Ymuno yn chwarae dy blentyn

Am chwarae

Ymuno yn chwarae dy blentyn

Pan fydd dy blentyn yn chwarae, un o’r dewisiadau y bydd yn eu gwneud yw os yw am chwarae gyda rhywun arall. Efallai bod yn well gan dy blentyn chwarae ar ei ben ei hun, neu mewn grŵp bychan, neu gyda llawer o blant. Mae’n bosibl y bydd hyn yn newid o dro i dro.

Weithiau, bydd dy blentyn wrth ei fodd yn gofyn iti ymuno yn ei chwarae. Ar adegau eraill, fyddan nhw ddim dy angen o gwbl.

Yn gyffredinol, bydd dy blentyn angen adegau pryd y gall ddewis chwarae mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft:

  • chwarae ar eu pen eu hunain
  • chwarae gyda phlant eraill ond heb dy gynnwys di
  • chwarae gyda thi.

Rhai o’r pethau gorau am chwarae gyda’ch gilydd yw cael hwyl a mwynhau treulio amser gyda’ch gilydd.

Sut fyddi di’n gwybod pan nad yw dy blentyn angen iti chwarae gyda nhw?

Yn gyffredinol, fydd dim angen iti ymyrryd os yw dy blentyn yn chwarae’n hapus ac i’w weld wedi ymgolli yn yr hyn maen ei wneud. Bydd plant yn elwa o chwarae’n annibynnol rywfaint o’r amser.

Sut fyddi di’n gwybod pan hoffai dy blentyn iti chwarae gyda nhw?

Mae gan blant wahanol ffyrdd o wahodd pobl i chwarae gyda nhw. Weithiau, fe fyddan nhw’n defnyddio cliwiau yn hytrach na rhoi gwahoddiad syml. Gallai dy blentyn:

  • Ofyn ‘Alli di chwarae efo fi?’
  • Dechrau gwneud pethau doniol neu dynnu wynebau doniol i dynnu dy sylw.
  • Dechrau dy blagio er mwyn tynnu dy sylw.
  • Taflu pêl neu degan i ti ei ddal.
  • Cyffwrdd ynot ti a rhedeg i ffwrdd er mwyn cychwyn gêm gwrso. 

Sut alli di benderfynu os wyt ti angen ymyrryd os nad yw dy blentyn wedi gofyn iti?

Weithiau, efallai y byddi’n teimlo y byddai’n syniad da iti ymuno am ychydig ac yna gadael iddyn nhw chwarae – er enghraifft:

  • Os yw hi’n ymddangos bod dy blentyn yn sownd neu’n teimlo’n rhwystredig.
  • Os yw dy blentyn mewn perygl o anafu ei hun neu rywun arall.
  • Os yw plant mewn grŵp yn trin ei gilydd yn angharedig neu’n annheg.

Yn y sefyllfaoedd hyn bydd angen iti ddefnyddio dy synnwyr cyffredin i benderfynu os wyt ti am ymyrryd. Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • Allai dy blentyn weithio’r broblem allan drosto’i hun os byddai’n cael mwy o amser?
  • Faint o berygl sydd yna? Ydi pethau mor ddifrifol fel bod angen iti ymyrryd ar unwaith? Neu ai’r cyfan sy’n debyg o ddigwydd yw cnoc neu glais?
  • Fydd dy blentyn – neu’r plant – yn sylweddoli bod rhywbeth o’i le gyda’u hymddygiad os rhoddir cyfle iddyn nhw weithio pethau allan drostynt eu hunain?

Beth alli di ei wneud i dy helpu i benderfynu?

  • Aros yn y cefndir er mwyn iti allu gwylio a gwrando ar yr hyn sy’n digwydd. Fe wnaiff hyn dy helpu i benderfynu beth i’w wneud.
  • Dod gam yn nes er mwyn i dy blentyn sylwi arnat ti. Gall dim ond gwybod dy fod yno newid y ffordd y mae dy blentyn yn chwarae.
  • Gwylio a gwrando am arwydd bod dy blentyn yn gofyn iti ymyrryd.
  • Gofyn cwestiwn neu ddau i helpu dy blentyn i symud heibio’r anhawster. Er enghraifft, ‘Ysgwn i beth allet ti ei wneud am hynna?’
  • Ymuno yn y chwarae er mwyn iti allu cynnig rhywfaint o gefnogaeth mewn ffordd chwareus.

Chwarae gyda’ch gilydd

Yn ogystal ag ymuno yn chwarae dy blentyn, efallai y gwnei sylweddoli hefyd ei bod yn gweithio’n dda i gael amserau chwarae teulu rheolaidd ar gyfer y teulu cyfan. Gall bywyd fod yn brysur, felly gall neilltuo amser yn amserlen y teulu helpu i wneud yn siŵr fod gennych amser ar gyfer chwarae. Gall fod yn rhywbeth y bydd pawb yn edrych ymlaen ato a helpu i’w gynllunio.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Noson chwaraeon. Dewis un noson yr wythnos i ti a dy blentyn chwarae gemau bwrdd gyda’ch gilydd. Fe allet ti drefnu danteithion fel smwddis neu bopcorn.
  • Gemau awyr agored. Gwna drefniadau gyda chwpwl o deuluoedd eraill i ddod at eich gilydd yn rheolaidd i chwarae gemau yn y stryd neu yn eich parc lleol. Rhowch dro ar gemau fel rownderi, frisbee neu tic.
  • Sesiynau celf a chrefft. Casglwch fag yn llawn deunyddiau celf a chrefft arbennig a chynnal sesiwn celf hwyliog. Cliriwch bopeth o’r ffordd, diffodd pob sgrîn a mynd ati i greu.
  • Nosweithiau ‘Ti’n chwarae, ti’n dewis’. Rhowch dro i bawb yn y teulu i fod yn gyfrifol am ddewis gweithgaredd chwarae i bawb ymuno ynddi.
English