Cynnwys plant ac arddegwyr yn dy ymgyrch chwarae

Chwarae yn y gymuned

Cynnwys plant ac arddegwyr yn dy ymgyrch chwarae

Os wyt ti’n ymgyrchu dros rywbeth sy’n effeithio ar blant ac arddegwyr – fel chwarae – fe ddylen nhw gael cyfle i gael eu cynnwys yn iawn.

Mae gan blant ac arddegwyr hawl i gael eu clywed

Mae gan blant ac arddegwyr hawl i fynegi eu barn ar bethau sy’n ymwneud â nhw. Weithiau, mae’n bosibl y byddan nhw angen ein cymorth ni i’w helpu i wneud hyn. Gallai hyn gynnwys:

  • rhoi anogaeth
  • defnyddio llawer o ffyrdd gweledol a chelfyddydol i’w helpu i fynegi eu barn
  • croesawu syniadau creadigol
  • gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael mewn fformat ymarferol – er enghraifft, mewn Cymraeg plaen, ieithoedd y gymuned, ffontiau darllenadwy i bobl ddyslecsig, defnyddio delweddau yn ogystal â thestun
  • gwneud yr amgylchedd ffisegol yn gyfforddus a chroesawus
  • gwneud yn siŵr bod y modd y byddwch yn helpu’n briodol ar gyfer eu hoedran a’u gallu
  • gwneud pethau ar amser addas
  • darparu cymorth ymarferol, fel cludiant neu docyn bws.

 

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud ei bod yn bwysig bod plant ac arddegwyr yn cael cyfle i fod yn rhan o ddatblygu cynlluniau ar gyfer chwarae a dylunio gwasanaethau chwarae. Gallai hyn gynnwys:

  • polisïau ar chwarae
  • dylunio cymunedau ac amgylcheddau plant-gyfeillgar
  • parciau a chyfleusterau lleol eraill
  • cynllunio trefi a dinasoedd
  • deddfau ar addysg, ysgolion a’r cwricwlwm
  • deddfau ar waith plant.

Argymhellion anhygoel ar gyfer cynnwys plant ac arddegwyr

  • Cofiwch gynnwys plant ac arddegwyr o’r cychwyn cyntaf.
  • Gwrandewch ar eu safbwyntiau a’u syniadau.
  • Cofiwch na fydd gan bob un ohonynt yr un safbwyntiau.
  • Rhowch ddigon o wybodaeth ac amser iddyn nhw ddewis os ydyn nhw am gymryd rhan.
  • Meddyliwch am wahanol ffyrdd y gall y plant chwarae rhan.
  • Gwnewch y broses yn ddiogel – cofia wneud yn siŵr dy fod yn croesawu gwahanol safbwyntiau a gwahanol ffyrdd o fynegi eich hun. Cofiwch greu cytundeb ar faterion fel cyfrinachedd a pharchu eich gilydd.
  • Ceisia ei wneud yn hwyl – ’does dim angen iddyn nhw gael eu cynnwys mewn cyfarfodydd hir a diflas.
  • Cofia wneud yn siŵr ei bod yn bosibl i bob plentyn allai fod â diddordeb i ymuno yn yr ymgyrch.
  • Cofia ddarparu gwybodaeth sy’n glir ac sy’n ystyried eu hoedran a’u gallu.
  • Gwna’r mwyaf o’u brwdfrydedd, egni a chreadigedd.
  • Cofia eu diweddaru am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn y byddwch yn ei gyflawni.
  • Cofia ofyn am ganiatâd cyn defnyddio eu geiriau, eu delweddau neu eu lluniau – hyd yn oed os yw eu rhieni wedi rhoi caniatâd eisoes.

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Yng Nghymru mae gennym saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc. Galli eu defnyddio i sicrhau bod plant ac arddegwyr yn cael y profiad gorau posibl.

Read the Participation Standards

English