Syniadau chwarae
Anturiaethau chwarae bob dydd
Annog dy blentyn i chwarae’r tu allan
Mae pob plentyn yn elwa o gael cyfle i chwarae’r tu allan. ’Does dim rhaid iti wario arian ar weithgareddau costus na theithio milltiroedd i faes chwarae penodol – gall pawb ddarparu cyfleoedd rhad yn eu cymunedau eu hunain. Dyma rai syniadau syml i dy helpu i wneud chwarae’n rhan o dyamserlen ddyddiol:
Gwneud y daith yn hwyl
Os ydych chi’n mynd allan yn lleol, gadewch y car adref a chwarae wrth gerdded. Ewch ag esgidiau rholio, sgwteri neu sglefrfyrddau gyda chi. Meddyliwch am gemau y gallwch eu chwarae ar y ffordd. Mae dy blentyn yn fwy tebygol o chwarae pan mae gyda’i ffrindiau, felly, beth am wahodd ffrindiau i ddod gyda chi hefyd?
Gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael
Bydd plant yn chwarae’n naturiol ble bynnag y maen nhw – fyddan nhw ddim angen maes chwarae bob tro. Mae cymuned pawb yn wahanol ond mae’n siŵr bod mannau ble y gellir chwarae yn dy ardal. Os ydych chi’n byw ar lan y môr, gallwch adeiladu cestyll tywod ar y traeth. Os ydych chi’n byw ger parc, ewch â phicnic neu dringwch goeden. Os oes gennych ardd, adeiladwch guddfan yno.
Ewch allan, boed law neu hindda
Bydd dy blentyn eisiau chwarae waeth beth fo’r tywydd, felly paid ag osgoi mynd allan oherwydd ei bod hi’n bwrw glaw. Byddwch yn barod: gwisgwch welintons a chotiau glaw, ewch ag ambaréls, a bod yn barod i neidio mewn pyllau dŵr!
Cynnig teganau ‘egnïol’
Mae teganau traddodiadol fel cylchau hwla, rhaffau sgipio a ‘space hoppers’ yn dal i fod yn boblogaidd gyda phlant. Maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer chwarae yn yr ardd, neu’r tu allan ar y palmant yn agos i’ch cartref.
Cofia annog anturiau
Mae plant angen cael anturiau’r tu allan, hyd yn oed os yw hynny’n golygu cael ambell i glais a briw. Cofia adael i dy blentyn fwynhau heriau corfforol fel dringo coed. Bydd plant yn dysgu trwy gymryd risg, felly paid â bod yn orwarchodol os mai’r gwaethaf all ddigwydd yw cnoc neu grafiad.
Cofia rannu dy atgofion
Meddylia am y mathau o gemau bywiog yr oeddet ti’n arfer eu chwarae pan oeddet ti’n blentyn – ‘tic’, rownderi neu lam llyffant. Dwed wrth dy blentyn am y gemau yr oeddet ti’n arfer eu chwarae ac yna eu chwarae gyda’ch gilydd. Efallai yr hoffai taid a nain neu mam-gu a tad-cu ymuno yn yr hwyl hefyd, gan rannu’r gemau yr oedden nhw’n arfer eu chwarae pan oedden nhw’n ifanc.
Arwain trwy esiampl
Paid â bod ofn ymuno yn yr hwyl a chwarae’r tu allan gyda dy blentyn. Fyddwn ni fyth yn rhy hen i chwarae, ac mae chwarae gemau egnïol yn ffordd hwyliog o wneud ymarfer corff yn rhan o dy amserlen ddyddiol.
Creu ymdeimlad cymunedol
Ymuna gyda rhieni a chymdogion eraill i ddarparu gofod diogel i blant chwarae’r tu allan. Gallai hyn gynnwys lonydd rhwng cartrefi, llecyn gwyrdd ar ben eich stryd neu eich parc lleol. Gall y plant ddod â’u sgwteri, pêl-droed, rhaffau sgipio, sialc … a gall yr oedolion ddod â phaned!
Gwneud dy gartref yn fan gwych i chwarae
Mae dy gartref yn lle gwych i chwarae, yn enwedig pan fo’r tywydd yn stormus neu pan mae’n rhy dywyll i fod allan. Os yw dy blentyn yn cael rhyddid i chwarae – gyda ffrindiau, teganau neu ddim ond dameidiach cyffredin – bydd yn gwneud defnydd creadigol o ofod bychan, fel cornel ystafell hyd yn oed.
Mae llawer o syniadau hwyliog sydd ddim yn galw am lawer o le - er enghraifft, hen ffefrynnau fel chwarae cuddio neu adeiladu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Waeth beth fo’u hoed, bydd dy blentyn angen lle i chwarae’r tu mewn. Mae chwarae gwyllt yn rhan bwysig o sut y bydd plant yn chwarae, felly ceisia wneud hyn yn bosibl adref.
Gellir defnyddio pethau cyffredin o gwmpas y cartref ar gyfer chwarae:
- Mae clustogau’n gwneud cerrig sarn gwych
- Mae blanced dros fwrdd yn creu cuddfan sydyn
- Gellir troi bocsys cardbord gwag yn geir, yn gestyll neu hyd yn oed yn llongau gofod.
Ceisia droi tasgau bob dydd yn gemau a heriau. Er enghraifft, pwy all gasglu’r mwyaf o chwyn o’r lawnt (a dod o hyd i fwydod ar yr un pryd)?