Gemau hawdd i’w chwarae gyda grŵp o blant

Syniadau chwarae

Gemau hawdd i’w chwarae gyda grŵp o blant

Mae gemau grŵp yn ffordd wych i dy blentyn neu dy blentyn yn ei arddegau wneud ffrindiau newydd. Fe allan nhw helpu plant sydd ddim yn adnabod ei gilydd i deimlo’n gyfforddus. Mae llawer o gemau’n addas ar gyfer plant o wahanol oed a gallu, a gall oedolion chwarae hefyd. Mae gemau grŵp yn wych i chwarae yn y parc neu ar y stryd ar ôl ysgol, ar y traeth, neu mewn digwyddiadau fel picnics neu bartïon.

Dyma rai gemau i roi cychwyn ar bethau!

Tic

Mae Tic yn gêm gwrso gaiff ei chwarae dros y byd i gyd.

  • Mae un person ‘Ymlaen’.
  • Bydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn cyfrif i 10 cyn rhedeg ar ôl y chwaraewyr eraill.
  • Pan fydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn cyffwrdd rhywun arall, bydd yn gweiddi ‘Tic’.
  • Yna’r person gafodd ei gyffwrdd sydd ‘Ymlaen’ a byddan nhw’n dechrau rhedeg ar ôl pawb arall.
  • Gall y gêm para cyhyd â bod pawb awydd.

Mae llawer o amrywiadau ar gemau tic i’w cael. Dyma rai enghreifftiau:

  • Tic uchel – alli di ddim cael dy dicio os ydi dy draed oddi ar y llawr – er enghraifft, os byddi’n sefyll ar wal neu’n hongian ar gangen coeden.
  • Tic hopian – alli di ond hopian, ddim rhedeg.
  • Tic twnnel – os cei dy dicio, bydd rhaid iti sefyll gyda dy goesau ar led a dy freichiau allan tan i chwaraewr arall dy ryddhau trwy gropian rhwng dy goesau.
  • Tic cysgod – Bydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn dy dicio trwy sefyll ar dy gysgod yn hytrach na chyffwrdd ynot ti.

Gêm hawdd sy’n helpu plant i ddysgu enwau ei gilydd

  • Chwilia am rywbeth i’w daflu fel pêl – er enghraifft, pêl, balŵn, tegan meddal, sgarff wedi ei rowlio’n bêl neu lemon.
  • Pawb i greu cylch.
  • Pasiwch y ‘bêl’ o amgylch y cylch.
  • Gofyn i bob person ddweud eu henw wrth dderbyn y bêl ac yna ei phasio ymlaen i’r person nesaf.
  • Unwaith i bawb ddal y bêl o leiaf unwaith, gofyn i’r person sy’n dal y bêl i ddweud enw unrhyw berson yn y cylch a thaflu’r bêl atyn nhw.
  • Pan fydd y person yna’n ei dal, bydd yn dewis rhywun arall, galw eu henw a thaflu’r bêl atyn nhw, ac yn y blaen.
  • Daliwch ati am ychydig o droeon ac yna ychwanegu eitem arall, y gall rhywun arall ddechrau ei thaflu o amgylch y cylch.
  • Ychwanegwch fwy o eitemau bob yn un, tan fod gennych nifer o bethau’n cael eu taflu yn ôl ac ymlaen. 

Dal cynffon y ddraig

  • Chwilia am ddau sgarff neu ddarn hir o ffabrig i’w defnyddio fel ‘cynffonau’.
  • Rhannwch bawb yn ddau grŵp.
  • Gofynnwch i’r grwpiau greu dwy linell, gyda phob person yn gafael am ganol y person o’u blaen. Mae pob llinell yn ‘ddraig’ a’r person cyntaf yn y llinell yw pen y ddraig.
  • Gwthiwch y sgarff, yn llac, i mewn i linyn gwasg trowsus y person ar ddiwedd y ddwy linell. Dyma’r gynffon.
  • Gofynnwch i’r dreigiau wynebu ei gilydd, ond heb sefyll yn rhy agos.
  • Bloeddiwch, ‘daliwch gynffon y ddraig’.
  • Nawr, mae rhaid i’r dreigiau redeg o gwmpas – gyda’r bobl yn y dreigiau’n dal gafael ar ei gilydd – er mwyn i’r person ar y blaen (pen y ddraig) geisio dal cynffon y ddraig arall, ond heb i’w draig nhw chwalu.

Helfa drysor fechan

Fe allet ti gynnal helfa drysor yn rhywle fel parc, traeth neu ardd heb unrhyw waith paratoi ymlaen llaw.

  • Meddwl am syniadau am ‘drysorau’ (gweler y syniadau isod) a’u hysgrifennu ar ddarnau o bapur – neu ddewis y rhain wrth fynd yn eich blaen.
  • Gofyn i’r plant feddwl am syniadau.
  • Gofyn i’r plant benderfynu os ydyn nhw am chwilio am y trysor fel unigolion, mewn parau neu fel timau.
  • Gwna amser i holi am yr holl drysorau y daw’r plant o hyd iddyn nhw.

Syniadau ar gyfer ‘trysorau’ y gallai’r plant chwilio amdanyn nhw:

  • deilen ddisglair
  • carreg lefn
  • rhywbeth coch
  • rhywbeth drewllyd
  • rhywbeth sgleiniog
  • rhywbeth sy’n dy wneud yn hapus
  • rhywbeth sy’n dy atgoffa o dy wyliau.

Gemau eraill sydd ddim angen offer (neu fawr ddim offer)

  • Cuddio
  • ‘Simon says’
  • Osgoi’r bêl
  • Canlyn camre Mam-gu
  • Faint ydi o’r gloch, Mistar Blaidd? 

Cynghorion ar gyfer chwarae gemau grŵp

  • Cofia gynnwys pawb
  • Gofyn oes gan rywun arall gêm i’w rhannu gyda gweddill y grŵp.

Os ydych chi’r tu allan, cofia:

  • Barchu natur
  • Edrych os oes baw cŵn, gwydr wedi torri neu unrhyw beryglon eraill ar y safle
  • Penderfynu os oes cyfyngiadau ar ba mor bell y gall y plant grwydro – er enghraifft, ddim pellach na ffens, coeden neu dirnod penodol arall.
English