Gwibdeithiau a gwyliau gyda arddegwyr

Am chwarae

Gwibdeithiau a gwyliau gyda arddegwyr

Os alli di fynd i ffwrdd am wibdaith, ymweliad neu wyliau gyda dy blentyn yn ei arddegau gall deimlo’n arbennig iawn. Wrth i dy blant dyfu’n hŷn mae’n bosibl y byddi’n dechrau teimlo na chewch chi fawr fwy o wibdeithiau neu wyliau gyda’ch gilydd, fel oeddech chi’n arfer ei wneud pan oedden nhw’n iau.

Gall gwibdeithiau a gwyliau fod yn gyfle i dy blentyn ymlacio’n ddigon pell oddi wrth bwysau’r ysgol neu eu grŵp cyfoedion. Fydd dim angen ichi deithio’n bell i ddod o hyd i le newydd neu ddiddorol i’w archwilio gyda’ch gilydd.

Cael y gorau o deithiau gyda’ch gilydd

  • Cofia na fyddan nhw, efallai, am wneud yr un pethau a ti neu eu brodyr a’u chwiorydd iau.
  • Dangos ddiddordeb yn eu hawgrymiadau a’u syniadau am beth i’w wneud a ble i fynd. Efallai y bydd angen i bawb gyfaddawdu er mwyn cytuno ar gynlluniau gyda’ch gilydd.
  • Trafodwch eich disgwyliadau ymlaen llaw. Er enghraifft, a fydd pob rheol sy’n gymwys adref yn gymwys ar wyliau hefyd?
  • Siaradwch am gyllidebau ymlaen llaw fel bod pawb yn deall faint o arian gwario sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau arbennig.
  • Gadewch rywfaint o amser a lle i’ch gilydd i wneud yr hyn yr ydych chi am ei wneud.
  • Trefnwch amser rhydd ar gyfer ymlacio a chael llonydd.
  • Cofia roi gwybod iddyn nhw dy fod yn mwynhau treulio amser gyda nhw.

Arddegwyr yn trefnu eu gwibdeithiau eu hunain

beri pryder i tithau hefyd fel rhiant neu ofalwr, a byddi eisiau teimlo’n hyderus eu bod yn gwybod sut i ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i fynd dros eich pwyntiau trafod arferol, fel:

  • beth allan nhw ei wneud os ydyn nhw’n teimlo mewn perygl neu os aiff rhywbeth o’i le
  • y byddan nhw’n rhoi gwybod iti os byddan nhw’n cyrraedd adref yn hwyr
  • y byddan nhw’n anfon neges testun neu’n rhoi galwad iti ar amserau penodol
  • y byddi di mewn man penodol ar amser penodol er mwyn cysylltu gyda nhw
  • eu bod nhw gyda phwy y maen nhw’n dweud y byddan nhw gyda nhw
  • y byddan nhw’n mynd i’r lleoliad y maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n mynd iddo.

Os wyt ti’n teimlo bod taith arfaethedig yn gam mawr o’r hyn y mae dy blentyn wedi ei brofi eisoes, gallet ei helpu trwy:

  • awgrymu taith lai neu fyrrach yn gyntaf
  • gwneud yn siŵr eu bod wedi ennill profiad o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • rhoi tro ar fynd ar y daith ymlaen llaw
  • gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i ofyn neu alw am help.

Fe allet ti greu senarios i’w hannog i feddwl am sefyllfaoedd posibl allai godi a pha opsiynau sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â’r rhain. Er enghraifft: Fe allet ti greu senarios i’w hannog i feddwl am sefyllfaoedd posibl allai godi a pha opsiynau sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â’r rhain. Er enghraifft:

  • Rwyt ti’n cyrraedd y ganolfan a sylweddoli dy fod wedi colli dy docyn. Beth allet ti ei wneud?
  • Mae safle’r ŵyl yn llawer prysurach na’r disgwyl. Beth alli di ei wneud i osgoi cael dy wahanu oddi wrth dy ffrindiau?
  • Rwyt ti filltiroedd o’r arhosfan bysus agosaf ac mae ffrind i ffrind yn cynnig lifft iti. Sut fyddet ti’n penderfynu derbyn y lifft ai peidio?

Mae treulio amser yn meddwl trwy gynlluniau ac opsiynau’n waith paratoi gwerth chweil er, allwch chi fyth feddwl am bob sefyllfa bosibl allai godi. Bydd arddegwyr yn dysgu trwy brofiad ac fe fyddan nhw’n tynnu ar eu sgiliau a’u datrysiadau eu hunain os bydd angen iddyn nhw weithio pethau allan neu os byddan nhw’n mynd i helynt.

Hyd yn oed os wyt ti’n nerfus, galli ffarwelio gyda nhw ar nodyn positif, er mwyn dangos bod gennyt ti hyder ynddyn nhw.

English