Ffyrdd gwahanol y bydd plant yn chwarae

Am chwarae

Ffyrdd gwahanol y bydd plant yn chwarae

Waeth beth yw eu hoedran, mae plant yn chwarae mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gall chwarae fod yn greadigol a dychmygol, yn dawel neu swnllyd, yn gymdeithasol neu’n unig, yn ddigynnwrf neu’n ddi-drefn. 

Mae plant yn chwarae mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau a chyfnodau o’u bywydau – ond ddim mewn llinell syth! Efallai y byddan nhw’n mynd yn ôl ac ymlaen rhwng pethau y maen nhw wedi’u mwynhau. Mae pethau eraill yn newid eu chwarae hefyd – er enghraifft, gyda phwy y maen nhw’n chwarae, pa fath o bethau sydd ganddyn nhw o’u hamgylch, ble y maen nhw’n chwarae, a sut y maen nhw’n teimlo. Efallai y bydd niwrowahaniaeth a gwahaniaethau eraill mewn datblygiad yn golygu bod chwarae plant yn edrych neu’n teimlo ychydig yn wahanol, ond mae hynny’n iawn hefyd.

Fyddi di ddim yn gallu dweud pa fuddiannau y mae dy blentyn yn ei gael o’i chwarae bob amser, felly mae’n beth da i’w helpu i chwarae mewn cymaint o wahanol ffyrdd â phosibl.

Chwarae i fabanod

Yn y dyddiau cynnar, mae chwarae’n helpu i symbylu synnwyr golwg, clyw, arogl, cyffwrdd a blas dy fabi. Mae’n ysgogi eu symudiad hefyd. Mae chwarae gemau gyda dy fabi fel pi-po, canu iddyn nhw, a rhoi pethau iddyn nhw afael a chydio ynddyn nhw i gyd yn helpu eu hymennydd i ddatblygu.

Wrth i dy fabi ddechrau symud mwy, byddant am rolio, cropian a symud o gwmpas. Bydd babanod yn defnyddio eu corff cyfan i ddysgu am eu hunain, am bobl eraill, a’r byd o’u hamgylch.

Chwarae i blant bach

Mae plant bach yn naturiol chwilfrydig. Mae pethau sy’n newydd ac yn wahanol yn dal eu sylw. Trwy eu cyrff a’u synhwyrau byddant yn dysgu mwy am eu byd. Maen nhw, fel arfer, yn mwynhau dysgu am y byd trwy fod yn fywiog – sblasio, padlo a baeddu

Efallai y bydd dy blentyn bach yn chwilio am gyfleodd i falansio, dringo, a chuddio. Mae’r math yma o weithgarwch yn helpu dy blentyn bach i ddysgu am eu corff a’r hyn mae’n gallu ei wneud.

Chwarae i blant tair i bump oed

Mae plant ifanc yn mwynhau bod y tu allan. Efallai y bydd dy blentyn yn hoffi archwilio eu byd, cerdded a rhedeg o gwmpas mewn glaswellt hir, llwyni a choed. Maen bosibl y byddan nhw’n mwynhau chwarae gyda’r elfennau – chwarae yn y glaw, palu mewn tywod, rhedeg yn y gwynt a gwylio’r tân.

Mae creu pethau gyda blociau adeiladu, defnydd a bocsys cardbord yn helpu plant ifanc i ddatblygu cydsymudiad a dysgu am faint a siâp. Gall chwalu pethau, taflu pethau i ffwrdd a thynnu pethau’n ddarnau fod yn hwyl a bydd plant yn dysgu pan maen nhw’n gwneud hyn hefyd.

Chwarae i blant pump i wyth oed

Efallai y bydd plant o’r oed yma’n dechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau mwy strwythuredig a chlybiau. Ceisia roi digon o gyfleoedd i dy blentyn ddewis pryd, sut, a beth i’w chwarae a gyda phwy y maent am chwarae.

Dyma’r oed pan fyddi, efallai, yn dechrau gweld dychymyg dy blentyn yn blodeuo. Efallai y bydd yn mwynhau chwarae ffantasi, straeon doniol, jôcs a mwyseiriau gwirion. Galli gefnogi hyn trwy gael casgliad o ddillad ar gyfer gwisgo i fyny neu jync ar gyfer creu modelau, edrych ar lyfrau gyda’ch gilydd ac, yn syml, ymgolli yn yr hwyl o esgus neu smalio.

Efallai y byddi’n eu gweld hefyd yn mwynhau chwarae gwyllt gyda’u ffrindiau. Mae’r math yma o chwarae’n helpu dy blentyn i ddysgu am gryfder eu corff, yn ogystal â dysgu am sut i chwarae gyda phlant eraill.

Mae’n debyg y bydd dy blentyn eisiau bod yn fwy annibynnol. Bydd cerdded gyda nhw i’r siopau lleol, i’r ysgol ac i’r parc yn rhoi cyfle ichi siarad am sut i gadw’n ddiogel. Mae’n wych os allwch chi feddwl am atebion gyda’ch gilydd.

Chwarae i blant wyth i ddeuddeg oed

Mae plant yn dal i fod yn greadigol iawn yn ystod y cyfnod hwn – er enghraifft, cyfansoddi caneuon a dyfeisio dawnsiau a cheisio adeiladu a chreu pethau.

Efallai y bydd dy blentyn yn mwynhau gweithgareddau heriol fel ffordd i brofi eu hunain. Gall fod yn ffordd o brofi eu terfynau – a dy rhai tithau hefyd.

Efallai y bydd dy blentyn yn mwynhau bod allan yn crwydro gyda’u ffrindiau. Efallai y bydd eisiau – ac y bydd yn cael caniatâd – i grwydro ymhellach o adref.

Darllen ein awgrymiadau anhygoel ar gyfer paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

Chwarae i arddegwyr

Mae ffrindiau a phobl eraill o’r un oed yn bwysig i arddegwyr ac efallai y byddan nhw am gwrdd â’i gilydd a hongian o gwmpas mewn parciau a mannau cyhoeddus eraill.

Bydd arddegwyr yn chwarae gyda’u hunaniaeth yn aml. Efallai y byddan nhw’n arbrofi gyda ffasiwn a steil eu gwallt ac yn archwilio gwahanol fathau o gerddoriaeth.

Mae perthnasau ar-lein yn rhan bwysig o sut y bydd arddegwyr yn datblygu. Yn aml, bydd arddegwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad gyda’u ffrindiau, gwneud trefniadau a theimlo’n gysylltiedig. Mae cael sgyrsiau gyda nhw am ddiogelwch ac ymddygiad derbyniol ar-lein, yn union fel y byddwch chi all-lein, yn bwysig.

Darganfod mwy am gefnogi chwarae arddegwyr

Dysga fwy am chwarae sy’n cynnwys pob plentyn

Dysga fwy am chwarae sy’n gyfeillgar i’r rhywiau

 

English