Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus

Chwarae yn y gymuned

Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus

Sut mae cymuned chwareus yn edrych?

  • Ydi hi’n llawn o bethau i blant ac arddegwyr i’w gwneud – er enghraifft, cynlluniau chwarae, grwpiau ieuenctid, ardaloedd chwarae a chwarae meddal, a chlybiau ar ôl ysgol?
  • Ydi hi’n le ble mae plant a’u rhieni’n teimlo ei bod hi’n ddiogel i dreulio amser y tu allan – i gwrdd â ffrindiau, chwilota, mynd ar feic, dringo coed, adeiladu cuddfan?

 

Gall cymuned chwareus fod yn gymysgedd o’r ddau. Mae’n le ble mae plant ac arddegwyr yn teimlo eu bod yn perthyn – ble mae ganddyn nhw bethau i’w gwneud, a ble y gallan nhw chwarae’r tu allan a chymdeithasu’n ddiogel gyda’u ffrindiau.

Sut all rhieni ac oedolion eraill wneud yn siŵr bod eu cymuned yn un chwareus?

Mae cymuned chwareus yn golygu mwy na dim ond agor y drws a gadael i’r plant fynd allan. Mae llawer o bethau positif y gall oedolion eu gwneud i wneud eu cymdogaeth yn fwy chwareus. Dyma rai o’r pethau sydd gan gymunedau chwareus yn gyffredin:

  • Mae’r rhieni, mam-guod, tad-cuod, neiniau a theidiau ac oedolion eraill yn adnabod ei gilydd, felly maen nhw’n teimlo ei bod hi’n ddiogel iddyn nhw adael i’w plant chwarae allan.
  • ’Does dim ots gan yr oedolion bod plant ac arddegwyr allan yn y gymuned.
  • Mae’r oedolion yn gwybod bod chwarae’n bwysig iawn ar gyfer iechyd, datblygiad a hapusrwydd plant.
  • Mae’r oedolion yn derbyn y gall plant ac arddegwyr sy’n chwarae allan yn eu cymuned fod yn swnllyd ac edrych yn anniben.
  • Mae gan y plant a’r arddegwyr ffyrdd o roi gwybod i’w rhieni ble y maen nhw a phryd y byddan nhw’n dod adref.
  • Mae’r plant a’r arddegwyr yn gwybod sut i groesi’r ffordd a symud o amgylch eu cymdogaeth yn ddiogel.
  • Mae gan y plant ac arddegwyr fannau i gwrdd sy’n agos i’w cartrefi.
  • Mae plant, arddegwyr ac oedolion yn gallu cerdded a seiclo o amgylch y gymdogaeth, gan fod y traffig yn cael ei reoli.
  • Mae gan y plant ac arddegwyr bethau i’w gwneud sy’n cael eu staffio gan oedolion ond sydd ddim yn rhy ffurfiol – fel cynllun chwarae neu grŵp ieuenctid.
English