Chwarae yn y gymuned
Cynnwys plant ac arddegwyr yn dy ymgyrch chwarae
Os wyt ti’n ymgyrchu dros rywbeth sy’n effeithio ar blant ac arddegwyr – fel chwarae – fe ddylen nhw gael cyfle i gael eu cynnwys yn iawn.
Mae gan blant ac arddegwyr hawl i gael eu clywed
Mae gan blant ac arddegwyr hawl i fynegi eu barn ar bethau sy’n ymwneud â nhw. Weithiau, mae’n bosibl y byddan nhw angen ein cymorth ni i’w helpu i wneud hyn. Gallai hyn gynnwys:
- rhoi anogaeth
- defnyddio llawer o ffyrdd gweledol a chelfyddydol i’w helpu i fynegi eu barn
- croesawu syniadau creadigol
- gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael mewn fformat ymarferol – er enghraifft, mewn Cymraeg plaen, ieithoedd y gymuned, ffontiau darllenadwy i bobl ddyslecsig, defnyddio delweddau yn ogystal â thestun
- gwneud yr amgylchedd ffisegol yn gyfforddus a chroesawus
- gwneud yn siŵr bod y modd y byddwch yn helpu’n briodol ar gyfer eu hoedran a’u gallu
- gwneud pethau ar amser addas
- darparu cymorth ymarferol, fel cludiant neu docyn bws.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud ei bod yn bwysig bod plant ac arddegwyr yn cael cyfle i fod yn rhan o ddatblygu cynlluniau ar gyfer chwarae a dylunio gwasanaethau chwarae. Gallai hyn gynnwys:
- polisïau ar chwarae
- dylunio cymunedau ac amgylcheddau plant-gyfeillgar
- parciau a chyfleusterau lleol eraill
- cynllunio trefi a dinasoedd
- deddfau ar addysg, ysgolion a’r cwricwlwm
- deddfau ar waith plant.
Argymhellion anhygoel ar gyfer cynnwys plant ac arddegwyr
- Cofiwch gynnwys plant ac arddegwyr o’r cychwyn cyntaf.
- Gwrandewch ar eu safbwyntiau a’u syniadau.
- Cofiwch na fydd gan bob un ohonynt yr un safbwyntiau.
- Rhowch ddigon o wybodaeth ac amser iddyn nhw ddewis os ydyn nhw am gymryd rhan.
- Meddyliwch am wahanol ffyrdd y gall y plant chwarae rhan.
- Gwnewch y broses yn ddiogel – cofia wneud yn siŵr dy fod yn croesawu gwahanol safbwyntiau a gwahanol ffyrdd o fynegi eich hun. Cofiwch greu cytundeb ar faterion fel cyfrinachedd a pharchu eich gilydd.
- Ceisia ei wneud yn hwyl – ’does dim angen iddyn nhw gael eu cynnwys mewn cyfarfodydd hir a diflas.
- Cofia wneud yn siŵr ei bod yn bosibl i bob plentyn allai fod â diddordeb i ymuno yn yr ymgyrch.
- Cofia ddarparu gwybodaeth sy’n glir ac sy’n ystyried eu hoedran a’u gallu.
- Gwna’r mwyaf o’u brwdfrydedd, egni a chreadigedd.
- Cofia eu diweddaru am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn y byddwch yn ei gyflawni.
- Cofia ofyn am ganiatâd cyn defnyddio eu geiriau, eu delweddau neu eu lluniau – hyd yn oed os yw eu rhieni wedi rhoi caniatâd eisoes.
Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
Yng Nghymru mae gennym saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc. Galli eu defnyddio i sicrhau bod plant ac arddegwyr yn cael y profiad gorau posibl.