Mannau i hongian o gwmpas

Am chwarae

Mannau i hongian o gwmpas

Mae arddegwyr yn wych am ddefnyddio gwahanol fannau i gymdeithasu. Yn aml, fe fyddan nhw’n dod o hyd i leoedd oedd ddim wedi’u bwriadu ar gyfer hongian o gwmpas ond sy’n gweddu i’w anghenion nhw. Gallai hyn fod adref, ond bydd arddegwyr yn aml yn gwneud defnydd gwych o fannau cyhoeddus fel strydoedd, canol trefi, sgwariau, corneli, parciau, y tu allan i siopau a mannau ymgasglu eraill.

Mae mannau eraill y gallai arddegwyr eu dewis, os ydynt ar gael, yn cynnwys:

  • clybiau a darpariaeth ieuenctid
  • meysydd chwarae antur
  • parciau sglefrfyrddio
  • gweithgareddau yn y gymuned a gefnogir gan weithwyr ieuenctid.

Waeth os ydyn nhw mewn darpariaeth ieuenctid neu fannau cyhoeddus, bydd arddegwyr yn aml yn chwilio am:

  • breifatrwydd – mannau sy’n ddigon pell o olwg oedolion i beidio cael eich styrbio neu eich barnu
  • diogelwch – mannau ble maen nhw’n teimlo y gallan nhw ymlacio heb gael eu tarfu neu eu bygwth
  • newydd-deb – mannau ble mae pethau sy’n hwyl i’w gwneud, fel chwarae yn yr afon neu ddringo pont
  • gwylfâu – mannau ble gallan nhw weld beth sy’n digwydd a phobl yn mynd a dod
  • rhyddid – i fod yn nhw eu hunain ac ymddwyn fel y mynnant
  • pethau y maen nhw eu hangen – seti, cysgod, goleuo, cynhesrwydd, wifi.

Yn bennaf oll, mae arddegwyr yn cael eu denu at fannau ble mae pobl eraill i hongian o gwmpas neu ryngweithio gyda nhw. Efallai y byddan nhw’n symud o gwmpas o le i le a chysylltu a rhyngweithio gyda grwpiau eraill. Pan maen nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n ennill profiad cymdeithasol, sgiliau a dealltwriaeth.

Gall cael lleoedd i hongian o gwmpas a chymdeithasu roi ymdeimlad o berthyn i arddegwyr. Gall teimlo bod croeso iddyn nhw gefnogi eu lles cymdeithasol ac emosiynol.

Effaith arddegwyr yn hongian o gwmpas

Gall arddegwyr ddod ag egni a bywyd i fannau diflas sy’n cael fawr o ddefnydd, er enghraifft pan fyddan nhw yn:

  • sglefrfyrddio
  • gwisgo’r ffasiwn ddiweddaraf
  • chwarae cerddoriaeth
  • chwarae gemau anffurfiol.

Yn aml, bydd gan arddegwyr lai o ddewis o fannau i dreulio amser nag oedolion a phlant ifanc, ac efallai y byddan nhw’n teimlo nad oes croeso iddyn nhw mewn rhai mannau.

Gallai hyn ymwneud â:

  • helynt go iawn, taflu sbwriel, niwsans oherwydd sŵn neu greu rhwystr ar balmentydd
  • pobl yn teimlo bod grwpiau o arddegwyr yn fygythiol
  • pobl, yn syml iawn, ddim yn bod yn oddefgar iawn ohonyn nhw.

Mae’n bosibl hefyd y bydd arddegwyr yn teimlo eu bod yn cael eu bygwth gan arddegwyr eraill, gan oedolion neu’r amgylchedd.

Pethau i siarad amdanyn nhw

Mae gan arddegwyr gymaint o hawl â phawb arall i dreulio amser mewn mannau cyhoeddus. Fe ddylen ni gyd ddisgwyl i bobl drin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth waeth os ydyn nhw’n blant, yn arddegwyr neu’n oedolion.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i gael sgyrsiau gyda dy blentyn yn ei arddegau am:

  • sut y gall iaith ac ymddygiad effeithio ar bobl eraill
  • pwy arall allai fod eisiau defnyddio’r gofod ar yr un pryd
  • sut i fod yn ystyriol o’ch gilydd
  • pa opsiynau sydd ganddyn nhw os fyddan nhw’n teimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus
  • sut y gallen nhw siarad gydag arddegwyr eraill.

Ar ein tudalen cadw cefn arddegwyr, cei hyd i awgrymiadau ar sut i sefyll i fyny dros arddegwyr yn y gymuned ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym dudalen hefyd ar helpu arddegwyr i sefyll i fyny drostyn nhw eu hunain. 

Cadw mewn cysylltiad

Pan fydd dy blentyn yn ei arddegau’n dechrau treulio amser yn hongian o gwmpas efallai yr hoffet feddwl am ffyrdd i gadw mewn cysylltiad. Gall hyn dawelu dy feddwl di a dy arddegwyr. Mae gan lawer o arddegwyr ffôn all helpu gyda chadw mewn cysylltiad. Gallwch rannu lleoliadau rhwng ffonau neu ar apiau.

Dyma ambell beth i’w ystyried:

  • Cofia nad ydi lleoliad y ffôn yn golygu mai dyna ble maen nhw!
  • Mae angen i arddegwyr wybod bod ganddyn nhw a phobl eraill hawl i breifatrwydd – dydyn ni ddim am iddyn nhw dyfu i fyny’n meddwl bod gan bartneriaid, neu bobl eraill, hawl i wybod ble maen nhw trwy’r amser.
  • Os doi di i ddibynnu ar wirio lleoliadau ar ffonau clyfar gall dy wneud yn nerfus pan na alli di gysylltu gyda nhw. Gall y rhesymau fod yn syml iawn, er enghraifft efallai nad oes signal neu fod batri’r ddyfais wedi marw.

Galli di a dy blentyn yn ei arddegau siarad trwy a chytuno ar bethau allweddol gyda’ch gilydd, fel:

  • trefnu i roi gwybod iti os bydd am gyrraedd adre’n hwyr
  • sut allan nhw gadw mewn cysylltiad os byddan nhw allan am amser hir, er enghraifft, fe allan nhw gysylltu trwy neges testun neu alwad ar amserau penodol
  • trefnu y byddi di mewn man penodol ar amser penodol er mwyn cysylltu gyda nhw
  • gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod os ydyn nhw mewn helynt neu mewn perygl, y byddai’n well gennyt ti iddyn nhw gysylltu gyda thi.
English