Chwarae bywiog

Am chwarae

Chwarae bywiog

Mae pob un ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw hi i’n hiechyd a’n lles inni fod yn fywiog ac egnïol. Mae chwarae’n ffordd wych i blant fod yn fywiog, ac mae’n helpu eu cydsymudiad, eu cydbwysedd, a’u sgiliau corfforol. Mae chwarae bywiog yn cynnwys popeth o rolio a chropian i redeg o gwmpas, chwarae gemau cwrso, dal pêl, neidio mewn pyllau a gwneud olwynion tro.

Mae symud o gwmpas a chwarae’n llosgi egni ac mae hyn yn helpu plant i gadw’n heini ac iach. Mae hefyd yn helpu i atal afiechydon difrifol yn hwyrach yn eu bywyd, fel diabetes math 2, clefyd y galon a chanser. Mae gwneud yn siŵr bod plant yn cael amser, lle a rhyddid i chwarae’n ffordd wych o wneud yn siŵr eu bod yn symud o gwmpas – ac yn cael hwyl hefyd.

Y canllawiau gweithgarwch corfforol

Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol yn y DU. Yn 2019, fe gyhoeddon nhw wybodaeth ac argymhellion am weithgarwch corfforol, sef Canllawiau Gweithgarwch Corfforol y Prif Swyddogion Meddygol.

Mae’r Prif Swyddogion Meddygol yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad plant. Mae’r canllawiau’n argymell y dylai plant gael cymaint o chwarae bywiog â phosibl.

Mae’r canllawiau’n dweud: ‘argymhellir i blant fod yn egnïol am 60 munud y dydd, ar gyfartaledd, ar draws yr wythnos.’

Y neges gyffredinol yw bod unrhyw weithgarwch yn well na dim, a bod mwy o weithgarwch yn well fyth.

Chwarae bywiog

Mae chwarae bywiog yn weithgarwch corfforol gyda phlyciau rheolaidd o symud sy’n amrywio o dempo arferol i egnïol, fel cropian, neidio, neu redeg. Mae chwarae fel hyn yn codi curiad calon plentyn ac yn gwneud iddyn nhw ‘chwythu a phwffian’, ac mae hyn yn dda i’w hiechyd.

Mae bywyd modern wedi gwneud pethau yn gyfforddus i ni ac mae llawer ohonom yn treulio llawer o amser yn bod yn segur adref ac yn y gwaith. Pan fyddwn ni’n segur, ’dydyn ni ddim yn llosgi’r egni yr ydym yn ei fwyta mewn bwyd a diod.

Canllawiau ar gyfer y blynyddoedd cynnar (geni i bump oed)

Babanod (iau na blwydd oed)

Pan maen nhw’n effro, mae angen i fabanod dreulio o leiaf 30 munud y diwrnod ar eu bol. Mae angen iddyn nhw hefyd gael cyfleoedd i ymestyn a gafael, gwthio a thynnu eu hunain i fyny’n annibynnol a rholio drosodd.

Mae angen i fabanod hŷn fod yn gorfforol fywiog nifer o weithiau’n ystod y dydd. Maen nhw’n gallu gwneud hyn mewn nifer o wahanol fyrdd, yn cynnwys gweithgareddau ar y llawr, fel cropian a rholio.

Plant bach (1 i 2 oed)

Mae angen i blant bach dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud gwahanol fathau o weithgareddau corfforol. Gellir rhannu hyn trwy’r dydd, yn cynnwys chwarae bywiog dan do a’r tu allan.

Plant dan oed ysgol (3 i 4 oed)

Mae angen i blant dan oed ysgol dreulio o leiaf 180 munud (tair awr) y dydd yn gwneud gwahanol fathau o weithgareddau corfforol. Gellir rhannu hyn trwy’r dydd, yn cynnwys chwarae bywiog dan do a’r tu allan. Dylai o leiaf 60 munud fod yn weithgarwch corfforol lefel arferol i egnïol – ac mae mwy yn well.

Plant hŷn (5 i 18 oed)

Mae’r canllawiau gweithgarwch corfforol ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau rhwng 5 a 18 oed yn argymell 60 munud y dydd o weithgarwch corfforol arferol i egnïol. Gellir rhannu hyn trwy’r dydd.

Mae gweithgarwch corfforol arferol yn golygu gweithgarwch sy’n gwneud i blant deimlo’n fwy cynnes ac anadlu’n drymach. Er enghraifft:

  • cerdded yn gyflym
  • mynd ar gefn beic
  • dawnsio
  • gwisgo esgidiau rholio
  • chwarae ar y cae chwarae.

Mae gweithgareddau egnïol yn gwneud siarad yn anoddach. Maent yn cynnwys:

  • rhedeg yn gyflym
  • chwarae tic

Trwy gydol yr wythnos, mae’n dda i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n datblygu eu sgiliau symud a chryfder eu cyhyrau a’u hesgyrn. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys sboncio, sgipio a siglo ar offer maes chwarae (yr hyn mae hyfforddwyr ffitrwydd yn eu galw’n ymarferion pwysau’r corff ac ymwrthiant).

Mae’n bwysig nad yw plant yn treulio cyfnodau hir yn eistedd yn llonydd. Mae angen i oedolion helpu plant ac arddegwyr i dreulio llai o amser yn eistedd a llai o amser o flaen sgrîn. ’Dyw’r mathau o weithgareddau sydd wedi’u rhestru isod ddim yn ddrwg i blant, ond mae angen eu gwneud mewn cydbwysedd gyda chwarae mwy bywiog:

  • gwylio’r teledu
  • defnyddio cyfrifiadur
  • chwarae gemau fideo
  • darllen
  • siarad
  • gwneud gwaith cartref.

Mae ein hadran Syniadau chwarae yn cynnwys llawer o awgrymiadau ar gyfer chwarae bywiog.

English