Am chwarae
Mannau i chwarae
Bydd plant yn chwarae ble bynnag y maen nhw – ond mae’n beth da i rieni feddwl am y mathau o fannau ble y gall plant ac arddegwyr yn chwarae a chwrdd yn ein cymunedau. Gall gwneud hyn ein helpu i gynllunio sut i annog – neu weithiau, beidio â chefnogi – chwarae mewn mannau penodol.
Mae’n bwysig i oedolion gofio bod plant ac arddegwyr yn aelodau o’n cymunedau hefyd. Mae ganddyn nhw gymaint o hawl â ni i gael mannau y gallant fynd iddyn nhw.
Mae darparu mannau fel ardaloedd chwarae a mannau cyfarfod i ieuenctid yn bwysig, ond mae angen inni gydnabod y gall plant a phlant yn eu harddegau ddewis mannau eraill i gwrdd a chwarae hefyd.
Pam fod plant yn hoffi chwarae mewn mannau penodol?
Pan ofynnwn ni iddyn nhw, bydd plant ac arddegwyr yn rhoi llawer o resymau dros ddewis ble y byddan nhw’n chwarae a chwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Mae pethau i’w gwneud yno.
- Mae mannau i eistedd, pethau i bwyso’n eu herbyn a bod yn gyfforddus.
- Mae siopau, cartrefi a mannau eraill gydag oedolion wrth law, felly mae help oedolion ar gael os oes angen.
- Maen nhw mewn lleoliad da. Er enghraifft, bydd mannau ble bydd plant eraill yn treulio eu hamser, neu’n debygol o basio heibio, yn cael mwy o ddefnydd.
- Mae pethau i chwarae gyda nhw.
- Mae plant eraill i chwarae gyda nhw.
Ble fydd plant yn dewis chwarae?
Ardaloedd chwarae
Mae’r rhain, yn aml, yn cael eu defnyddio gan blant o bob oed. Os bydd arddewgwyr yno, bydd angen inni feddwl pam hynny. A oes rhywle arall iddyn nhw fynd? Ai’r rheswm yw bod yr ardal chwarae mewn lleoliad da?
Mannau agored
Bydd parciau, caeau pêl-droed a mannau hamdden yn cael eu defnyddio’n aml i chware. Ond os yw’r mannau hyn yn cael eu defnyddio hefyd ar gyfer cerdded cŵn, gallai baw cŵn fod yn broblem, a’u gwneud yn anaddas neu olygu na fydd plant am chwarae yno.
Ysgolion
Mae amser chwarae yn yr ysgol yn gyfle da i blant fod allan yn chwarae gyda’i gilydd. Gall cymunedau lleol weithio gydag ysgolion yn eu hardal i helpu i wneud amserau chwarae mor gyfoethog a chyffrous â phosibl.
Strydoedd preswyl
Os yw plant yn byw ar strydoedd tawel y rhain, yn aml, yw’r mannau cyntaf y byddan nhw’n chwarae’r tu allan i’w cartrefi. Mae’n golygu y bydd hi’n hawdd i’w goruchwylio a’u bod yn agos i gartref os byddan nhw angen help. Oes pethau y gallwn eu gwneud sy’n golygu y bydd hi’n fwy diogel i blant chwarae’r tu allan?
Yn y cartref a’r ardd
Fydd chwarae ddim yn digwydd allan yn y gymuned bob amser. Mae ein cartrefi a’n gerddi’n fannau pwysig i’n plant chwarae hefyd.
Mannau naturiol
Mae mannau fel coedwigoedd, traethau, gerddi cymunedol ac afonydd yn wych ar gyfer chwarae plant. Fydd plant ddim angen offer arbennig yno – fe allan nhw gael llawer allan o chwarae gyda’r hyn sydd yno’n naturiol. Os yw’r mannau hyn ar gael yn y gymuned, sut allwn ni wneud yn siŵr eu bod yn dda i blant chwarae ynddyn nhw?
Siopau / o amgylch y dref
Yn aml, bydd plant ac arddegwyr yn dewis chwarae a chwrdd yn y dref neu’r tu allan i siopau lleol. Maen nhw’n fannau cyfarfod da, a gall y plant brynu bwyd a gwylio pobl eraill, gan wybod bod help oedolion wrth law os oes angen. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod hwn yn opsiwn da ar gyfer plant ac arddegwyr?