Ymgeisio am gyllid

Chwarae yn y gymuned

Ymgeisio am gyllid

Dyma ein hawgrymiadau anhygoel ar gyfer codi arian:

Ceisia fynd i mewn i feddwl y cyllidwr neu’r person sy’n rhoi’r grant

Mae’n syniad da i weithio allan sut y bydd pob cyllidwr yn penderfynu pa grantiau i’w rhoi. Ceisia gael teimlad am sut y mae pob cyllidwr yn meddwl - bydd hyn yn dy helpu i baratoi cais sydd â chyfle cryfach o lwyddo.

Pan fyddi’n ymgeisio am gefnogaeth ariannol, ’does dim o’r fath air â ‘na’

Mae’n bwysig ystyried ‘na’ oddi wrth ddarpar-arianwyr fel cychwyn y daith sy’n arwain at ‘ie’. Y cyfan y mae ‘na’ yn ei olygu yw nad yw dy brosiect yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r cyllidwr am ei gefnogi ar hyn o bryd. Felly paid byth â rhoi’r ffidil yn y to. Dal i drafod a dod yn ôl gyda cheisiadau sydd ychydig yn wahanol, gan wneud yn siŵr ei bod hi’n amlwg dy fod wedi ystyried amheuon y rhai sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau.

Pan fydd pobl yn dy amau, cyflwyna realiti’r prosiect iddyn nhw

Eglura sut y bydd plant yn elwa o’r prosiect chwarae – a sut y byddan nhw’n dioddef os na fyddwch chi’n derbyn y cyllid.

Paid â bod ofn defnyddio dadleuon emosiynol

Bydd yn ymwybodol o ba mor emosiynol wan y gall oedolion fod. Mae pob oedolyn wedi bod yn blentyn ac, efallai, eu bod yn teimlo i’w plentyndod orffen yn rhy fuan. Mae’n debyg y byddan nhw’n cydymdeimlo’n naturiol â’r ffaith bod plant angen chwarae.

Tyrd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau i’r prosiect er mwyn iddyn nhw gwrdd â’r plant

Plant yw’r gwerthwyr gorau oll. Fe ddylet ganiatáu iddyn nhw hebrwng cyllidwyr posibl, newyddiadurwyr a gweinidogion y llywodraeth o amgylch eich man chwarae. Bydd ymdeimlad y plentyn o berchenogaeth a chyfranogaeth yn helpu i werthu eich prosiect chwarae’n llawer gwell nag unrhyw oedolyn!

Paid â dibynnu ar un ffynhonnell ariannu

Mae buddiannau chwarae plant yn gymhleth ac amrywiol, sy’n golygu na fydd chwarae, o reidrwydd, yn syrthio i un categori ariannu penodol. Dylet ddisgwyl derbyn cyllid ar gyfer dy brosiect chwarae o nifer o wahanol fannau.

Gwna’n siŵr bod yr ariannu’n gorgyffwrdd fel na fydd dy brosiect fyth heb gefnogaeth ariannol

Bydd hyn yn dangos i dy gefnogwyr a’r cyhoedd – ac, yn bwysicaf oll, i’r plant sy’n defnyddio dy brosiect chwarae – bod yr hyn yr wyt ti’n ei ddarparu’n ddibynadwy a sefydlog.

Clustnoda’r bobl fydd yn dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau

Ceisia dargedu’r bobl yma – gofyn i gwrdd â nhw a chofia gadw nodiadau am unrhyw gysylltiad y cei gyda nhw. Os galli dderbyn cefnogaeth pobl ddylanwadol, mae’n debyg y bydd dy brosiect chwarae’n ymddangos yn fwy pwysig a gwerthfawr i’r byd y tu allan.

Gwna dy apêl codi arian yn glir a deniadol

Bydd pobl yn clywed am aml i apêl a chynnig. Beth alli di ei wneud i wneud i dy un di sefyll allan? Ydi’r apêl yn debyg o ysgogi pobl i fod eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi dy brosiect chwarae’n syth?

Bydd yn barod i fod yn ‘gameleon cymdeithasol’

Pan wneir penderfyniad am ariannu, caiff ei seilio ar farn llawer o wahanol bobl. Felly mae’n bwysig ymddwyn yn barchus tuag at unrhyw ddarpar-gyllidwr, a bod yn gyfeillgar ac yn gwrtais gyda phawb fydd ag unrhyw beth i’w wneud â’r penderfyniad.

English