Sut i annog chwarae mewn ysgolion a gofal plant

Chwarae yn y gymuned

Sut i annog chwarae mewn ysgolion a gofal plant

Bydd plant yn treulio llawer o’u hamser yn yr ysgol neu mewn lleoliad gofal plant fel crèche, meithrinfa neu glwb ar ôl ysgol. Dylai ysgolion a lleoliadau gofal plant roi llawer o gyfleoedd i chwarae trwy gydol y dydd, bob dydd.

Mewn gofal plant ac yn y blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol, chwarae ydi’r prif ffordd y bydd plant yn treulio eu hamser. Dylai ysgolion roi llawer o gyfleoedd i blant o bob oed i chwarae yn ystod y dydd, bob dydd. Mae agwedd chwareus yn bwysig yn yr ystafell ddosbarth hefyd.

Mae arddegwyr hefyd angen amser a lle i chwarae, ymlacio a chymdeithasu – cyn, yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol.

Meddylia am y cyfleoedd sydd gan dy blentyn i chwarae, ble bynnag y bydd yn treulio amser. Yw ysgol neu leoliad gofal plant dy blentyn yn ymddangos yn ddigon chwareus? Sut alli di ddweud – beth ddylet ti chwilio amdano?

Beth sy’n arwyddion o ysgolion a gofal plant chwareus?

  • Mae dy blentyn yn dod adre’n rheolaidd gyda hanesion am amserau chwarae yn llawn hwyl ac antur.
  • Mae dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd.
  • Mae’r plant yn cael eu hannog i chwarae’r tu allan ym mhob tywydd.
  • Fydd y plant ddim yn cael eu gorfodi i wneud rhywbeth arall cyn cael caniatâd i chwarae - er enghraifft, gorffen gwaith cartref.
  • Mae’r plant yn rhan o greu rheolau ar gyfer y maes chwarae – a ’does dim gormodedd o reolau.
  • Mae’r plant i gyd yn cael eu cynnwys yn y chwarae.
  • Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn edrych yn chwareus, ac nid yn berffaith - er enghraifft, efallai ei fod yn edrych braidd yn flêr, mae’n bosibl ei fod yn cynnwys ardaloedd gwyllt neu laswellt tal, efallai bod olion sialc ar lawr, mae’n bosibl y bydd yn newid o bryd i’w gilydd.
  • Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn cynnwys pethau fel hen deiars neu focsys y gall y plant eu symud o gwmpas a chreu pethau gyda nhw pan maent yn chwarae.
  • Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn cynnwys pethau naturiol i chwarae gyda nhw, fel cerrig crynion a phlanhigion.
  • Fydd amser chwarae fyth yn cael ei atal fel cosb.

Sut alli di annog ysgol neu leoliad gofal plant dy blentyn i fod yn fwy chwareus?

Fel arfer, bydd ysgolion a lleoliadau gofal plant yn croesawu gwirfoddolwyr a chyfraniadau rhieni a gofalwyr. Os sylwi di ar arwyddion nad ydyn nhw mor chwareus ac y gallent fod (gweler y rhestr uchod), yna dyma rai ffyrdd y galli eu helpu i fod yn fwy chwareus.

Dysgu mwy am chwarae

  • Chwilia ar y rhyngrwyd am luniau o ardaloedd chwarae da
  • Gofyn i’r plant am eu syniadau a’u meddyliau
  • Trefna ymweliadau gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant eraill i weld beth maen nhw’n ei wneud yn dda
  • Ymchwilia i’r syniadau diweddaraf am chwarae, meysydd chwarae ac amserau chwarae (mae’r wefan yma’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol)
  • Dysga pwy all gynnig cymorth a chyngor yn lleol.

Chwilio am ffyrdd i godi mater chwarae

  • Cysyllta gyda dy ysgol neu leoliad gofal plant i ofyn a alli ddod i mewn i siarad gyda nhw am chwarae
  • Ymuna â’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon a chodi mater chwarae yno
  • Awgryma greu grŵp gwella maes chwarae neu amser chwarae
  • Annog dy blentyn i ymuno â’r cyngor ysgol – mae gofyn i bob ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yng Nghymru gael un.

Bod yn barod i wneud rhywbeth

  • Dewis brosiectau bychan syml y galli eu trefnu – fel adeiladu pwll tywod
  • Chwilia am ffyrdd i gynnwys y plant – er enghraifft, siarad gyda nhw am yr hyn yr hoffent ei newid yn yr ardal chwarae
  • Dysga pa rieni sydd â sgiliau allai fod o gymorth – fel codi arian, gwaith coed, garddio
  • Gofyn am gynigion o gymorth a chyfraniadau – a gwneud defnydd o bob un ohonynt
  • Ymgeisia am ariannu – gall hyd yn oed symiau bychan helpu i wneud gwahaniaeth
  • Llunia gynllun datblygu chwarae – a chynnwys nodau tymor byr, canolig a hir.
English