Cadw cefn arddegwyr

Am chwarae

Cadw cefn arddegwyr

Fydd arddegwyr ddim yn cael sylw da yn y wasg bob amser. Yn aml, maen nhw’n destun trafod yn lleol ac mewn fforymau fel cymdeithasau trigolion neu grwpiau cymunedol. Efallai y byddi’n sylwi ar gymysgedd o straeon cadarnhaol a negyddol am arddegwyr yn dy bapurau newydd lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel rhiant neu ofalwr plentyn yn ei arddegau rwyt ti mewn sefyllfa dda i fod ar eu hochr nhw.

Mae sut y caiff arddegwyr eu portreadu’n effeithio ar bawb

Er bod arddegwyr yn grŵp mor amrywiol ac unrhyw ran arall o’r boblogaeth, weithiau maen nhw’n cael eu lympio gyda’i gilydd fel un grŵp mawr neu eu beio am bethau nad oes ganddyn nhw fawr ddim rheolaeth drostyn nhw. Gwelir geiriau difrïol fel ‘iobs’, ‘llabystiaid’ a ‘hwdis’ mewn penawdau ar-lein neu yn y papurau.

Yn anffodus, mae portreadu arddegwyr fel hyn yn cael effaith negyddol cyffredinol, gan annog stereoteipiau a gwneud i bobl fod yn ofnus o’i gilydd. Gall hyn gynnwys arddegwyr yn bod yn wyliadwrus o arddegwyr eraill nad ydyn nhw’n eu hadnabod.

Mae gan bortreadau mwy cytbwys a realistig o arddegwyr, sy’n eu cyflwyno fel aelodau cyffredin o’n cymuned, fuddiannau ehangach.

  • Pobl yn teimlo’n llai ofnus ac yn fwy parod i ddod i adnabod ei gilydd.
  • Oedolion yn bod yn fwy tebygol o weld elfennau positif arddegwyr.
  • Arddegwyr yn teimlo’n fwy hyderus i gymdeithasu gydag eraill.
  • Arddegwyr yn cael mwy o groeso mewn mannau cyhoeddus.

Fel rhiant neu ofalwr plentyn yn ei arddegau, gall effaith stereoteipiau negyddol fod yn rhwystredig neu’n ddiflas. Ond mae nifer o ffyrdd i gefnogi arddegwyr.

Mae bod ag arddegwyr yn dy fywyd yn rhoi cipolwg iti ar y materion llosg a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu a rhai o’r pethau gwych y maen nhw’n eu gwneud.

Pum ffordd i gefnogi arddegwyr

Helpa i greu sylwadau cadarnhaol am arddegwyr ar y cyfryngau cymdeithasol trwy:

  • Rannu neges o ddiolch neu gydnabyddiaeth syml am weithred bositif gan arddegwyr ar dy sianelau cyfryngau cymdeithasol personol neu mewn grŵp ar-lein.
  • Nodi esiampl yr wyt wedi sylwi arni, er enghraifft, ‘Roedd hi mor braf gweld dau o blant lleol yn eu harddegau’n helpu dyn mewn oed oedd yn cael trafferth gyda’i siopa yn yr archfarchnad heddiw. Da iawn chi!’
  • Ail-rannu straeon cadarnhaol am arddegwyr.
  • Chwilio am gyfleoedd i nodi sylwadau ar neu i ‘hoffi’ straeon neu negeseuon pobl eraill sy’n arddangos ochr garedig, dosturiol a dewr arddegwyr.

Cynnig gwahanol safbwynt trwy:

  • Rannu stori sy’n fwy positif (un o dy straeon dy hun neu o’r wasg neu o’r cyfryngau cymdeithasol) os byddi’n clywed am bob plentyn yn ei arddegau’n cael ei lympio gyda’i gilydd mewn modd negyddol.
  • Atgoffa pobl bod arddegwyr yn tyfu i fyny mewn byd sy’n wahanol iawn i’r byd y gwnaeth pobl hŷn dyfu i fyny ynddo.
  • Ceisio defnyddio brawddeg fel ‘Ffordd arall o feddwl am hyn fyddai i…’ er mwyn troi’r sgwrs mewn cyfeiriad mwy positif. Er enghraifft, ‘Ffordd arall o feddwl am arddegwyr yn hongian o gwmpas ar y stryd ydi eu bod nhw’n teimlo'n fwy diogel yno oherwydd bod digon o olau a bod llawer o bobl o gwmpas’.
  • Rhannu sylwadau yr wyt wedi eu clywed gan arddegwyr am fater llosg neu sefyllfa. Er enghraifft, ‘Fe ddywedodd fy mab yn ei arddegau wrtha i fod ei ffrindiau’n teimlo’n anhapus am y sefyllfa honno hefyd a bod ganddyn nhw syniadau am sut i roi trefn ar bethau.’

Hel atgofion:

  • Cynyddu empathi ar gyfer arddegwyr trwy sgwrsio gyda phobl am eu harddegau nhw, y pethau y bydden nhw a’u ffrindiau’n eu gwneud a’r heriau y gwnaethon nhw eu hwynebu.
  • Magu synnwyr digrifwch – gallai sylw amserol fel ‘Hoffwn i ddim cyfaddef beth oeddwn i’n ei wneud pan oeddwn i’r oed yna!’ atgoffa pobl bod camweddau arddegwyr yn gyffredin ar draws y cenedlaethau.
  • Annog dy arddegwyr i sgwrsio gyda pherthnasau neu gymdogion hŷn am eu magwraeth a dysgu am y pethau sydd ganddyn nhw’n gyffredin neu sy’n eu synnu.

Rhannu rhywfaint o bethau i feddwl amdanynt fel:

  • Nodi bod y cyfryngau’n tueddu i bwysleisio straeon negyddol am arddegwyr ond eu bod yn anwybyddu’r pethau cyffredin y mae arddegwyr yn eu gwneud wrth yrru ymlaen â’u bywydau.
  • Cyflwyno rhywfaint o wyddoniaeth ymenyddol. Mae ymennydd arddegwyr, yn cynnwys y darnau sydd eu hangen ar gyfer llunio penderfyniadau a chynllunio, yn mynd trwy gyfnod pwysig o newid a datblygu. Mae rhaid i bob un ohonon ni fynd trwy’r cyfnod hwn ar ein ffordd i dyfu’n oedolion annibynnol.
  • Ystyried effaith technoleg ar fywydau arddegwyr. Fe fyddwn ni’n poeni’n aml am yr agweddau positif a negyddol ond efallai’n llai aml am ba mor wych ydi arddegwyr am gyfathrebu mewn ffyrdd creadigol gyda thechnoleg wrth flaen eu bysedd.
  • Atgoffa pobl ein bod i gyd yn gwneud camgymeriadau ac efallai rhannu rhai o dy rai di. Mae arddegwyr yn gwneud camgymeriadau hefyd.

Cefnogi ymgyrchoedd arddegwyr trwy:

  • Ychwanegu dy lais at ymgyrchoedd lleol ar gyfer cyfleusterau fel parciau sglefrfyrddio a mannau i arddegwyr hongian o gwmpas.
  • Cynorthwyo gyda chodi arian ar gyfer cyfleusterau a phrosiectau ar gyfer arddegwyr.
  • Ymuno mewn prosiectau gwaith ieuenctid neu wirfoddoli lleol gydag arddegwyr.
  • Gofyn i arddegwyr am yr achosion sydd o bwys iddyn nhw, er enghraifft yr amgylchedd, iechyd meddwl neu addysg a’u cefnogi trwy arwyddo eu deisebau er enghraifft.
  • Dysgu mwy am gonfensiynau hawliau plant a hawliau dynol megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn neu’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. 

Am fwy o syniadau am arddegwyr yn sefyll i fyny drostyn nhw eu hunain a dros bobl eraill yn eu cymuned, cer i’r tudalennau isod:

English