Chwarae yn y gymuned
Ymgyrchu dros chwarae yn dy ardal leol
Efallai dy fod eisiau mwy o gyfleoedd – neu gyfleoedd gwell – i blant chwarae yn dy ardal leol, er enghraifft:
- Creu gofodau chwarae newydd ar gyfer pob plentyn
- Adnewyddu neu wella gofodau chwarae sy’n bodoli eisoes
- Cyflwyno camau tawelu traffig
- Cau strydoedd er mwyn caniatáu i blant chwarae arnynt
- Tynnu arwyddion ‘dim gemau peli’ i lawr
- Perswadio perchnogion cŵn i gymryd mwy o gyfrifoldeb am faw cŵn
- Newid agweddau oedolion tuag at weld plant a phlant yn eu harddegau’n chwarae allan yn y gymuned
- Cadw parc neu wasanaeth chwarae’n agored.
Sut i ymgyrchu dros chwarae
Waeth os wyt ti am wella’r cyfleoedd chwarae’n lleol ar gyfer dy blentyn dy hun neu ar gyfer pob plentyn lleol, mae llawer o wahanol ffyrdd y galli ymgyrchu. Gallai’r rhain gynnwys ymgyrchoedd yn y cyfryngau, cyfarfodydd, ymchwilio a chynnal arolygon.
Bydd rhai materion yn gyflym a rhwydd i ddelio â nhw, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser ac yn galw am ddyfalbarhad.
Bydd angen i bob ymgyrch gychwyn gyda chynllun. Dyma’r pethau y dylet feddwl amdanynt:
Beth wyt ti’n gobeithio ei newid neu ei wella?
Alli di grynhoi hyn mewn brawddeg fer, eglur? Er enghraifft:
- ’Dyw fy merch ddim yn gallu chwarae gyda’i ffrindiau oherwydd tydi fy ardal chwarae leol ddim yn hygyrch i gadair olwyn. Rydyn ni angen man chwarae cynhwysol.
- Allwn ni ddim gadael i’n plant chwarae yn y parc oherwydd bod baw cŵn ym mhobman. Berchnogion cŵn: rydyn ni angen ichi glirio ar ôl eich cŵn.
Pwy sydd angen iti eu perswadio i wneud rhywbeth yn wahanol?
Pwy sydd â’r cyfrifoldeb a’r awdurdod i wneud y newid yr wyt yn gobeithio amdano? Mae’n bosibl y bydd yn fwy nag un person neu grŵp, er enghraifft:
- Y gymuned leol
- Perchnogion cŵn
- Tirfeddiannwr
- Cymdeithas dai
- Cynghorwyr lleol
- Sylfaenydd prosiect.
Beth wnaiff ddylanwadu ar eu penderfyniad?
Caiff pobl eu dylanwadu gan wahanol bethau, felly meddylia am dy fater penodol di o’u safbwynt nhw. Beth wnaiff eu perswadio i ddod i’r penderfyniad yr wyt ti’n gobeithio amdano? Er enghraifft:
- Tystiolaeth yn cynnwys straeon personol, a ffeithiau a ffigurau
- Cyhoeddusrwydd (da neu ddrwg)
- Cyfle i deimlo neu edrych yn dda
- Cyfle i wneud y peth iawn
- Cyfle i wneud rhywbeth y maen nhw’n credu ynddo eisoes?
Sut wyt ti am dynnu eu sylw nhw at yr hyn sydd angen ei newid neu ei wella?
Dylet greu dwy restr:
Y pethau yr wyt eu hangen i ddadlau dy achos. Er enghraifft:
- cynnal cyfarfodydd
- ysgrifennu llythyrau
- cynnal digwyddiadau
- defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
- gweithio gyda’r cyfryngau.
Y bobl allai dy helpu. Er enghraifft:
- papurau newydd a chylchgronau lleol
- elusennau neu fudiadau gwirfoddol lleol sydd â diddordebau tebyg
- aelodau o’r cyhoedd
- gwleidyddion lleol
- pwysigion a sêr lleol.
Dysga fwy am sut y galli ymgyrchu dros chwarae plant yn dy gymuned leol [link to Gwahanol ffyrdd i ymgyrchu dros chwarae plant yn dy gymuned page]