Yr hyn allai dy blentyn neu arddegwr fod yn ei ddweud wrthyt ti trwy ei chwarae

Am chwarae

Yr hyn allai dy blentyn neu arddegwr fod yn ei ddweud wrthyt ti trwy ei chwarae

Mae chwarae’n fath o gyfathrebu. Pan fydd plant a phlant yn eu harddegau’n chwarae, mae’n bosibl y byddan nhw’n:

  • mynegi eu teimladau
  • rhannu gwybodaeth
  • dangos iti’r pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw
  • gweithio allan beth maen nhw’n ei feddwl am sefyllfaoedd a syniadau
  • dy wahodd i chwarae gyda nhw.

Gall chwarae fod yn ffordd i gyfathrebu heb eiriau

Os bydd dy blentyn yn symud ei deganau’n nes atat ti a dechrau dweud beth sy’n digwydd wrthyt ti, mae’n bosibl eu bod yn dy wahodd i ymuno yn y chwarae. Mae’n bosibl hefyd y byddan nhw’n dy wahodd i ymuno yn y chwarae trwy dynnu wyneb rhyfedd, neu trwy daflu pêl atat ti.

Os yw dy blentyn wedi chwarae’r un gêm am amser hir, mae’n bosibl bod hyn yn dangos iti eu bod yn teimlo’n ddiogel a chyfforddus.

Mae plant yn defnyddio chwarae i weithio trwy bethau pwysig am fywyd

  • Mae plant yn defnyddio chwarae i weithio trwy bethau y maen nhw wedi bod yn meddwl amdanyn nhw, neu bethau y maen nhw wedi eu gweld, eu clywed neu eu profi. Fe allai fod yn sefyllfa go iawn sydd wedi digwydd iddyn nhw neu rywun y maen nhw’n eu hadnabod, neu rywbeth y maen nhw wedi clywed amdano trwy ffilm neu stori.
  • Mae chwarae’n ffordd ddiogel i dy blentyn archwilio syniadau a materion pwysig. Gall y rhain gynnwys pethau fel marwolaeth, gwahanu, cyfeillgarwch, grym, rhyw a pherthnasau.
  • Bydd plant yn defnyddio chwarae i weithio pethau allan. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n ailchwarae rhywbeth sydd wedi digwydd a rhoi gwahanol ddiweddglo i’r sefyllfa, gan weld sut fyddai’n teimlo i chwarae allan y peth gwaethaf allai fod wedi digwydd, neu geisio dyfeisio diweddglo gwell. Fe allen nhw chwarae gwahanol rôl yn yr un sefyllfa. Mae’r math yma o chwarae’n iach iawn.

Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus am chwarae dy blentyn?

Weithiau, pan fydd dy blentyn yn chwarae, mae’n bosibl y byddi’n teimlo’n ansicr neu’n anghyfforddus ynghylch eu chwarae. Efallai y bydd yn cynnwys pwnc sy’n gwneud iti deimlo’n ansicr ynghylch sut y dylet ymateb.

Mae’n naturiol inni gael y teimladau hyn weithiau. Gofyn i dy hun beth yn union sy’n dy boeni. Dyma rai enghreifftiau:

  • Ydi o’n rhywbeth sy’n gwneud iti deimlo’n anghyfforddus er bod dy blentyn yn iawn? Er enghraifft, os bydd dy blentyn yn malu bocs cardbord i fynegi teimladau o rwystredigaeth.
  • Ydi o’n rhywbeth sy’n dangos bod gen ti a dy blentyn wahanol bersonoliaeth? Er enghraifft, efallai dy fod ti’n berson naturiol ofalus, ond efallai bod dy blentyn yn anturus.
  • Ydi o’n rhywbeth sy’n croesi ffin o ran yr hyn yr wyt ti’n teimlo sy’n dderbyniol i siarad amdano? Er enghraifft, efallai bod dy blentyn gydag obsesiwn efo pi-pi a pŵ ond efallai i ti gael dy fagu i beidio sôn am hyn.

Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus ond bod dy blentyn yn iawn

  • Ceisia beidio poeni gormod am dy deimladau di.
  • Dal ati i fod yn agored a derbyngar.
  • Cofia gydnabod dy deimladau ond ceisia hefyd beidio eu pasio ymlaen i dy blentyn.
  • Cofia bod chwarae’n ffordd iach i dy blentyn gyfathrebu.

Siarad am bethau

Efallai y bydd rhai mathau o chwarae’n sbarduno sgwrs. Os yw hyn yn digwydd, galli:

  • gydnabod a pharchu teimladau dy blentyn
  • ceisia beidio ymyrryd neu fod yn rhy fusneslyd
  • rho dro ar giwiau caredig fel, ‘Fe sylwais dy fod yn reit ddifrifol wrth chwarae heddiw’. Neu, ‘Roeddet ti i weld yn flin iawn gyda dy ddoli. Oes rhywbeth wedi gwneud iti deimlo felly?’

Dal i boeni?

Os wyt ti’n pryderu sut mae dy blentyn yn chwarae, fe allet ti siarad gydag oedolyn yr wyt ti’n ymddiried ynddyn nhw – fel dy ymwelydd iechyd, meddyg teulu, neu aelod o staff ym meithrinfa neu ysgol dy blentyn.

English