Cynllunio dy ardal chwarae – pethau i feddwl amdanynt

Chwarae yn y gymuned

Cynllunio dy ardal chwarae – pethau i feddwl amdanynt

Mae ardaloedd chwarae – neu fannau chwarae – i’w cael ym mhob maint a siâp. Fe allan nhw fod mor syml â hoff lecyn dan goeden ar dy stryd, maes chwarae lleol sydd yno ers blynyddoedd, neu ardal chwarae newydd sbon yn llawn offer.

Os wyt ti wedi penderfynu dy fod am ddatblygu ardal chwarae newydd, fe allwn ni helpu. Yma rydym yn cynnig rhestr o bethau i feddwl amdanynt.

Lleoliad dy ardal chwarae

Bydd angen iti ystyried manteision ac anfanteision y lleoliad sydd gennyt mewn golwg. Ydi o’n le hawdd i gyrraedd ato, ac ydi o’n ddiogel ac yn addas ar gyfer chwarae? Ydi o’n cynnwys nodweddion sy’n dda ar gyfer chwarae, er enghraifft coed aeddfed, bryniau a llethrau? Sut mae’r lleoliad ar wahanol adegau o’r flwyddyn ac mewn gwahanol dywydd? Pwy sy’n berchen arno? A oes unrhyw gynlluniau eraill ar ei gyfer eisoes? A oes unrhyw gyfyngiadau ar ei ddatblygu?

Y ‘gwerth chwarae’

Rydym yn defnyddio’r term ‘gwerth chwarae’ i ddisgrifio amrywiaeth a safon y cyfleoedd chwarae y bydd plant yn eu cael o ardal chwarae. Mae gofod chwarae sydd â llawer o werth chwarae’n cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd chwarae - corfforol, cymdeithasol a synhwyrol. Gellir cynyddu gwerth chwarae posibl ardal trwy feddwl am bethau fel natur, y synhwyrau, yr elfennau, offer a deunyddiau chwarae.

Natur

Yn aml, caiff pobl sy’n dylunio ardaloedd chwarae eu hysbrydoli gan ardaloedd naturiol fel traethau, coedydd a mannau gwyllt. Mae’r rhain yn cynnig posibiliadau ar gyfer rhyddid, dewis, hwyl, antur, yr annisgwyl a darganfod, y mae pob un ohonynt yn bwysig ar gyfer chwarae.

Galli hefyd gynnwys nodweddion naturiol mewn ardal chwarae - er enghraifft, twmpathau glaswelltog, planhigion, cerrig crynion, ffosydd dŵr, coed a phyllau naturiol.

 Y synhwyrau

Mae natur yn cynnig nifer o gyfleoedd amrywiol a newidiol i ddefnyddio'n synhwyrau. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • arogl blodau
  • teimlad gwahanol ddail
  • sŵn adar a phryfed
  • blas perlysiau
  • diddordeb gweledol gwahanol liwiau.

 

Bydd chware gyda phethau rhydd fel tywod a rhisgl, a cherdded neu redeg dros wahanol arwynebau fel llwybrau llyfn neu grensiog yn defnyddio ein synhwyrau. Mae gwaith celf, cerfluniau, teganau fel rhubanau, ac offer chwarae fel nodweddion chwarae â dŵr yn apelio i’n synhwyrau hefyd.

Yr elfennau – pridd, dŵr, tân ac awyr

Mae ardaloedd naturiol yn rhoi cyfleoedd hefyd i blant ryngweithio gyda’r elfennau gan gysylltu â’r tywydd, y tymhorau a’r ddaear. Gellir gofyn i’r dylunydd gynnwys cyswllt gyda’r elfennau fel rhan o’u dyluniad. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • ardaloedd mwdlyd i dyllu ynddyn nhw
  • nentydd a chyrsiau dŵr
  • pyllau naturiol
  • ardaloedd tân gwersyll
  • strwythurau uchel.

Offer

Pan fyddwn ni’n meddwl am ardaloedd chwarae, yn aml byddwn yn meddwl am offer chwarae fel llithrennau a siglenni. Ond, dim ond un rhan o ardal chwarae lwyddiannus yw’r offer. Mae’n bwysig cyfuno offer chwarae gyda nodweddion eraill yn yr ardal chwarae.

Dylid dewis offer chwarae sy’n cynnig profiadau y gall y plant eu rhannu. Ceisia wneud yn siŵr ei fod yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw chwarae gyda phlant sydd â gwahanol alluoedd.

Deunyddiau chwarae

I wneud y gorau o ardal chwarae, mae angen i’r plant allu ei addasu a’i siapio fel ei fod yn gweddu i sut y maent am chwarae. Mae angen iddyn nhw allu ei newid dros amser a dod o hyd i gyfleoedd newydd i chwarae. Mae deunyddiau chwarae’n bethau y gall y plant eu symud o gwmpas, eu haddasu, eu hadeiladu, eu chwalu a’u cymysgu. Mae coed, planhigion ac arwynebau wedi eu gorchuddio â stwff rhydd fel tywod neu risgl yn darparu cyflenwad o rannau rhydd fydd yn newid gyda’r tymhorau.

Mynediad a chynhwysiant

Mae ardaloedd chwarae sy’n gweithio’n dda ar gyfer plant anabl yn well hefyd i’r mwyafrif o blant a’r gymuned ehangach i chwarae ynddyn nhw. Mae ardaloedd hygyrch a chynhwysol yn gwneud yn siŵr y gall pawb fynd i mewn ac allan o’r ardal chwarae, symud o’i hamgylch, a chyrraedd at y nodweddion neu’r cyfleoedd chwarae. Yn ogystal, mae ardaloedd hygyrch a chynhwysol yn gwneud yn siŵr bod gan y plant ddewis ac y gallan nhw chwarae yn eu ffordd eu hunain.

Cyfleusterau

Gall ardaloedd chware gynnwys nodweddion ychwanegol fel seddi, byrddau picnic, parcio a thoiledau hygyrch. Cofia bod toiledau a chyfleusterau newid addas yn arbennig o bwysig i deuluoedd sydd â phlant anabl. Bydd rhai pobl angen offer ychwanegol a mwy o le i ganiatáu iddyn nhw ddefnyddio’r toiled yn ddiogel a didrafferth.

Taro cydbwysedd rhwng y risgiau a’r buddiannau

Pan fyddi’n cynllunio dy ardal chwarae, cofia ystyried sut y galli daro cydbwysedd rhwng y risgiau a’r buddiannau. Mae’r rhan fwyaf o blant ac arddegwyr yn mwynhau chwarae anturus, cyffrous gyda rhywfaint o risg.

Rydym yn gwybod bod plant angen profi rhywfaint o risg – mae’n eu helpu i brofi eu cyraeddiadau a dysgu sut i reoli risg. Rydym yn gwybod hefyd, y gall cyflwyno rhywfaint o risg mewn ardal chwarae stopio plant rhag teimlo’r angen i chwilio am risg mewn mannau eraill, llai priodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw ardal chwarae’n gosod plant mewn perygl annerbyniol o ddioddef niwed difrifol.

Gweithwyr chwarae

Gall gweithwyr chwarae helpu plant i gael llawer allan o ofod chwarae. Gall oedolion medrus sy’n deall chwarae helpu gyda chwarae, cyflwyno deunyddiau chwarae a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cynnwys, Mae’n syniad da i gynnwys gweithwyr chwarae yn dy brosiect a dy gynlluniau codi arian.

Darllena fwy am bethau i’w gwneud wrth gynllunio dy ardal chwarae 

English