Chwarae ar dy stryd

Chwarae yn y gymuned

Chwarae ar dy stryd

I’r mwyafrif o blant, mai llai o gyfleoedd i ddefnyddio strydoedd ac ardaloedd awyr agored ar gyfer chwarae ger eu cartrefi. Mae rhieni’n dweud wrthym eu bod yn poeni am:

  • fwy o gerbydau ar y ffyrdd
  • gyflymder traffig

sy’n golygu eu bod yn atal eu plant rhag chwarae’r tu allan.

Y model Playing Out

Mae digwyddiad chwarae’r tu allan yn sesiwn chwarae gaiff ei drefnu gan gymdogion ar gyfer cymdogion, fydd ond yn cael ei gyhoeddi mewn strydoedd cyfagos. Caiff stryd breswyl ei chau i draffig er mwyn i blant chwarae yn ddiogel ac i rieni gymdeithasu gyda chymdogion. Mae stiwardiaid gwirfoddol ger pob lleoliad ble mae’r ffordd wedi ei chau er mwyn dargyfeirio’r traffig ac i sicrhau tawelwch meddwl i rieni o ran diogelwch.

Mae sesiynau chwarae allan yn cefnogi chwarae sy’n rhydd ac sydd heb ei drefnu – ’does dim gweithgareddau wedi eu trefnu. Bydd rhieni a phlant yn dod â’u teganau eu hunain allan fel rhaffau sgipio, beics a sgwteri.

Yn ystod sesiwn chwarae allan rwyt i yn gyfrifol am dy blentyn dy hun. Rhoddir lle a chaniatâd i dy blentyn chwarae yn y stryd, tra bo cyfle i ti gwrdd a dod i adnabod dy gymdogion yn well a mwynhau stryd di-geir.

Adnoddau chwarae stryd

Mae Playing Out yn fudiad gaiff ei arwain gan rieni a thrigolion sy’n gweithio i hyrwyddo chwarae stryd ar draws y DU.

Rydym wedi gweithio Playing Out i roi at ei gilydd deunyddiau i dy gefnogi i drefnu sesiynau chwarae ar dy stryd. Os yr hoffet ti gychwyn sesiynau ‘chwarae allan’ ar dy stryd, gall y canllaw yma, sydd yn cynnwys gwybodaeth am beth sydd angen i ti ei wneud a phwy sydd angen cymryd rhan, helpu.

Lawrlwytho Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd

Deunyddiau cefnogol:

10 rheswm da dros chwarae ar y stryd

Lanyards stiwardiaid

Papur briffio stiwardiaid

Taflen Playing Out

Templed llythyr dyddiadau cau chwarae stryd

Templed llythyr cyfarfod cymdogion chwarae stryd

Templed poster cadarnhau chwarae stryd

Templed asesu risg chwarae stryd

Templed nodyn car chwarae stryd

 

English