Treulio amser gyda dy blentyn yn ei arddegau

Am chwarae

Treulio amser gyda dy blentyn yn ei arddegau

Gall yr arddegau fod yn flynyddoedd yn llawn o wahanol opsiynau a phrofiadau y tu hwnt i’r cartref a’r teulu agosaf. Mae llawer o arddegwyr yn brysur gyda phethau fel yr ysgol, astudio, gwirfoddoli, diddordebau, chwaraeon neu glybiau. Mae llawer o arddegwyr yn treulio tipyn o amser ar-lein yn cymdeithasu, yn chwarae gemau neu’n ymlacio.

Yn ystod eu hamser sbâr, mae’n debyg y bydd treulio amser gydag arddegwyr eraill yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Dydi hynny ddim yn golygu na fyddan nhw’n mwynhau treulio amser gyda thi hefyd, ond mae’n naturiol iddyn nhw ehangu eu gorwelion y tu hwnt i’r teulu.

Efallai y bydd angen iti ailfeddwl yr amser a’r mannau y byddi’n treulio amser gyda dy blentyn yn ei arddegau a bod yn realistig ynghylch faint o amser sydd ganddyn nhw i'w dreulio gyda ti.

Dyma ambell awgrym.

Amserau bwyd

Gall amser bwyd rheolaidd fod yn amser i eistedd a sgwrsio gyda’ch gilydd. Os ydych chi’n bwyta gyda’ch gilydd yn llai aml, gall ambell bryd bwyd deimlo’n fwy arbennig – er weithiau, efallai y bydd rhaid iti dderbyn bod eu meddwl yn rhywle arall.

  • Gwna fwy o achlysur o un pryd yr wythnos pan fyddwch chi’n trefnu amser i fwyta gyda’ch gilydd. Er enghraifft, brecwast hwyr ar y penwythnos, tecawê ganol wythnos, mynd am goffi gyda’ch gilydd.
  • Rho fwy o ddewis a rheolaeth i dy arddegwyr dros brydau bwyd ac amser bwyd, os yn bosibl. Beth hoffen nhw ei goginio? Allan nhw roi tro ar greu cynllun prydau bwyd ar gyllideb benodol? Pwy hoffen nhw ei wahodd? Hoffen nhw greu awyrgylch penodol gyda thema ac addurniadau?
  • Rho dro arni os byddan nhw’n penderfynu arbrofi gyda diet gwahanol, arddull coginio penodol neu fynd yn figan. ’Does dim rhaid iti ddarparu ar gyfer pob dewis, ond efallai y gwnei di fwynhau rhai o’r pethau newydd y maent yn eu cyflwyno.
  • Ceisia beidio poeni gormod os byddan nhw’n rhuthro pryd bwyd oherwydd eu bod yn ddiamynedd neu os fyddan nhw weithiau’n dewis pethau na fyddet ti’n eu dewis.

Gweithgareddau syml

Gall gweithgareddau syml fod yn wych jest i fod gyda’ch gilydd heb unrhyw bwysau. ’Does dim angen ichi siarad chwaith, er y gallai awyrgylch ymlaciol fod yn amser y bydd dy blentyn yn ei arddegau’n dewis sgwrsio.

  • Mynd am dro gyda’ch gilydd. Beth am fynd am dro gyda’r nos, mynd am dro trwy’r ddinas, archwilio rhannau o’ch cymdogaeth eich hun, parciau lleol neu gefn gwlad?
  • Gwylio’r teledu a ffilmiau. Gad i dy blentyn yn ei arddegau ddewis beth i’w wylio a jest ymlacio ar y soffa gyda’ch gilydd.
  • Mynd i’r sinema. Gwych os oes gan dy arddegwyr gywilydd cael eu gweld gyda ti’n gyhoeddus!
  • Rhoi trefn ar ystafell, golchi llestri, clirio wardrob neu dacluso pethau yn y tŷ. Weithiau, gall cyflawni tasg syml gyda’ch gilydd fod yn bleserus a boddhaol.
  • Gwnewch amser ar gyfer pethau gwirion. Efallai y bydd yr arddegwyr mwyaf sarrug yn mwynhau cael hwyl dros gêm fwrdd wirion neu raglen ar y teledu.
  • Edrychwch trwy luniau neu fideos teuluol gyda’ch gilydd. Gall fod yn wych cofio adegau hwyliog neu bleserus yr ydych wedi eu cael gyda’ch gilydd a meddwl am bobl sy’n bwysig i chi.

Diddordebau a phrosiectau cyffredin

Gall bod â rhywbeth y mae’r ddau ohonoch yn mwynhau ei wneud gynnig ffordd braf i dreulio amser gyda dy blentyn yn ei arddegau. Gallai fod yn ddiddordeb sydd gennych ers amser neu’n rhywbeth newydd y penderfynwch roi tro arno gyda’ch gilydd.

  • Chwarae neu wylio chwaraeon gyda’ch gilydd.
  • Dysgu rhywbeth newydd gyda’ch gilydd, fel iaith neu grefft.
  • Cychwyn prosiect gyda’ch gilydd, fel ailaddurno eu hystafell wely.
  • Gofyn iddyn nhw ddangos iti sut i wneud rhywbeth y maen nhw’n dda am ei wneud.
  • Gwirfoddoli i elusen neu brosiect lleol gyda’ch gilydd.
  • Ymuno gyda’ch gilydd i godi arian ar gyfer achos sy’n bwysig i’r ddau ohonoch, er enghraifft rhedeg 5k, pobi cacennau i’w gwerthu.
  • Gofalu am rywbeth gyda’ch gilydd fel gardd neu anifail anwes.
  • Ymuno mewn gorymdaith neu wrthdystiad am fater sy’n bwysig i’r ddau / ddwy ohonoch.

Treulio amser gyda phobl eraill

Gall treulio amser gyda phobl eraill ddangos gwahanol ochrau personoliaeth dy blentyn iti a bod yn gyfle i gael hwyl gyda’ch gilydd.

  • Mae gofalu am blant iau yn gyfle i arddegwyr fod yn gyfrifol a gofalgar ond hefyd i chwarae mewn ffyrdd y bydden nhw’n wneud pan oedden nhw’n iau.
  • Gall hongian o gwmpas gyda phobl hŷn roi cyfle iddyn nhw gyfnewid straeon, profiadau bywyd a chael hwyl.
  • Mae cwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau, cefndiroedd neu broffesiynau’n ehangu ein safbwynt ar y byd.

Gall deimlo’n anodd pan nad yw arddegwyr yn ddigon hen i wneud pethau’n gyfan gwbl drostyn nhw eu hunain ond pan maen nhw wedi tyfu allan o wneud cymaint gyda chi fel teulu. Yn aml, maen nhw dal dy angen gymaint â phan oedden nhw’n iau, ond efallai y byddan nhw’n ei ddangos mewn gwahanol ffyrdd. Gall dod o hyd i ffyrdd i dreulio amser gyda’ch gilydd fod yn wych ichi’ch dwy / dau.

Os ydi dy blentyn yn ymddangos yn swil neu fel bod ganddo/i gywilydd cael eu gweld gyda ti, cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun! Mae hyn yn digwydd gydag arddegwyr, rhieni, a gofalwyr ym mhob man! Efallai y byddi’n cofio adeg pan oedd dy rieni’n codi cywilydd arnat tithau, ac yna iti dyfu allan o hynny.

English