Pethau i chwarae gyda nhw

Syniadau chwarae

Pethau i chwarae gyda nhw

‘Mae’n well ganddyn nhw chwarae gyda’r bocs oedd am y tegan, na gyda’r tegan ei hun!’ Mae’n siŵr bod pob un ohonom wedi clywed neu ddweud hyn.

Pan fydd dy blentyn yn dewis chwarae gyda bocs yn hytrach na gyda thegan, mae hynny oherwydd eu bod yn gweld ei botensial ar gyfer chwarae. Mae plant yn gweld potensial mewn pob math o bethau. Maen nhw’n gweld y gellir ei ddefnyddio mewn mwy nag un ffordd.

Pa fath o bethau sy’n dda ar gyfer chwarae?

Yn aml, pethau fel bocsys, cortyn, brigau, papur, pasta, clustogau a defnydd fydd y pethau chwarae gorau. Trwy eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, fe allan nhw fod yn unrhyw beth y mae dy blentyn eisiau. Ac maen nhw’n ddelfrydol achos, fel arfer, maen nhw’n bethau sydd i’w cael o gwmpas y tŷ, neu’n hawdd dod o hyd iddyn nhw.

Mae pethau fel tywod, dŵr, cregyn, defnydd, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli a phren yn hawdd dod o hyd iddyn nhw y tu allan a dydyn nhw ddim yn ddrud.

Adnoddau chwarae ‘rhannau rhydd’

Rydyn ni’n galw’r mathau yma o bethau bob dydd yn ‘rannau rhydd’. Mae’r plant yn gallu eu symud o gwmpas, eu cario, eu rholio, eu codi, eu pentyrru ar ben ei gilydd, neu eu rhoi at ei gilydd i greu profiadau a strwythurau diddorol, gwreiddiol.

Mae rhannau rhydd yn wych ar gyfer chwarae plant gan eu bod nhw’n:

  • cynyddu chwarae’r dychymyg a chwarae creadigol
  • eu helpu i chwarae’n gydweithredol ac i gymdeithasu mwy
  • eu hannog i fod yn fwy corfforol egnïol
  • eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a thrafod.

Pa bethau ddylet ti eu rhoi i dy blentyn?

Bydd ychydig o deganau dethol a llawer o rannau rhydd yn gwella gofod chwarae dy blentyn ac yn caniatáu iddynt reoli eu chwarae eu hunain. Mae teganau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd mewn gwahanol sefyllfaoedd yn ddelfrydol – pethau fel blociau adeiladu, pethau celf a chrefft, a theganau meddal.

Rhai syniadau ar gyfer sut y gall dy blentyn ddefnyddio rhannau rhydd

  • Defnydd – gall hen lenni, cynfasau gwely a chlustogau gael eu troi’n guddfannau, cerrig sarn mewn afon neu’n glogyn dewin
  • Bocsys cardbord – mawr, bach, un neu lawer, gellir eu troi’n dŷ, yn gastell neu’n gar
  • Tiwbiau cardbord – gall tiwbiau hir (o ganol papur lapio) fod yn hudlath, yn gleddyf, yn ffyn curo drwm neu’n drymped.
  • Eitemau eraill o amgylch y tŷ – pecynnau bwyd ar gyfer chwarae bod mewn siop neu gegin, a gall sosbenni a photiau fod yn ddrymiau.
    English