sut i gynnal archwiliad chwarae cymunedol

Bydd archwiliad chwarae cymunedol yn dy helpu i ddeall y cyfleoedd chwarae sy’n bodoli yn dy gymuned leol. Mae’n ffordd o fapio:

  • pa fathau o chwarae sy’n digwydd
  • ble mae chwarae’n digwydd
  • beth sy’n cefnogi chwarae
  • beth sy’n atal neu’n tarfu ar chwarae.

Gallai archwiliad ganolbwyntio ar un lle chwarae – fel stryd, maes chwarae ysgol neu barc – neu gallai gwmpasu ardal leol ehangach.

Gall archwiliad dy helpu i ymgyrchu, trwy ddarparu’r wybodaeth y byddi ei angen i gynyddu neu wella cyfleoedd chwarae’n lleol.

Pam cynnal archwiliad chwarae?

Bydd archwiliad yn dy helpu i:

  • gael gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd chwarae sydd ar gael yn dy gymuned
  • casglu tystiolaeth am yr hyn sy’n digwydd yn lleol
  • dadlau dy achos dros chwarae
  • darganfod os oes bylchau mewn cyfleoedd ar gyfer plant o wahanol oed, cefndir a gallu.

Ar beth fydd archwiliad yn edrych?

Gall archwiliad gasglu gwybodaeth am le, amser, adnoddau a chyfleoedd i chwarae. Mae’n werth hefyd cynnwys agweddau oedolion tuag at chwarae, oherwydd eu bod yn cael effaith anferthol ar blant ac os ydyn nhw’n teimlo’n rhydd i chwarae ai peidio.

Dylet ddylunio dy archwiliad i weddu i’r llecyn neu’r lleoliad yr wyt am ddysgu amdano. Gallet edrych ar bethau fel:

  • darpariaeth ar gyfer chwarae – fel parciau a mannau chwarae (dan do ac awyr agored)
  • nodweddion ac offer y bydd plant yn eu defnyddio i chwarae – fel siglenni, coed, creigiau a thywod
  • chwarae yr wyt yn ei weld yn digwydd neu y bydd y plant neu blant yn eu harddegau’n sôn wrthyt amdano
  • pobl a sefydliadau sy’n rhan o gefnogi chwarae – gallai hyn amrywio, o gynlluniau cau ffyrdd ar gyfer chwarae stryd gan rieni, i gymdeithas chwarae leol, i dîm chwarae dy awdurdod lleol
  • gwybodaeth sydd ar gael i’r gymuned am chwarae a chyfleoedd chwarae.

Sut ddylwn i drefnu archwiliad chwarae?

Gall archwiliad gynnwys gwahanol fathau o weithgarwch:

  • rhestru’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd gan ddefnyddio gwybodaeth o fapiau, cynlluniau lleol a’r cyngor lleol
  • defnyddio arolygon a dy arsylwadau i greu map manylach o ble a phryd y mae plant a phlant yn eu harddegau’n chwarae
  • arsylwi chwarae mewn gwahanol leoliadau
  • cofnodi manylion pwy sy’n chwarae (er enghraifft rhyw, oedran), pa fath o chwarae yr wyt yn ei weld, beth sy’n cefnogi’r chwarae a beth sy’n tarfu arno
  • siarad gyda’r bobl sy’n rhan o’r chwarae am y wybodaeth yr wyt wedi ei gasglu, er mwyn iti wirio os yw dy ganfyddiadau’n gywir. Gallai pobl fel plant a phlant yn eu harddegau, goruchwylwyr meysydd chwarae a thrigolion lleol, fod â gwahanol safbwyntiau a gwybodaeth gwerthfawr i’w ychwanegu.

 

Gallet ddefnyddio’r offeryn archwilio gofod chwarae i dy helpu i roi cychwyn ar bethau.

Defnyddio dy ganfyddiadau

There are different ways you can use the information you’ve collected. You can:

  • gael trafodaeth gyda phawb perthnasol, gan ddefnyddio dy ganfyddiadau fel man cychwyn
  • creu cynllun gweithredu ar gyfer cynyddu neu wella cyfleoedd chwarae lleol
  • gwneud ceisiadau am ariannu
  • cyflwyno dy ganfyddiadau i bobl all dy helpu i wneud gwahaniaeth yn lleol – er enghraifft, pobl sy’n gwneud penderfyniadau fel gwleidyddion lleol
  • dewis y pwyntiau cryfaf a’u defnyddio i ddenu sylw’r cyfryngau
  • rhannu dy ganfyddiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol – fel Twitter a Facebook.
English