Chwarae yn y gymuned
Gwahanol ffyrdd i ymgyrchu dros chwarae plant yn dy gymuned
Dechrau trwy feddwl am yr holl ffyrdd posibl y galli gyfleu dy neges. Bydd yn greadigol ac yn llawn dychymyg – bydd hyn yn dy helpu i ddenu sylw’r cyfryngau a’r bobl fydd yn gwneud penderfyniadau.
Meddwl sut y gallet gynnwys dy blentyn neu blant lleol eraill ac arddegwyr yn dy waith cynllunio a gweithredu. Dysga fwy am gynnwys plant ac arddegwyr.
Pethau y gallet eu gwneud
- Cynnal cyfarfod cyhoeddus i weld pwy sydd â diddordeb yn y mater
- Ysgrifennu llythyrau at y bobl y bydd angen iti ddylanwadu arnyn nhw
- Gofyn am gyfarfod wyneb-yn-wyneb gyda’r person neu’r grŵp yr wyt am ddylanwadu arnyn nhw
- Ysgrifennu at Dudalen Lythyrau dy bapur newydd lleol
- Trefnu digwyddiad i dynnu sylw at y mater mewn ffordd gadarnhaol – er enghraifft, diwrnod chwarae yn y parc neu gystadleuaeth tynnu lluniau ar y palmant
- Creu cyfle tynnu lluniau er mwyn cael delweddau trawiadol y gellir eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, y teledu ac mewn papurau newydd (cofia ofyn am ganiatâd rhieni cyn tynnu lluniau o’r plant)
- Ysgrifennu datganiad i’r wasg i ddal sylw’r cyfryngau lleol
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i amlygu dy neges a chyflwyno dy achos
- Gweithio gyda phartner yn y cyfryngau – fel papur newydd lleol – er mwyn cadw sylw ar dy fater
- Cynnwys dy gynghorydd lleol (gweler isod).
Sut i flaenoriaethu dy gamau gweithredu
Mae angen iti feddwl pa gamau gweithredu fydd rwyddaf i’w cyflawni a pha rai fydd fwyaf effeithiol. Meddwl am bedwar peth:
- Pa mor hawdd fydd pob cam gweithredu i’w drefnu
- Faint fydd o’n costio
- Pa adnoddau fyddi di eu hangen
- Pa mor effeithiol wyt ti’n credu fydd hyn.
Lawrlwytha esiampl o gynllun gweithredu
Sut i gynnwys dy gynghorydd lleol
Mae dy gynghorydd lleol yn gyfrifol am chwarae plant, felly dylai fod â diddordeb yn y mater. Mae’n syniad da i gwrdd gyda nhw’n gynnar yn yr ymgyrch i:
- sicrhau eu cefnogaeth
- dysgu sut y gallan nhw helpu
- rhoi gwybod iddyn nhw beth fyddi di angen iddyn nhw ei wneud.