Amser i chwarae

Am chwarae

Amser i chwarae

’Does dim rhaid i’r agwedd yr ydym yn ei hargymell ar gyfer helpu dy blentyn i gael y gorau o’u hamser rhydd gostio ceiniog - mae’n ymwneud â rhoi amser iddyn nhw chwarae.

Bydd chwarae gyda’u ffrindiau yn sicrhau llu o fuddiannau cadarnhaol i dy blentyn. ’Does dim angen iti lanw eu bywydau â gweithgareddau eraill, costus. Pan ofynnwn ni iddyn nhw, bydd y plant yn dweud eu bod eisiau mwy o amser i chwarae gyda’u ffrindiau a mannau da ble y gallan nhw chwarae’r tu allan.

Dyma ein hawgrymiadau anhygoel i dy helpu i wneud amser i dy blentyn chwarae:

Amser o safon

Mae gan blant ac oedolion syniad gwahanol am yr hyn y mae ‘amser o safon’ yn ei olygu. Mae dy blentyn angen amser i chwarae ac maent eisiau gwybod dy fod ti wrth law os bydd angen.

Blaenoriaethu amser ar gyfer chwarae

Mae chwarae’n bwysig iawn ar gyfer dysg plant, a’u hiechyd emosiynol a chorfforol. Mae’r un mor bwysig â gwersi, gwaith cartref neu ymarfer pêl-droed – a dyma fydd y plant yn ei ddweud wrthym, fel arfer, y maent am ei wneud.

Amser allan

Mae plant eisiau bod y tu allan. Bydd yr amser y bydd dy blentyn yn ei dreulio’r tu allan mewn amgylcheddau naturiol gyda’u ffrindiau’n costio’r nesaf peth i ddim.

Amser o flaen y sgrîn

Mae’n bwysig iti annog dy blentyn i fynd allan i chwarae. Gyda rhai plant bydd yn hanfodol iti gyfyngu ar eu hamser o flaen y sgrîn gan na allan nhw wneud hynny drostynt eu hunain efallai – mae ymchwil yn awgrymu y gall amser sgrîn fod yn gaethiwus.

Amser i ymlacio

Os wyt ti’n poeni am ddiogelwch dy blentyn, chwilia am ffordd i gadw llygad arnyn nhw. Eistedda yn rhywle gerllaw, cer â phapur newydd a phicnic gyda thi, a gadael iddyn nhw chwarae yn eu ffordd eu hunain tra dy fod ti’n ymlacio.

Mynd yn ôl mewn amser

Am ganrifoedd lawer, mae plant wedi bod wrth eu bodd yn padlo mewn nentydd, yn chwarae gemau corfforol gwyllt, yn adeiladu cuddfannau yn y coed, yn chwarae gwirion mewn mwd ac yn y glaw, ac yn creu tai tylwyth teg o fwsogl a dail. Mae’r gweithgareddau hyn yn werthfawr a bythol, ac maen nhw’n rhad ac am ddim. Dangos i dy blentyn ei bod hi’n iawn inni faeddu, adeiladu argae, neu gasglu mwyar duon a’u bwyta.

Amser i fod yn rhad a rhadlon

Mae llawer o ddewisiadau rhad neu am ddim i ‘weithgareddau gwyliau’ ac i gemau a theganau drud – cysyllta gyda’r tîm chwarae yn dy gyngor lleol am fwy o wybodaeth.

English