Pethau dychrynllyd y bydd arddegwyr yn eu gwneud

Am chwarae

Pethau dychrynllyd y bydd arddegwyr yn eu gwneud

Gall magu plentyn yn ei arddegau fod yn gyfnod pryderus. Pan oedden ni’n ein harddegau, efallai bod gennym wahanol farn i’n rhieni ac oedolion eraill am yr hyn oedd yn ddiogel, yn risg, yn iawn neu ddim yn iawn.

Mae ymennydd arddegwyr yn dal i ddatblygu. Fe fyddan nhw’n mynd trwy gyfnodau pan maen nhw’n cael eu denu at brofiadau sy’n llawn risg ac sy’n ddigon cynhyrfus i gael chwistrelliad mawr o adrenalin.

Mae rhai o’r rhain yn gymdeithasol dderbyniol fel chwaraeon antur, ond gall rhai eraill groesi i fod yn bethau sy’n annerbyniol yn dy farn di, fel torri rheolau neu aros allan yn hwyr.

Yn ogystal â’r holl bethau positif yn eu byd, gall bywyd arddegwyr gynnwys pethau sy’n dy dramgwyddo neu’n dy ofidio di a nhw, fel:

  • rhegi
  • partïon
  • rhyw
  • ffrindiau nad wyt ti’n or-hoff ohonyn nhw
  • pwysau gan gyfoedion
  • torri rheolau
  • arbrofi gyda chyffuriau neu alcohol.

Dysgu oddi wrth risg

Mae arddegwyr yn dysgu i ymdopi gyda heriau a phwysau bywyd ac yn mynd trwy broses o ddysgu i dderbyn cyfrifoldeb am eu dewisiadau a’u gweithredoedd eu hunain.

Mae arddegwyr yn cymryd risg yn eu bywydau bob dydd sy’n fuddiol iddyn nhw fel profiadau dysgu tra bod ganddynt y potensial i achosi loes neu siom iddyn nhw. Rydyn ni’n tueddu i dderbyn bod y rhain yn bethau y gallai pob un ohonom fynd trwyddynt. Er enghraifft, efallai y bydd dy blentyn yn ei arddegau:

  • yn wynebu risg o gael eu gwrthod pan maen nhw am ffitio i mewn gyda grŵp neu ofyn i rywun fynd allan gyda nhw
  • yn wynebu risg o beidio ennill y graddau y maen nhw’n gobeithio eu cael wrth weithio tuag at arholiadau
  • yn wynebu risg o wneud camgymeriadau cymdeithasol wrth fynd i sefyllfa newydd
  • yn risgio cael eu gwatwar neu eu camddeall pan fyddan nhw’n cyfaddef rhywbeth personol.

Gall ymddygiadau llawn risg ddigwydd pan fydd arddegwyr yn chwarae neu’n hongian o gwmpas. Mae’n bosibl bod hyn yn digwydd pan maen nhw gyda’u ffrindiau oherwydd bod hyn yn teimlo fel lle ‘mwy diogel’ i arbrofi a gwthio yn erbyn ffiniau.

Mae arddegwyr hefyd yn dysgu am risgiau y maen nhw’n teimlo sy’n dderbyniol i’w cymryd am eu rhesymau eu hunain. Er enghraifft, efallai y bydd arddegwyr sy’n frwd am achosion penodol yn cymryd rhan mewn gwrthdystiadau, gorymdeithiau, gwylnosau a gweithredu uniongyrchol. Gallai hyn olygu eu bod yn dod i gysylltiad gyda’r awdurdodau ac y caiff ei ystyried yn gymeradwy neu’n annerbyniol, yn dibynnu ar safbwyntiau pobl eraill.

Peidio poeni gormod

Er y gall bod yn rhiant neu’n ofalwr i arddegwyr fod yn ddigon dychrynllyd ar brydiau, gall dod o hyd i ffyrdd i gadw cydbwysedd fod o help.

  • Cofia, waeth beth y mae dy blentyn yn ei arddegau’n wneud, mae’n debyg nad nhw ydi’r cyntaf na’r olaf i wneud hyn.
  • Tydi hi ddim yn anarferol i arddegwyr wthio yn erbyn ffiniau i’r fath raddau fel y gallent ddod i gysylltiad â’r awdurdodau.
  • Mae’n bosibl y bydd y pethau yr wyt ti’n poeni amdanyn nhw’n ymddangos yn gymharol ddiniwed i rieni eraill, neu fel arall.
  • Efallai y bydd brwdfrydedd arddegwyr tuag at fywyd a’u dewrder i roi tro ar bethau er gwaetha’r risg yn rhywbeth y byddi’n ei edmygu.

Bydd dy arddegau dy hun yn dylanwadu ar dy ymateb tuag at ymddygiad arddegwyr. Mae’n bosibl hefyd bod gennyt farn gref am bethau sydd ddim yn iach neu yr wyt yn eu hystyried yn faterion moesol.

Gall fod o help i gofio bod gan bob cenhedlaeth ei phrofiad ei hun o’r byd a’r amgylchedd y mae'n tyfu i fyny ynddo. Tydi dy blentyn yn ei arddegau ddim yn tyfu i fyny yn yr un byd â thi. Galli eu harwain, ond mae rhaid iddyn nhw ei ddarganfod drostynt eu hunain.

Cynghorion

  • Ceisia fod yn agored i sgyrsiau a gwrando ar dy blentyn yn ei arddegau, fel eu bod yn teimlo’n ddiogel i ddweud wrthyt ti am bethau sy’n eu pryderu neu’n eu gofidio.
  • Ceisia gadw meddwl agored pam fod dy blentyn yn ei arddegau wedi gwneud rhywbeth, hyd yn oed os nad wyt ti’n hapus - efallai eu bod wedi ildio i bwysau cyfoedion, dilyn y dyrfa, penderfynu cadw cefn ffrind neu, yn syml, wedi gwneud y dewis anghywir ar y pryd. Os fyddan nhw’n sylwi nad wyt ti’n neidio i mewn i’w beio, maen nhw’n fwy tebygol o siarad gyda thi am y peth.
  • Ceisia weld ochr ysgafn pethau hefyd, gall gwneud camgymeriadau fod â’i ochr ddoniol ac efallai y bydd chwerthin gyda’n gilydd yn helpu i ysgafnu tensiwn.
  • Ceisia rannu rhywbeth o dy brofiad dy hun sy’n dangos dy fod yn deall y gall pawb wneud camgymeriadau neu ymddwyn yn annoeth weithiau. 

Paid bod ofn gofyn am help

Os wyt ti’n poeni bod dy blentyn yn ei arddegau mewn perygl o niwed difrifol neu gael eu hecsbloetio, neu os ydyn nhw wedi mynegi ofn am eu diogelwch a’u lles eu hunain, efallai y penderfyni di ofyn am help neu gyngor. Er enghraifft, efallai y byddi di am gysylltu gyda:

  • ysgol neu Feddyg Teulu dy blentyn yn ei arddegau
  • gwasanaethau sy’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i arddegwyr ar faterion penodol
  • darpariaeth ieuenctid lleol.

Cofia ofalu am dy hun hefyd. Os wyt ti’n teimlo’n iach ac wedi dy gefnogi, fe fydd hi’n haws iti gefnogi dy blentyn yn ei arddegau ac aelodau eraill o’r teulu trwy adegau anodd. Er enghraifft, gallet:

  • ddal ati gyda dy hobïau a dy ddiddordebau dy hun
  • gwneud amser i gwrdd â ffrindiau
  • mynd allan am dro neu rywfaint o awyr iach
  • gofyn am gymorth gan grwpiau neu dy Feddyg Teulu
  • chwilio am gymorth ar-lein.
English