Amser sgrîn ar gyfer babis a phlant bach

Am chwarae

Amser sgrîn ar gyfer babis a phlant bach

Mae’n ddelfrydol iti ddechrau meddwl am amser sgrîn - a sut yr ydych am ddefnyddio sgriniau yn eich teulu chi - pan mae dy blentyn yn dal yn ifanc iawn.

Mae’n arbennig o bwysig ystyried dy ddefnydd personol o sgriniau, gan y bydd plant yn dynwared arferion eu rhieni’n fuan iawn.

Mae amser sgrîn yn cynnwys amser gaiff ei dreulio’n gwylio’r teledu neu’n defnyddio dyfeisiau fel llechi (tablets), ffonau clyfar, cyfrifiaduron neu ddyfeisiau chwarae gemau. Mae’n cynnwys defnyddio sgriniau adref a phan fyddwch yn mynd allan.

Babis

Er y gall babis fod â chymaint o ddiddordeb mewn sgriniau ac unrhyw un arall, mae llawer o bethau eraill sy’n well ar gyfer eu datblygiad yn ystod y cyfnod hwn - ac maen nhw’n rhad ac am ddim! Maen nhw’n cynnwys:

  • Cyffyrddiad person arall – cael eu dal, eu cofleidio, eu goglais a’u hanwesu
  • Cyfathrebu – cyswllt llygad, gwenu, siarad babi (cŵan a synau dwl syml), rhigymau a hwiangerddi
  • Edrych – syllu o’u hamgylch, ffocysu eu llygaid ar wahanol siapau, wynebau a phellter
  • Cyffwrdd mewn pethau – gyda’u dwylo, eu traed, eu cegau a’u cyrff.

Mae rhai arbenigwyr yn argymell y dylai plant dan ddwy oed osgoi edrych ar sgriniau gymaint â phosibl.

Dyma rai pethau eraill efallai yr hoffai dy fabi edrych arnyn nhw, neu wrando arnynt neu eu cyffwrdd:

  • ti
  • symudion (teganau’n hongian o’r to)
  • y golau a chysgodion
  • yr awyr
  • coed
  • bysedd a bodiau traed
  • llyfrau meddal
  • ratls
  • teganau crensian
  • pethau fel llwyau pren, rhubanau neu allweddi ar fodrwy, sydd i gael o amgylch y cartref
  • cerddoriaeth
  • adar yn canu.

Nodyn: Dylet gymryd gofal gydag eitemau bychain y gallai babi neu blentyn bychan eu rhoi yn eu ceg, gan y gallant achosi i’r plentyn dagu.

Plant bach ac oed meithrin

Gall sgriniau fod yn hwyl ac yn le i ddysgu. Fe allan nhw fod yn dda am gadw plant yn dawel ac yn brysur am gyfnodau hir. Ond mae llawer o wahanol bethau y mae angen i dy blentyn eu gwneud er mwyn datblygu’n iach, felly dylai sgriniau ond bod yn rhan fechan o’u diwrnod.

Er mwyn helpu dy blentyn i ddatblygu’n iach, fe ddylai:

  • chwarae y tu mewn a’r tu allan
  • bod yn egnïol – rhedeg, cerdded, cropian a neidio
  • mwynhau amser pleserus gyda’r bobl sy’n gofalu amdanynt
  • cysgu.

Mynd allan – a pheidio defnyddio sgriniau

Mae pob tro yr ewch chi allan yn gyfle i dy blentyn chwarae a dysgu am y byd. Bydd yn haws iddyn nhw wneud hyn os nad oes sgrîn yn eu llaw.

Dyma ddwy enghraifft:

1. Pan fyddi’n gwthio dy fabi neu blentyn bach yn y pram

  • Gall dy blentyn edrych o gwmpas.
  • Galli sgwrsio gyda dy blentyn.
  • Gallwch ymarfer enwi pethau – fel cath neu fws.
  • Fe all dy blentyn greu cyswllt llygad a gwenu ar bobl eraill - er enghraifft ar y bws.
  • Fe all gysgu

2. Pan ei di i’r archfarchnad gyda dy fabi neu blentyn bach

  • Galli enwi pethau wrth iti eu codi.
  • Galli roi cyfarwyddiadau syml i dy blentyn fel ‘Alli di ddewis oren neis?’
  • Gallwch wneud penderfyniadau syml gyda’ch gilydd fel ‘Ydan ni am ddewis bananas neu afalau heddiw?’
  • Fe all dy blentyn greu cyswllt llygad gyda phobl eraill.

Mae pobl yn dueddol o ymateb i fabis a phlant bach trwy gŵan, gwenu a thynnu wynebau doniol – hyd yn oed pan mae’r plant braidd yn ddi-hwyl! Os na fydd oedolion yn ymateb mewn modd cadarnhaol i dy blentyn, cofia fod gan dy blentyn gymaint o hawl i fod allan yn y byd â phobl mewn oed.

Edrych ar ein tudalen Syniadau chwarae – pethau i’w gwneud am fwy o awgrymiadau chwarae.

English