Am chwarae
Cael plant pob eraill draw i’r tŷ i chwarae
Mae mynd i dai pobl eraill yn rhywbeth y bydd llawer o blant ac arddegwyr yn ei wneud. Mae’n eu helpu i sylweddoli nad yw pob teulu’r un fath. Mae’n eu helpu hefyd i ddysgu i addasu i wahanol sefyllfaoedd cymdeithasol.
Mae rhai plant yn mwynhau cael plant eraill draw i chwarae ond ’dyw pob plentyn ddim. I rai, mae rhannu eu gofod a’u pethau, neu deimlo’n gyfrifol am ymwelwyr, yn gallu peri straen.
Gall fod yn eithaf anodd hefyd i rieni wybod faint i fusnesa a sut i reoli ymddygiad pan fydd plant neu blant yn eu harddegau pobl eraill yn eich tŷ chi.
Faint o oruchwyliaeth mae plant ei angen?
Bydd lefel yr oruchwyliaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar oed a chyfnod datblygiad y plant.
- Mae plant ifanc angen oedolyn yn bresennol i’w cadw’n ddiogel.
- Wrth i’r plant dyfu’n hŷn, efallai y byddi’n penderfynu ei bod hi’n iawn iddyn nhw chwarae heb iti gadw llygad barcud arnyn nhw, cyn belled â dy fod yn gallu eu gweld a’u clywed.
- Efallai mai’r cam nesaf fyddai gadael iddyn nhw chwarae heb oruchwyliaeth, cyn belled â’u bod yn dweud wrthyt ti ble maen nhw a phryd fyddan nhw’n ôl.
Oes angen iti ddarparu gweithgareddau ar gyfer y plant?
- Ar gyfer plant ifanc, efallai y bydd angen iti drefnu rhywfaint o bethau chwarae a gweithgareddau fel crefftau, coginio neu gemau.
- Wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn, galli annog dy blentyn i feddwl beth fydden nhw’n hoffi ei wneud a’u cael i baratoi rhywfaint o bethau eu hunain.
- Mae plant yn eu harddegau’n fwyaf tebygol o fod eisiau gofod ble gallan nhw wneud fel y mynnant, gyda digon o ddiodydd a phethau i’w bwyta.
Dyma gwpwl o bethau sy’n iawn iti eu gwneud.
- Mae’n iawn amlinellu rhywfaint o reolau sylfaenol am yr hyn yr wyt ti’n ei ddisgwyl. Er enghraifft, efallai bod rhai ystafelloedd nad wyt ti am i’r plant chwarae ynddyn nhw, neu bethau yr hoffet iddyn nhw gymryd gofal o’u cwmpas. Mae’n helpu’r plant i gael gwybod hyn o’r cychwyn.
- Mae’n iawn glynu at dy ddisgwyliadau arferol o ran ymddygiad. Er enghraifft, os na fyddet ti’n caniatáu i dy blentyn neidio ar y dodrefn neu adael i dy blentyn yn ei arddegau regi fel arfer, mae’n iawn iti ddweud hynny.
- Mae’n iawn dweud ‘na’ wrth blentyn rhywun arall, er enghraifft dweud ‘na’ i ragor o felysion neu ffilm arall.
- Mae’n iawn hefyd defnyddio dy synnwyr cyffredin ynghylch llacio rhywfaint ar dy reolau arferol.
Beth alli di ei wneud os nad yw pethau’n mynd fel yr oeddet wedi bwriadu?
Dyma rai enghreifftiau o bethau sydd wedi digwydd i bron bob rhiant ar ryw adeg, a rhywfaint o syniadau ynghylch sut i ddelio â’r sefyllfa.
Mae dy blentyn yn gwrthod rhannu ei deganau ac mae’n ddig bod pobl eraill yn ei ofod e / hi.
- Derbyn bod hyn yn rhan arferol o ddatblygu a bod dy blentyn yn dal i ddysgu – dydyn nhw ddim yn camymddwyn.
- Cynnig rywbeth rhwydd fel chwarae gêm newydd.
- Rho dasg i dy blentyn ei rheoli, fel pasio rhywbeth i bawb ei fwyta.
- Rho gyfle i dy blentyn ddatblygu ei hyder gydag ymweliadau byr a dim ond un neu ddau ffrind ar y tro.
Mae plentyn sydd wedi dod i ymweld yn dechrau crïo gwpwl o eiliadau cyn i rywun ddod i’w nôl neu fynd â nhw adref.
- Paid â chynhyrfu. Efallai y byddi’n teimlo’n chwithig ond mae’n digwydd i bawb a ’does neb ar fai.
- Cofia y gall fod yn arwydd bod y plentyn wedi cael amser da, ond eu bod wedi blino neu’n barod i fynd adref.
- Meddwl am weithgaredd tawel braf y gallwch ei mwynhau, fel darllen stori neu glirio’r teganau.
Mae’r plant yn dechrau chwarae gêm nad wyt ti’n siŵr y byddai rhieni eraill yn ei chaniatáu.
Gallai hyn gynnwys pethau fel chwarae gwyllt corfforol neu chwarae poitshlyd.
- Defnyddia dy synnwyr cyffredin – meddwl beth fyddi’n di’n ei ganiatáu yn tŷ chi fel arfer.
- Cofia fod gan wahanol fathau o chwarae fuddiannau i blant. Er enghraifft, mae chwarae gwyllt corfforol yn ffordd o ffurfio cyfeillgarwch a datblygu nifer o sgiliau pwysig, fel dysgu i ymddiried mewn pobl eraill a dysgu am dy gryfder dy hun.
- Gwna’n siŵr bod y plant yn chwarae mewn gofod sy’n briodol ar gyfer y math hwn o chwarae. Os na, galli un ai symud y plant neu symud unrhyw beth allai fod yn beryglus, neu sy’n werthfawr, o’r ffordd.
’Dwyt ti ddim yn hapus iawn gyda sut mae dy blentyn a’i ffrindiau’n ymddwyn.
- Bydd yn garedig – mae’r plant yn dysgu sut i ymdopi â gwahanol ddisgwyliadau a sefyllfaoedd cymdeithasol, felly fyddan nhw ddim yn cael pethau’n iawn bob tro.
- Ceisia siarad gyda dy blentyn ar ei ben ei hun, yn lle creu embaras iddo o flaen y lleill.
- Ceisia fodelu’r ymddygiad fyddai’n well gennyt ti - er enghraifft, siarad yn dawelach, bod yn fwy addfwyn, gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i ymuno.
- Aros am ddiod neu rywbeth i’w fwyta gyda nhw, a chael sgwrs am yr hyn hoffai pawb ei wneud nesaf. Mae hwn yn gyfle da i gael sgwrs dawel am ymddygiad.
Cei hyd i fwy o syniadau am chwarae adref ar ein tudalennau am guddfannau, chwarae poitshlyd a chwarae yn y cartref.