Am chwarae
Awgrymiadau anhygoel ar gyfer amser sgrîn
Mae llawer o rieni’n ei chael yn anodd canfod yr ateb i’r heriau sy’n cael eu hachosi gan amser sgrîn. Rydym yn poeni sut i gefnogi ein plant er mwyn eu helpu i ddefnyddio sgriniau mewn ffordd gytbwys sy’n dda iddyn nhw. Fel rhieni mae gennym rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi plant i fyw’n bositif yn ein byd digidol.
’Dyw’r rheolau heb newid
Mae’r agweddau yr ydym yn eu hargymell ar gyfer magu plant all-lein yn berthnasol ar-lein hefyd. Mae plant angen oedolion i gefnogi eu chwarae. Mae angen i rieni chwarae gyda’u plant, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r ddawn a’r hyder i chwarae’n annibynnol.
Mae plant yn disgwyl i oedolion bennu ffiniau a’u helpu i reoli eu hamser. Mae cyn bwysiced iti adnabod ffrindiau dy blentyn a ble mae nhw’n treulio amser ar-lein yn ogystal ag all-lein.
Mae ar-lein yn ‘amgylchedd’
Mae plant yn gwneud yr un pethau ar-lein ac y maent wedi eu gwneud erioed – yr unig wahaniaeth yw bod eu chwarae’n rhithwir. Mae technoleg ddigidol yr un fath ag unrhyw amgylchedd arall; gall gael effaith cadarnhaol a negyddol. Mae dy blentyn angen dy gefnogaeth di i ddysgu am y rhain.
Ymgysylltu â’n plant
Pan fydd rhieni’n ymuno i mewn gyda thechnoleg ddigidol, mae’n helpu plant i ddysgu a chael mwy fyth allan o’u chwarae. Fe fyddan nhw’n elwa o’r sgyrsiau gewch chi a’r amser a dreuliwch ar-lein, gyda’ch gilydd. Bydd chwarae gemau cyfrifiadurol gyda phlant hŷn neu wylio plant iau yn chwarae gyda dyfeisiau a theganau electronig yn dy helpu i ddeall yr hyn y maent yn ei wneud.
Mae siarad yn dda
Mae gwaith ymchwil niwrowyddoniaeth yn dangos bod plant ifanc iawn yn dysgu orau trwy gyfathrebu dwyffordd. Mae datblygiad ieithyddol yn codi o oedolion yn siarad a chwarae gyda’r plant. Mae’n well peidio â rhoi amser llonydd o flaen sgrîn i dy fabi neu blentyn bychan, gan nad yw hyn yn eu helpu i ddysgu eich iaith.
Mae chwarae’n bwysig
Bydd plant yn cael amrywiaeth o ymarfer corff a buddiannau iechyd meddwl sylweddol pan fyddan nhw’n chwarae’n fywiog. Dylai pob diwrnod gynnwys rhywfaint o le ac amser i chwarae heb dechnoleg ddigidol.
Rho amrywiaeth eang o gyfleoedd i dy blentyn chwarae. Gwna’n siŵr bod amserau yn dy gartref ble na fyddwch yn defnyddio technoleg – er enghraifft, amser bwyd ac amser gwely.
Darparu dewisiadau
Mae plant sydd ag amrywiaeth o bethau i’w gwneud a mannau i chwarae, fel arfer, yn well am reoli eu defnydd personol o ddyfeisiau a thechnoleg ddigidol.
Meddylia sut yr wyt ti’n defnyddio technoleg
Os byddi’n cyfyngu ar dy ddefnydd personol o’r sgrîn, ac yn modelu defnydd da a chymedrol o ddyfeisiau ac amser ar-lein o flaen dy blentyn, bydd yn sicr o ddysgu oddi wrthot ti.
Mae goruchwylio’n helpu
- Chwilia am gefnogaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth fudiadau arbenigol, er enghraifft:
- Mae gan yr NSPCC ddulliau defnyddiol i helpu rhieni i gadw’u plant yn ddiogel ar-lein
- Mae Common Sense Media yn adolygu apiau, gemau a rhaglenni, sy’n nodi i ba grwpiau oedran y maent yn addas.
Mae’n iawn i arddegwyr fod ar-lein
Mae perthnasau ar-lein yn rhan bwysig o ddatblygiad arddegwyr. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn helpu plant i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, gwneud cynlluniau gyda nhw, a theimlo mewn cysylltiad.
Dylet annog dy blentyn yn ei arddegau i ddefnyddio ymddygiad priodol ble bynnag y maent, ar-lein ac all-lein hefyd. Gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei wneud ar-lein – mae hynny’n gwbl dderbyniol (waeth beth fyddan nhw’n ei ddweud!) a bydd yn dy helpu i ddeall mwy am y cynnwys a’r sefyllfa.
Gwneud camgymeriadau
Bydd plant, fel oedolion, yn gwneud camgymeriadau wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, yn union fel y bydd pob un ohonom mewn sefyllfaoedd eraill. Os byddi’n gefnogol ac ymdrin â’r sefyllfa mewn modd deallus, galli helpu dy blentyn i ddysgu a datrys problemau.
Os wyt ti’n pryderu am bethau y mae dy blentyn yn eu gwneud ar-lein – er enghraifft, postio lluniau penodol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu decstio negeseuon amhriodol – mae’n werth gwirio’r hyn y maen nhw’n ei wneud all-lein. Mae’n bosibl eu bod yn mentro yno hefyd.