Sut mae chwarae yn paratoi plant ar gyfer yr ysgol feithrin a’r ysgol

Am chwarae

Sut mae chwarae yn paratoi plant ar gyfer yr ysgol feithrin a’r ysgol

Pan mae plant ifanc yn chwarae, maen nhw’n teimlo’n hapus ac mae eu cyrff a’u hymennydd yn datblygu. Mae chwarae’n helpu dy blentyn i gadw’n iach. Mae hefyd yn creu sail wych ar gyfer eu dysg a’u hymddygiad i’r dyfodol.

Chwarae yw’r cyngor gorau ar gyfer helpu dy blentyn i baratoi ar gyfer mynd i’r ysgol feithrin a’r ysgol – gad iddyn nhw chwarae, chwarae a chwarae mwy.

Sut mae ymennydd dy blentyn yn datblygu

Yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd dy blentyn, bydd eu hymennydd yn datblygu trwy greu cysylltiadau’n rhyfeddol o gyflym.

Gall rhai o’r pethau y byddi’n eu gwneud helpu gyda datblygiad dy blentyn. Er enghraifft, pan fyddi’n cynnal cyswllt llygad gyda dy blentyn, yn canu iddyn nhw neu’n eu cofleidio, byddi’n helpu eu hymennydd i ddatblygu mewn ffordd iach.

Pan fyddi’n gwenu ar dy blentyn ac yn ymateb iddyn nhw, maen nhw’n dysgu i ymddiried ynot ti a theimlo’n ddiogel. Dyma un o’r ffyrdd y mae sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol dy blentyn yn dechrau datblygu.

Mae’r pethau bob dydd y bydd babi’n eu gwneud – fel chwarae gyda’u bysedd, edrych ar siapiau lliwgar neu wrando ar synau – yn helpu eu hymennydd i ddatblygu. Mae symud yn gysylltiedig gyda datblygiad yr ymennydd hefyd. Pan fydd babanod yn ymestyn am bethau, yn rholio, cropian a cheisio cerdded, mae’r symudiadau y maent yn eu gwneud yn helpu eu hymennydd i ddatblygu.

Mae tystiolaeth yn dangos pan fydd plant ifanc yn rhyngweithio gydag oedolion gofalgar, mai hyn yw’r dylanwad pwysicaf ar ddatblygiad cynnar eu hymennydd.

Mae’n cael mwy o effaith na phrynu teganau drud, hyd yn oed os yw’r rhain wedi’u labelu fel teganau addysgol.

Sut mae plant yn archwilio a dysgu trwy chwarae

Y peth pwysicaf y mae chwarae’n ei wneud yw gadael iddyn nhw archwilio a deall y byd drostynt eu hunain. Maen nhw’n gwneud hyn trwy ddefnyddio eu dwylo, eu cyrff, eu hymennydd a’u synhwyrau (golwg, clyw, arogl, blas a chyffyrddiad).

Gall fod yn ddefnyddiol iti gofio bod y byd yn llawn o bethau newydd i blant. Dyma pam y byddan nhw’n:

  • ailadrodd rhai gweithgareddau
  • treulio llawer o amser yn chwarae’r un gêm neu’n chwarae gyda’r un teganau
  • tynnu pethau oddi wrth ei gilydd, eu taflu neu neidio arnyn nhw i weld beth ddigwyddith
  • wrth eu bodd yn clywed yr un straeon a rhigymau drosodd a throsodd.

Sut mae chwarae’n helpu dy blentyn yn yr ysgol feithrin a’r ysgol?

Mae chwarae’n helpu dy blentyn i ddatblygu nifer o sgiliau a doniau pwysig. Chafodd dy blentyn mo’u geni gyda’r sgiliau hyn, ond cafodd ei eni gyda’r potensial i’w datblygu. Bydd rhai ohonyn nhw’n cymryd tipyn o amser i ddatblygu, hyd yn oed unwaith y bydd dy blentyn yn yr ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys gallu:

  • defnyddio eu cof i gysylltu darnau o wybodaeth
  • canolbwyntio, ymdopi â phethau fydd yn tynnu eu sylw a chadw at gynlluniau
  • symud eu sylw o un peth i’r llall
  • gwrthsefyll temtasiynau bob dydd – fel cymryd rhywbeth y maent ei awydd heb ofyn
  • ymdopi gyda straen bob dydd.
  • coping with everyday stresses.

Syniadau ar gyfer gemau, chwarae a gweithgareddau fydd yn helpu datblygiad dy blentyn

Gemau

  • Gemau fel pi-po!
  • Gemau dynwared neu gopïo
  • Rhigymau, caneuon a gemau clapio
  • Gemau bywiog fel chwarae tic
  • Gemau paru a threfnu
  • Caneuon a gemau gyda symudiadau fel cerfluniau cerddorol
  • Gemau a gweithgareddau tawel fel posau

Chwarae

  • Chwarae llawn dychymyg
  • Chwarae cymharol ‘wyllt’
  • Chwarae rôl a gwisgo i fyny
  • Chwarae poitshlyd a chwarae gyda’r synhwyrau – er enghraifft, chwarae gyda dŵr, mwd, blawd a defnydd.

Gweithgareddau

  • Siarad
  • Edrych ar lyfrau gyda’ch gilydd
  • Sgwrsio ac adrodd straeon
  • Archwilio’r tu allan
  • Gweithgareddau tawelach fel coginio a garddio.
English