Am chwarae
Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus
Paratoi dy blentyn i fod yn ddiogel ar y ffyrdd
Galli baratoi dy blentyn i gerdded a beicio’n annibynnol trwy egluro a dangos iddyn nhw, o oedran ifanc, sut y gallan nhw gadw’u hunain yn ddiogel ar ac o amgylch ffyrdd.
Helpu dy blentyn i ddod i adnabod eich cymdogaeth
Galli gerdded a beicio gyda dy blentyn yn dy ardal leol. Dylet eu helpu i ddynodi llwybrau diogel i gyrraedd mannau chwarae a llefydd eraill y byddant angen mynd iddyn nhw.
Creu cytundeb gyda dy blentyn
Unwaith bod dy blentyn yn ddigon hyderus i deithio o amgylch a chwarae allan hebot ti, galli gytuno gyda nhw ble maen nhw’n mynd i chwarae ac am ba hyd y byddan nhw allan. Mae’n ddefnyddiol os yw dy blentyn yn gallu dweud yr amser, os yw’n adnabod y gymdogaeth, ac os yw’n gallu cofio eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn hefyd.
Cadw dy bryderon mewn persbectif
Ceisia fod yn realistig am dy ofnau ynghylch diogelwch dy blentyn. I’r mwyafrif o bobl yn y mwyafrif o ardaloedd, mae buddiannau chwarae’r tu allan yn llawer mwy na’r risgiau.
Mabwysiadu agwedd gymunedol tuag at chwarae
Ceisia ddod i adnabod y bobl leol – cymdogion a theuluoedd eraill – a chytuno i gadw llygad ar y plant yn dy gymdogaeth. Bydd y plant yn fwy diogel os bydd mwy ohonyn nhw’n chwarae’r tu allan.