Awgrymiadau anhygoel ar gyfer teithio gyda dy blentyn

Am chwarae

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer teithio gyda dy blentyn

Mae teithio gyda phlant yn gyffrous ac yn hwyl. Gall fod yn gyfle i archwilio mannau newydd a gwneud pethau newydd gyda’ch gilydd.

Ond weithiau, gall teithio achosi llawer o straen. Gall fod yn heriol pan fyddi di a dy blentyn wedi blino, mewn lleoedd newydd, a ddim yn cadw at eich amserlen ddyddiol arferol. Gwneud amser ar gyfer chwarae yw’r ffordd berffaith i leihau straen a’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch taith.

Sut y gall chwarae helpu

Mae chwarae’n ffordd wych i ti a dy blentyn:

  • gael hwyl gyda’ch gilydd
  • dod i adnabod pobl eraill
  • ymlacio
  • defnyddio rhywfaint o egni
  • archwilio lle newydd.

Pethau i roi tro arnyn nhw pan fyddwch yn treulio amser yn rhywle newydd

  • Hola ble mae’r parciau a’r mannau chwarae agosaf.
  • Gofyn i rywun lleol ble mae bryniau, coedydd neu nentydd y gallwch chwarae ynddyn nhw.
  • Ceisia wneud yn siŵr eich bod yn cael ‘amser tawel’ bob dydd – amser pan nad oes fawr o ddim yn digwydd er mwyn i dy blentyn allu ymlacio a gwneud fel y mynnant.
  • Rho ganiatâd i dy blentyn ymuno â phlant eraill sy’n chwarae, er enghraifft mewn mannau fel parciau neu draethau.
  • Cer a phapur, pennau ysgrifennu a phensiliau gyda thi, fel y gallwch dynnu llun, chwarae gemau neu greu awyrennau papur.
  • Chwilia ar-lein am fannau i ymweld â nhw’n rhad ac am ddim – lleoedd fel parciau gwledig, coedwigoedd a chestyll.
  • Cofia adael i dy blentyn wneud rhai o’r pethau y bydd yn eu gwneud gartref – fel chwarae eu hoff gemau, cwtsio gyda’u hoff degan meddal neu jesd ymlacio.
  • Mae’n syniad da i gario un neu ddau degan bychan y gall dy blentyn chwarae gyda nhw os byddwch chi’n sefyllian mewn rhes o bobl neu mewn ystafell aros – fel doliau, anifeiliaid tegan bychain neu geir bach.
  • Paid â theimlo dan bwysau i wneud gormod bob dydd.

Os wyt ti am fwynhau siwrneiau a gwyliau ymlaciol, hwyliog cofia wneud yn siŵr bod amser i chwarae.

English