Syniadau chwarae
Sut i ddelio gyda dy blentyn yn chwarae gydag arfau
Mae’n ymddangos fel bod plant yn gallu creu arfau – nid dim ond gynnau ond bwa a saeth, grenadau, sabrau golau, machetes a bomiau – allan o bron a bod unrhyw beth. Byddant yn eu creu allan o frigau, cardbord, peli, llysiau a hyd yn oed eu dwylo.
Efallai y bydd plant yn eu harddegau’n hoffi cymryd rhan mewn gemau fel saethu peli-paent neu ail-greu brwydron.
Buddiannau chwarae gydag arfau
Mae aml i theori pam fod plant ac arddegwyr yn hoffi chwarae gydag arfau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhoi tro ar wahanol rolau – sut deimlad yw bod yn arwr, bod yn bwerus, ennill neu golli?
- Archwilio cwestiynau ‘beth pe bae’ mawr – beth pe bae gen i arf? Beth pe bawn i mewn perygl? Beth pe bawn i’n ddyn da neu’n ddyn drwg?
- Gwneud synnwyr o’r hyn y maent yn ei glywed a’i weld – adroddiadau ar y newyddion o wledydd ble mae rhyfel, neu wrthdaro bywyd go iawn.
- Chwarae er mwyn gweithio trwy rywbeth sy’n peri pryder iddyn nhw, er mwyn ei wneud yn llai ofnus.
- Chwarae gyda gofod ffisegol – symud o amgylch, ennill tiriogaeth, archwilio terfynau’r amgylchedd.
- Archwilio sut y gallai pobl ymddwyn ac ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd.
- Dysgu am gyfathrebu.
Mae rhai pobl yn awgrymu bod plant sy’n chwarae gydag arfau’n arddangos greddfau dynol hynafol i hela a gwarchod.
Pethau allai bryderu rhieni
Os wyt ti’n ansicr sut i ymateb i dy blentyn yn chwarae gydag arfau tegan neu ddychmygol, ’dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o rieni’n teimlo’r un fath, yn enwedig am ynnau tegan.
- Efallai y byddi’n poeni os yw hi’n iawn gadael iddyn nhw chwarae fel hyn.
- Efallai y byddi’n poeni os bydd chwarae gydag arfau’n annog dy blentyn i dyfu’n oedolyn treisgar.
- Efallai y byddi’n meddwl os yw’n bosibl iti eu stopio.
Mae tystiolaeth yn awgrymu na fydd chwarae gydag arfau – teganau, rhai dychmygol neu rai wedi eu creu gartref – yn troi plant yn oedolion treisgar.
Awgrymiadau ar gyfer delio gyda dy bryderon
- Gwylia beth fydd yn digwydd – oes rhywun yn cael ei anafu neu ei fwlian mewn gwirionedd, neu ydi pawb sy’n rhan o’r gêm yn mwynhau eu hunain?
- Gwranda ar yr hyn y mae dy blentyn yn ei ddweud am chwarae gydag arfau a gweld sut y maen nhw’n teimlo. Gall hyn dy helpu i ddeall beth mae’r chwarae’n ei olygu iddyn nhw.
- Meddylia beth wyt ti’n teimlo’n gyfforddus ag o a pham hynny. Er enghraifft:
- Gefaist ti chwarae gydag arfau tegan pan oeddet ti’n tyfu i fyny?
- Wyt ti’n ofni y bydd chwarae gydag arfau’n gwneud dy blentyn yn dreisgar?
- Wyt ti’n hapus i dy blentyn chwarae gydag arfau dychmygol?
- Sut wyt ti’n teimlo am deganau neu arfau realistig y mae dy blentyn wedi eu creu?
- Meddylia sut y mae pobl eraill wedi ymateb i dy blentyn yn chwarae gydag arfau. Yw rhai ohonyn nhw wedi ymuno yn y chwarae – er enghraifft, trwy riddfan mewn poen a chreu golygfeydd o farwolaethau dramatig? Oes eraill wedi twt-twtian neu ddweud ‘Paid â gwneud hynna’? Pa wahaniaeth mae hynny’n ei wneud i sut yr wyt ti’n teimlo?