Sut i gefnogi chwarae rhwng plant o wahanol oed

Am chwarae

Sut i gefnogi chwarae rhwng plant o wahanol oed

Mae plant yn cael eu denu’n naturiol i chwarae gyda phlant sy’n hŷn neu’n iau na nhw. Ond fe fyddan nhw’n aml yn treulio llawer o amser gyda phlant o’r un oed mewn sefyllfa gofal plant, ac yn yr ysgol ac mewn clybiau.

Bydd dy blentyn yn mynd trwy wahanol gyfnodau o sut y bydd yn chwarae gyda phobl eraill:

  • Hoff gydymaith chwarae dy fabi fydd ti a phobl gyfarwydd eraill.
  • Efallai y bydd plant ifanc iawn yn chwarae wrth ymyl plentyn arall ond nid yn angenrheidiol gyda’r plentyn.
  • Wrth iddyn nhw dyfu, bydd chwarae dy blentyn yn troi’n fwy cymdeithasol ac yn fwy annibynnol.

Weithiau bydd plant yn mynd am yn ôl yn ogystal ag am ymlaen trwy’r cyfnodau hyn, neu mae’n bosibl y byddan nhw’n aros ar yr un cyfnod am amser maith.

Dysga fwy am sut y bydd blant yn chwarae ar wahanol oedrannau. 

Pam fod chwarae gyda phlant o wahanol oedran yn dda i dy blentyn?

  • Ysgogiad: Gall gweld beth y mae plant eraill yn gallu ei wneud – fel adeiladu tŵr gyda blociau neu fynd ar gefn beic – ysgogi dy blentyn i roi tro ar hyn ei hun.
  • Syniadau newydd: Mae plant yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn casglu syniadau newydd, hyd yn oed pan fyddan nhw ond yn gwylio a gwrando gerllaw. Mae hyn yn rhoi cronfa fwy o syniadau chwarae i dy blentyn.
  • Mwy o ddewisiadau: Bydd y plant yn cael cyfle i chwarae mewn ffyrdd na fydden nhw’n eu cael fel arall – er enghraifft, adeiladu cuddfan allai fod yn rhy anodd ar gyfer plant iau sy’n chwarae gyda phlant o’r un oed.
  • Defnyddioldeb: Weithiau bydd yn dda i dy blentyn chwarae gyda rhywun talach, cryfach, llai neu deneuach na nhw gan y bydd yn gadael iddyn nhw wneud rhywbeth na allen nhw ei wneud fel arall.
  • Gofal: Bydd plant hŷn yn cael cyfle i ddangos gofal a charedigrwydd tuag at blant iau.
  • Creadigrwydd a chydweithrediad: Bydd chwarae’n ymwneud llai ag ennill a cholli pan fydd plant o wahanol oedrannau’n chwarae gyda’i gilydd – yn y mwyafrif o gemau, gallai’r plentyn hŷn ennill bron bob tro, os yw am wneud hynny.

Ble all dy blentyn gael cyfle i chwarae gyda phlant o wahanol oed?

  • Yn dy strydoedd, mewn parciau ac yn y gymuned leol
  • Ar y ffordd i ac o’r ysgol
  • Ar y buarth cyn ac ar ôl ysgol.

Sut alli di helpu i roi mwy o gyfleoedd i dy blentyn chwarae gyda phlant o wahanol oed?

  • Gofyn i ysgol dy blentyn os allan nhw gymysgu grwpiau oedran yn ystod amser chwarae ac ar y buarth chwarae.
  • Gofyn i glybiau dy blentyn os allan nhw greu grwpiau oed cymysg ar gyfer rhai gweithgareddau.
  • Cwrdd â theuluoedd sydd â phlant o wahanol oed er mwyn i’r plant allu chwarae gyda’i gilydd mewn parciau neu strydoedd lleol.
  • Mynd a dy blentyn allan i chwarae mor aml â phosibl ac annog teuluoedd eraill i chwarae’r tu allan hefyd – fe allet ti fynd a chadair blygu neu bicnic bach gyda thi.

Pethau i’w cofio

  • Os caiff plant eu gorfodi i chwarae gyda’i gilydd, mae’n stopio bod yn chwarae.
  • Os bydd plant yn hoffi chwarae gyda’i gilydd am sbel, ’dyw hynny ddim yn golygu y byddan nhw wastad am ddal i chwarae gyda’i gilydd.
  • Os bydd plant o wahanol oed yn chwarae gyda’i gilydd, mae’n normal i blentyn hŷn flino o’r plentyn iau neu deimlo eu bod yn niwsans ambell waith. Ac mae hynny’n wir o safbwynt y plentyn iau hefyd.
  • Os yw plant o wahanol oed wedi bod yn ffrindiau agos ar un adeg, efallai y bydd eu diddordebau’n symud i gyfeiriadau gwahanol yn nes ymlaen.
  • Os yw brodyr a chwiorydd yn gyrru ymlaen yn iawn – a fydd pob brawd a chwaer ddim – mae’n bosibl na fyddan nhw’n cyd-dynnu bob amser.
English