Am chwarae

Am chwarae

Am chwarae

Beth ydi chwarae?

Mae chwarae’n gallu bod yn anodd i’w ddiffinio gan ei fod yn gymysgedd o lawer o wahanol fathau o ymddygiadau a rhyngweithiadau. Gall chwarae gynnwys pobl eraill a gwrthrychau. Dyma’r hyn fydd plant yn ei wneud yn naturiol pan nad yw oedolion yn trefnu eu hamser.

Sut alli di adnabod chwarae?

Mae chwarae:

  • Yn hwyl
  • Yn ansicr
  • Yn heriol
  • Yn hyblyg
  • A ’does dim rhaid iddo gael nod penodol.

Sut fydd plant yn chwarae?

Chwarae yw’r hyn y byddwn yn galw unrhyw ymddygiad neu weithgaredd y bydd plant yn ei gychwyn, ei reoli a’i drefnu eu hunain. Bydd yn digwydd pryd bynnag a ble bynnag mae cyfle.

  • Y plant fydd yn dewis pryd, sut a beth i’w chwarae
  • Y plant fydd yn penderfynu’r rheolau a’r rolau y byddant yn eu dewis pan maen nhw’n chwarae
  • Bydd plant yn chwarae oherwydd eu bod am chwarae – ac nid am unrhyw rodd, gwobr na statws.

Yn aml, bydd plant yn chwarae’n annibynnol, waeth beth fo’u hoed. Ond o bryd i’w gilydd, efallai y bydd dy blentyn yn gofyn iti am syniadau. Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys llawer o awgrymiadau

Bydd chwarae dy blentyn yn newid wrth iddyn nhw dyfu a datblygu sgiliau newydd. Felly rydym wedi cynnwys gwybodaeth yma am y gwahanol ffyrdd y gallai dy blentyn ddewis i chwarae ar wahanol adegau o’u plentyndod. Mae gennym hefyd rywfaint o syniadau syml ar gyfer ymuno yn chwarae dy blentyn.

English